Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹Éç Homepage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dewi Prysor DW2416
Tristwch, digrifwch a dychryn - yn hoelio cynulleidfa
  • Adolygiad Alwyn Gruffydd o gynhyrchiad Llwyfan Gogledd Cymru o Dewi Prysor DW2416

    "Rydan ni'n deulu unwaith eto."
    Dyna oedd geiriau hapus Gwyneth Williams wrth y dorf o 200 a mwy o gefnogwyr oedd wedi ymgynnull y tu allan i Lys y Goron, Caernarfon toc wedi pump o'r gloch ar brynhawn Sadwrn cyntaf mis Mawrth, 1993.

    Ychydig funudau cyn hynny, yn y llys, dyfarnwyd ei mab, Dewi Prysor Williams, yn ddieuog o gynllwynio i achosi ffrwydradau.

    Roedd hynny bedwar mis ar ddeg ers cipio'r llanc pump ar hugain oed o'i gartref yn Bronaber ger Trawsfynydd gan dditectifs yn ymchwilio i Ymgyrch Losgi Meibion Glyndŵr.

    Pedwar mis ar ddeg hunllefus.
    Pedwar mis ar ddeg oedd i daflu cysgod trwm a pharhaol dros fuchedd Dewi Prysor Williams.
    A'r pedwar mis ar ddeg hynny yw sail cynhyrchiad blaengar diweddaraf Llwyfan Gogledd Cymru; Dewi Prysor DW2416- rhif Dewi Prysor o dan glo.

    Onestrwydd anghyfforddus
    Dewi Prysor ei hun yw'r awdur.
    Ei hanes o, drwy ei lygad o, ydi o.

    Weithiau'n drist, weithiau'n ddigri. Weithiau'n ddychryn. Weithiau'n hynod sensitif. Mae elfen gref o gatharsis hen ffasiwn yma sy'n mynnu sylw ac yn esgor ar ymateb.

    Ond nid melodrama mo Dewi Prysor DW2416.
    Mae yma onestrwydd anghyfforddus yma sy'n pigo'r cydwybod - yn brathu i'r byw.

    Neges i'w fab
    Monolog yw Dewi Prysor DW2416 sydd wedi'i lleoli mewn ystafell wely glawstroffobig (nid annhebyg i gell carchar) yn dilyn yr achos llys yng Nghaernarfon.

    Yn y cynhyrchiad mae Dewi Prysor yn paratoi neges ar ffurf fideo i'w fab, Owain, sydd eto i'w eni.

    Mae'n trafod achau'r ddau. Mae'n sôn am y gwerthoedd creiddiol a berthynai i'w teulu ac a drosglwyddir o genhedlaeth i genhedlaeth.

    Amddiffyn y gwerthoedd hynny a arweiniodd at ei arestio a'i gadw yn y ddalfa ar gam meddai'r tad arfaethedig wrth ei fab arfaethedig.

    Yn Dewi Prysor DW2416 ceir llun o fywyd carcharor yn disgwyl ei dynged ynghyd â disgrifiadau, dirdynnol ar adegau, o'r agweddau annynol a berthynai i garcharorion a'u gwarchodwyr fel ei gilydd, ac fel y gall y mwyaf gwâr, mewn sefyllfa o'r fath, gwympo, heb feddwl bron, i drobwll ffiaidd a chreulon.

    Limrigau a stompiau
    Ar nodyn ysgafnach daw yn amlwg yn ystod Dewi Prysor DW2416 i'r carchariad ysgogi Dewi Prysor i ddarganfod ei ddoniau llenyddol.

    Ers hynny'n sicr bu'n hynod gynhyrchiol ac mae ei limrigau erbyn hyn, wrth gwrs, yn uchafbwynt stompiau'r wlad ac fe gyhoeddwyd detholiad ohonynt gan Wasg carreg gfwlach, Limrigau Prysor.
    Mae yna nofel a ddechreuwyd y tu ôl i'r bariau hefyd ar y gweill.

    Ysgytwol a dewr
    Ond nid drama am garchariad yn unig sydd yma.
    awn lawer iawn mwy na hynny wrth i Dewi Prysor fwrw ei fol gerbron y byd gan drafod ei ofnau mwyaf dyfnion, ei obeithion a'i ddyheadau.
    Does yna ddim ymatal. Mae'n ddrama ysgytwol.
    Mae'n ddrama ddewr iawn. Dyfrig Evans, prif leisydd y grŵp pop Topper ac un o'r prif gymeriadau y gyfres deledu Emyn Roc a Rôl, sy'n chwarae rhan Dewi Prysor, ac mae o'n berfformiad meistrolgar.

    Llwyddodd i fynd dan groen y cymeriad yn gelfydd o ran llais, ystum ac ymarweddiad.

    Prin na thaerwn ar adegau mai Dewi Prysor ei hun oedd ar y llwyfan cymaint y tebygrwydd.

    Llwyddodd hefyd gadw'r gynulleidfa ar flaenau'u seddi gydol yr awr a chwarter a barodd y cynhyrchiad. Pob gair fel cloch. Pob symudiad i bwrpas.
    Perfformiad campus yn wir.

    Llongyfarch creadigrwydd
    Cyfarwyddwr Dewi Prysor DW2416 yw Ian Rowlands ac mae yntau hefyd i'w longyfarch ar ei ddehongliad a'i greadigrwydd.

    Mae yna 12 sgrîn deledu yn rhan o'r set ar y llwyfan - pob un yn cofnodi'r hyn sy'n cael ei recordio ar gamera.

    Daw cyfarpar i'w oed pan fo sŵm y camera ar waith. Sŵmio i fewn i atgyfnerthu angerdd. Sŵmio allan er mwyn lleddfu'r angerdd hwnnw.
    Effeithiol odiaeth.

    Unwaith yn unig y defnyddir cyfarpar playback yr offer recordio a hynny er mwyn ail ddangos golygfa fwyaf cignoeth y cynhyrchiad.

    Buasai defnyddio'r un tric ddwywaith wedi bod yn orddefnydd ac yn colli'r effaith a fwriadwyd.

    Bu'r goleuo hefyd yn hynod effeithiol ar adegau i gyfleu naws ac chreu awyrgylch

    Doniol o amlwg
    Os oes beirniadaeth ar y cynhyrchiad o gwbl yna mae fy llach at yr effeithiau sain.
    Teimlwn eu bod bron yn ddoniol o amlwg ar adegau ac yn tynnu oddi wrth ddifrifoldeb a dwyster gweddill y cyflwyniad.

    Mae angen cynildeb os yw sain i gyfrannu'n deilwng tuag at greu'r emosiwn dramatig pwrpasol.

    Cymaint o rym
    Ond ar ôl dweud hynny mae Dewi Prysor DW2416 yn brofiad theatrig digamsyniol o ran y sgript, yr actio a'r llwyfannu.

    Cymaint yw grym y ddrama yr eisteddodd y gynulleidfa y bum i'n rhan ohoni yn Theatr Ardudwy, Harlech, yn llonydd yn eu seddi ar ddiwedd y perfformiad.

    Roeddynt yn methu â symud - yn syfrdan gan yr hyn oeddynt wedi ei weld a'i glywed.

    Ni wn pryd y gwelais i ymateb o'r fath gan gynulleidfa o'r blaen.

    Ar ddiwedd y ddrama mae Dewi Prysor yn llawn gobaith am y dyfodol ac am deithio i weld mam ei fab er mwyn ceisio ail gynnau'r fflam.

    Fe wyddys erbyn hyn iddo lwyddo yn ei ymdrechion. Mae'r ffiol yn llawn a'r llun yn gyfan.
    Maen nhw yn deulu unwaith eto.

    Gweddill y daith:
  • Rhagfyr 1 a 2 Theatr Gwynedd, Bangor
  • Rhagfyr 5 Canolfan Gymunedol, Llanrwst
  • Rhagfyr 9 Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug
  • Rhagfyr 10 Galeri, Caernarfon
  • Rhagfyr 12 Lleoliad iiw gadarnhau
  • Rhagfyr 15 Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
  • Rhagfyr 17 Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog

  • Cysylltiadau Perthnasol

    Limrigau Prysor - adolygiad


    cyfannwch

    Deiniol Thomas
    Mae cynhyrchiad oedd i fod yn Llanrwst ar Rhagfyr 5ed, bellach yn cael ei gynnal yn Neuadd Goffa Ysbyty Ifan ar nos Fercher, Rhagfyr 7fed am 7:30pm.

    Gweddill y Daith
    Wedi newid i: Rhagfyr 1af + 2il - Theatr Gwynedd, Bangor Rhagfyr 7fed - Neuadd Goffa, Ysbyty Ifan Rhagfyr 9fed - Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug Rhagfyr 10fed - Galeri, Caernarfon Rhagfyr 12fed - Yr Institute, Llanfair Caereinion Rhagfyr 14eg - Theatr Twm O’r Nant, Dinbych Rhagfyr 15fed - Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth Rhagfyr 17eg - Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog



    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý