| |
|
Branwen - adolygiad Aros yn y cof
Adolygiad Glyn Jones o Branwen. Llwyfan Gogledd Cymru. Theatr Gogledd Cymru, gan Ifor ap Glyn a Darach Ó Scolai
Cast: Dafydd Dafis, Ffion Dafis, Stephen D'Arcy, Bridin Nic Dhonncha.
Peidiwch da chi a gwneud y camgymeriad a wnes i o fentro i Theatr Gwynedd ar nos Iau oer a disgwyl gweld Bendigeidfran a Matholwch yn ymladd ar y llwyfan.
Nid fersiwn theatrig o'r Mabinogi yw'r ddrama hon o gwbl ond drama fodern a chwedl Branwen yn gefndir iddi.
Saesneg, Cymraeg a Gwyddeleg Peidiwch 'chwaith a disgwyl clywed Cymraeg y canoloesoedd yn nofio ar yr awyr. Drama dairieithog yw hon, yn Saesneg yn bennaf, ond gyda sawl deialog mewn Cymraeg a Gwyddeleg.
Be allwch chi ddisgwyl felly? Wel, drama gwirioneddol bwerus sy'n rhoi ein gwerthoedd personnol, teuluol a chymdeithasol dan y chwyddwydr, gan fwrw golwg ar y berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon hefyd.
Wedi bod yn gariadon Stori yw am Gymraes a Gwyddel sy'n cael eu comisiynnu i ysgrifennu fersiwn o chwedl Branwen ar gyfer y teledu. Dyma'r cysylltiad â'r chwedl, welwch.
Ond, mae'r ddau ysgrifennydd yn digwydd bod yn gyn gariadon ac wrth iddynt fynd rhagddi a'u gwaith mae sawl cyfrinach o'r gorffennol yn mynnu dod i boenydio'r ddau.
Brad, twyll, anonestrwydd a chelwydd yw'r themâu ar waith yn y ddrama hon a gwelwn y canlyniadau erchyll sy'n digwydd pan fo dyn yn gadael i'w deimladau fynd yn drech nag ef.
Y mae sawl golygfa gwirioneddol gignoeth yn aros yn y cof. Golygfeydd a'm tynnodd yn agos iawn at ddagrau.
Ac eto, roedd sawl golygfa yn dod â gwên i'r wyneb ac yn llenwi'r awyr â chwerthin - prawf sicr o ddrama lwyddiannus, a rhaid canmol yr ysgrifenwyr am eu hegni a'u dychymyg.
Ni allaf beidio a rhyfeddu at ddawn yr actorion hefyd. Roeddent yn bobl go iawn mewn sefyllfaoedd go iawn. Medrwn weld y byd drwy lygaid pob un ohonynt.
Ac nid cynhyrchiad hawdd mo hwn i'w actio. Mae gofyn am ddefnydd dychmygus o lwyfan gyda gofal arbennig efo'r tair iaith.
Heb amheuaeth, mae'r ddrama yn gam ymlaen yn y theatr fodern.
Gormod o regi A'r gwendidau? Rhegi! Fy nghas perffaith ar lwyfan. Y mae ein dramodwyr cyfoes fel petaent dan yr argraff bod dechrau pob brawddeg gydag 'F' yn adlewyrchu'r byd modern a realaeth.
I mi, nid yw ond yn awgrymu ffŵl o lenor sydd yn ceisio bod yn cŵl ac na all feddwl am ffordd arall o ddangos arferion yr oes a gormes y Saesneg ar ein hiaith.
Mae clywed geiriau felly ynghanol araith brydferth Wyddelig yn hollol annaturiol ac yn difetha holl naws y darn.
Gallwn glywed iaith felly am ddim ar y stryd heb dalu pum punt i'w chlywed mewn theatr.
Credaf hefyd bod deialogi darn neu ddau braidd yn fler. Cymraeg a Gwyddeleg drwy'i gilydd, yn hytrach na thoddi'n naturiol o un iaith i'r llall.
Ceisiwn ddilyn y sgwrs, a'r actio, ac edrych ar y cyfieithiad ar yr un pryd, ond mynd ar goll yn lân wnes i. Ond ysgwn i os oedd hyn yn fwriadol? Ceisio colli'r gynulleidfa mewn cyfieithiad?
Cysylltiad arall Wedi mi adael y sylweddolais y cysylltiad arall gyda chwedl Branwen. Y problemau yr oedd hi'n eu hwynebu ganrifoedd yn ôl oedd yr un rhai yn union a'r rhai roedd y cymeriadau ar y llwyfan yn eu hwynebu, a hynny yn yr unfed ganrif ar hugain.
Ni sylweddolais erioed fod y Mabinogi mor fodern, na chwaith cyn lleied yr ydym ni fel pobl wedi newid.
Er y credaf mai drama i bobl ifanc yw hon i fod byddwn yn ei hargymell i unrhyw un. Bydd yn agoriad llygaid yn sicr. Naw allan o ddeg.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Alwyn Gruffydd
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|