Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹Éç Homepage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Bitsh! ar daith drwy Gymru
Addasiad John Ogwen o nofel Eirug Wyn
Mae un o nofelau Eirug Wyn wedi ei throi yn ddrama lwyfan gan un o action mwyaf adnabyddus Cymru - John Ogwen. Bitsh fydd cynhyrchiad cyntaf erioed y cwmni theatr mewn addysg, Cwmni'r Fran Wen, i fynd ar daith drwy Gymru gyfan.

Bydd y daith yn cychwyn yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli, Hydref 10, gan ymweld â Bangor, Aberystwyth, Caerfyrddin, Casnewydd, Harlech a Rhuthun.

Gwobrwywyd y nofel wreiddiol yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 dan amgylchiadau dwys iawn.

Cynulleiudfa newydd
Dywed Cwmni'r Fran Wen - sydd wedi bod yn cynhyrchu dramâu ar gyfer disgyblion ysgol ers blynyddoedd lawer - mai'r bwriad gyda'r cynhyrchiad hwn yw denu cynulleidfa newydd i'r theatr Gymraeg.

"Ein nod wrth deithio Bitsh yw ymateb yn uniongyrchol i anghenion sefyllfa bresennol y theatr Gymraeg, sef yr angen dybryd i ddenu cynulleidfa newydd," meddai Ceri Owen, Swyddog Marchnata'r cwmni.

"Credwn fod Bitsh yn gyfle gwych i agor cil y drws ar fyd y theatr brif ffrwd Gymraeg i drawsdoriad eang o gynulleidfa, yn fynychwyr hen a newydd fel ei gilydd," ychwanegodd.

Dwys a ffraeth
Mae'r addasiad gan John Ogwen yn cael ei ddisgrifio fel un dwys a phwerus sydd hefyd yn frith o ffraethineb.

Poster y daith Yr actorion fydd Carwyn Jones, Rhian Blythe, Catrin Fychan, Jonathan Nefydd, Maldwyn John, Eilir Jones a Mari Wyn.

Mae'r stori yn troi o gwmpas gwewyr Abi, sy'n gweithio yn Woolworth, i ddod i delerau â'i rywioldeb yn y Chwedegau.

Trwy ei atgofion ef caiff y gynulleidfa ei thywys drwy'r degawd gyda cherddoriaeth y Stones, y Beatles a Bob Dylan yn gefndir.

"Wrth i Abi dwrio drwy ei atgofion, daw'r caneuon yma â chysur pendant wrth iddo geisio canfod yr atebion hynny sy'n angenrheidiol i ddeall ei orffennol," meddai Ceri.

"Cyffyrddir â themâu oesol dynolryw: bywyd a marwolaeth, cenedl ac unigolyn, rhyddid a chaethiwed, cariad a chasineb," meddai.

Tyddewi
Yr oedd yr achlysur yn Eisteddfod Tyddewi, pan dderbyniodd Eirug Wyn ei wobr yn un emosiynol ag yntau wedi cael gwybod iddo ennill y wobr a chael gwybod ei fod yn dioddef o ganser o fewn deuddydd i'w gilydd.

Dywedodd wedi'r seremoni i'r edrych ymlaen at y diwrnod fod yn fodd i'w gynnal yn ystod triniaeth feddygol egr. Ni wyddai tan y munud diwethaf a fyddai'n ddigon cryf i fod yn bresennol.

Yr eildro
Dim ond yr eildro yw hwn i Gwmni'r Fran Wen gynhyrchu drama prif lwyfan. Yn 2004 llwyfannwyd Stags a Hens, cyfieithiad Bethan Gwanas o ddrama Willy Russell ond dim ond yn y gogledd y perfformiwyd honno.

"Mae Bitsh! yn dynodi carreg filltir arbennig yn hanes y cwmni wrth inni dorri cwys newydd a mentro i deithio'n genedlaethol," meddai Ceri.

fgh
  • Yr oedd Eirug Wyn yn un o lenorion mwyaf cynhyrchiol a phoblogaidd Cymru. Enillodd wobr Daniel Owen a'r Fedal Ryddiaith ddwywaith.

    Cyhoeddodd 15 o gyfrolau er 1992 gan gynnwys: Y Dyn yn y Cefn Heb Fwstash (2004), Powdwr Rhech (2001) a Tri Mochyn Bach (2000)

    Bu farw wedi brwydr hir yn erbyn canser, fis Ebrill 2004.

  • Er yn fwy adnabyddus fel actor mae John Ogwen wedi sgrifennu o'r blaen ar gyfer y theatr gan gynnwys Un Nos Ola Leuad ac y mae disgwyl mawr am ei addasiad o Bitsh!.

    Y daith
    Nos Fawrth, 10 Hydref 2006 - Neuadd Dwyfor, Pwllheli.
    Nos Fercher, 11 Hydref 2006- Neuadd Dwyfor, Pwllheli.
    Nos Iau, 12 Hydref 2006 - Theatr Gwynedd, Bangor.
    Nos Wener, 13 Hydref 2006 - Theatr Gwynedd, Bangor.
    Nos Sadwrn, 14 Hydref 2006 - Theatr Gwynedd, Bangor.
    Nos Fawrth, 17 Hydref 2006 - Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
    Nos Fercher, 18 Hydref 2006 - Theatr yr Halliwell, Caerfyrddin.
    Nos Wener 20 Hydref 2006 - Theatr Glan yr Afon, Casnewydd.
    Nos Fawrth, 24 Hydref 2006 - Theatr Ardudwy, Harlech.
    Nos Fercher, 25 Hydref 2006 - Theatr Ardudwy, Harlech.
    Nos Iau, 26 Hydref 2006 - Theatr John Ambrose, Rhuthun.
    Nos Wener, 27 Hydref 2006 - Theatr John Ambrose, Rhuthun.
  • Pob perfformiad yn dechrau am 7.30
  • Cynhyrchiad ar gyfer rhai dros 14 oed yw hwn.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Eirug Wyn yn Eisteddfod Tyddewi

  • Cwmni'r Fran Wen - gwefan sy'n cael ei datblygu



  • cyfannwch

    Rhiannon Thomas o Aberystwyth
    Pam mae dim ond un noson mae'r ddrama hon yn Aberystwyth ag yn ardaloedd y Gogledd am ddwy neu dair noson



    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý