| |
|
Llyfr Mawr y Plant Mwynhad ond heb gân yn canu yn y clustiau!
Cafodd taith Llyfr Mawr y Plant gychwyn da yn Theatr Gwynedd Bangor gyda'r tocynnau i gyd wedi eu gwerthu ar gyfer addasiad llwyfan Gareth F Williams o lyfr plant gyda'r mwyaf adnabyddus erioed yn y Gymraeg.
Ar gyfer rhaglen radio Dewi Llwyd Angharad Llwyd fu'n gweld y sioe gerdd - gydag elfennau o bantomeim ynddi - a lwyfannwyd ar y cyd gan Theatr Bara Caws, Theatr Gwynedd a Galeri, Caernarfon.
"Yr oedd y theatr yn llawn dop o blant a theuluoedd ac mae'n rhaid imi ddweud na chawsom ni mo'n siomi ac mi gawsom ni wledd o ganu a dawnsio ac mi roedd y llwyfan yn lliwgar iawn ar hyd y cwbwl," meddai Angharad Llwyd.
Hudolus "Yr oedd hi yn sioe reit hudolus ac yr oeddech chi'n cael y teimlad yma eich bod yn cael mynd i rhyw fyd arall - byd Gwlad y Cnau.
"Yr unig beth, yr oeddwn i'n teimlo dipyn bach allan o le nad oedd gen i yr 'acsesori' o blentyn i fynd yno efo fi oherwydd sioe i blant ydi hon - ond mi wnes ei mwynhau yr un peth achos yr oedd rhywun yn cofio cymeriadau fel Wil Cwac Cwac a Siôn Blewyn Coch ac yn cael ei yrru'n ôl i fyd ei blentyndod.
Codi braw "Ond plant oedd hanner y gynulleidfa - rhai ohonyn nhw erbyn y diwedd wedi syrthio i gysgu ac ambell un yn dechrau crio eisiau mynd adref achos yr oedd yna ambell i olygfa reit dywyll [yn] codi braw.
"Yr oedd yna un olygfa lle't oedd yna hen wraig fach yn cael ei hactio gan Delyth Eurwyn . . . ac roedd ganddi chwerthiniad reit gras ac roedd honno yn codi arswyd ar ambell i blentyn.
"A golygfa efo rhyw ddyn eira anferthol - roedd o'n edrych yn ffantastig - ond roedd yr hogan bach yma tu nôl i mi yn dweud, 'Pryd mae hwn yn gorffen Mam?'" meddai.
Rhy hir
Ychwanegodd bod y cynhyrchiad "dipyn bach yn hir" hefyd i blant gyda dau hanner, awr yr un, ac egwyl rhyngddynt.
"Yr oedd y cymeriadau yn wych ac mae'n rhaid imi ganmol Sian James yn gwneud ei phortread hi o Begw.
"Yr oedd ei phortread hi a'r wynebau roedd hi'n wneud yn ffantastig," meddai.
Eglurodd mai'r llinyn sy'n uno'r gwahanol olygfeydd â'i gilydd yw breuddwydio'n rhyfedd cymeriad o'r enw John sy'n wael yn ei wely a ffrind o'r enw Jennie yn ymweld ag ef a'r ddau wedyn yn cofnodi'r breuddwydion hynny yn straeon Llyfr Mawr y Plant.
"Roeddwn i'n lecio'r syniad bach yna" meddai.
Aros yn y cof Ond gofidiai nad oedd alaw neu gân arbennig yn canu yn ei chlustiau wedi iddi adael y sioe.
"Doeddwn i ddim yn teimlo fod . . . yna diwn yn aros yn y cof er eu bod nhw'n ganeuon grêt, yn ganeuon neis iawn, ond efallai y buasem ni wedi medru cael rhywbeth oedd yn aros yn y cof ychydig bach yn fwy," meddai.
Ond ar y cyfan dywedodd iddi gael ei phlesio. "Roedd o'n edrych yn dda, ac roedd y cymeriadau yn symud yn wych ac roedd pawb wedi mwynhau er bod ambell un wedi blino!" meddai.
Darlledir Rhaglen Dewi Llwyd rhwng 0830 a 1000 bob bore Sul ar Â鶹Éç Radio Cymru.
|
|
|
|