|
Hen Bobl Mewn Ceir Skoda ynteu Ferrari?
Adolygiad Dafydd Llewelyn o Hen Bobl Mewn Ceir gan Meic Povey. Sgript Cymru.
'Dan ni'n byw mewn oes lle mae obsesiwn ynglŷn â byw bywyd i'r eithaf, neu a defnyddio ymadrodd o'r iaith fain, byw bywyd yn y fast lane.
Prydau bwyd cyflym, offer technolegol cyflym, ceir lliwgar a chyflym - mae pawb yn y byd modern i'w gweld yn byw gan milltir yr awr.
Fodd bynnag, yr hyn a geir yn nrama ddiweddaraf Meic Povey yw hynt a helynt dau gymeriad sy'n teimlo bod treialon bywyd yn eu llethu, a bod y byd fel petai wedi'u hen adael ar ôl.
Er y gesyd y cyfan mewn ysbyty i'r henoed, canolbwyntia'r ddrama ar ddau weithiwr o fewn y sefydliad, sy'n credu bod eu bywydau yn fwy truenus na'r cleifion llesg sydd dan eu gofal.
O dipyn i beth, gwelir cyfeillgarwch Ceri a Roy yn datblygu a chryfhau, gyda'r ddau'n byw mewn gobaith bod eu 'perthynas' yn mynd i gynnig ryw lun o ystyr i'w bywydau a'u bodolaeth.
Ysywaeth, fel gyda phob perthynas, mae delfrydiaeth a realiti yn dra gwahanol, ac yn hytrach na chyfoethogi'u bywydau, pentyrrir y cymhlethdodau a'r problemau wrth i'r ddau gymeriad geisio gwneud synnwyr o'u 'perthynas'.
Rhyw a marwolaeth Wrth gael ei gyfweld ar gyfer lansiad y ddrama hon, cyfaddefodd yr awdur mai'r ddau beth sy'n gwbl sylfaenol ac allweddol mewn bywyd, yw rhyw a marwolaeth.
Ymdebyga gosodiad o'r fath i'r hyn oedd yn ffasiynol yn y theatr Ewropeaidd yn ystod hanner olaf y ganrif ddiwethaf - fodd bynnag, gwahaniaeth sylfaenol rhwng gweithiau y dramodwyr hynny a chynhyrchiad diweddaraf Sgript Cymru, yw'r ffaith bod Povey wedi rhoi gwedd naturiolaidd neu realaeth i'r cyfan.
Rhinwedd hynny yw bod y ddrama'n gweithio ar wahanol lefelau, gan olygu ei bod yn fwy hygyrch a haws i'w gwerthfawrogi.
Nid peth hawdd Nid gwaith rhwydd yw cynnal drama lwyfan awr a hanner o hyd gyda dau gymeriad yn unig, ac o'r herwydd roedd yn gwbl ofynnol bod yr actio, ynghyd â'r sgript yn cynnal y diddordeb.
Roedd perfformiad a phortread Alun ap Brinley yn dipyn cryfach ac yn fwy argyhoeddedig na'r hyn a gafwyd gan Eiry Hughes.
Er, o ran tegwch â hi, perfformiad y noson gyntaf sy'n sail i'r sylwadau hyn, ac wrth i'r daith fynd rhagddi, does ond gobeithio y daw'r hyder a'r cadernid i'w rhan.
Yr ugain munud cyntaf Hyrwyddwyd y cynhyrchiad fel 'comedi dywyll ddu' - ac er nad wyf yn rhy hoff o label o'r fath - cynigiodd testun a lleoliad y ddrama digon o sgôp am hiwmor amrwd ac, yn sicr, roedd ugain munud cyntaf y ddrama'n hynod o gryf o ran hiwmor a ffraethineb.
Yn anffodus, wrth i'r ddrama fynd rhagddi, gwelwyd yr agwedd hon yn ildio'i lle i ddeunydd ychydig yn fwy difrifol, a oedd yn drueni.
Er y gallesid fod wedi tocio ryw gymaint ar y testun, roedd y ddrama'n cydio'n nychymyg y gynulleidfa, a hynny'n bennaf oherwydd cryfder a chyfoeth y ddeialog.
Iaith y gorllewin Mae dipyn o sbloets wedi'i wneud o'r ffaith mai hon yw'r ddrama gyntaf i Meic Povey ei hysgrifennu yn iaith y gorllewin, a chafwyd cyffyrddiadau gwirioneddol fendigedig o fewn y ddrama, a gwelwyd un o gryfderau Povey yn amlygu'i hun wrth iddo lwyddo i hebrwng y gynulleidfa o'r naill emosiwn i'r llall yn rhwydd iawn.
Gwerth ei gweld Yn sicr, mae'r ddrama hon werth ei gweld, ac er efallai nad yw'n datgelu unrhyw wirioneddau mawr, nac yn torri tir newydd, ni ddylid o reidrwydd ystyried hynny fel gwendid.
Yn yr oes gan milltir yr awr wyllt sydd ohoni, mae'n braf weithiau cael eistedd nôl a gwylio drama gonfensiynol dda, a chael dianc rhag treialon bywyd dyddiol.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|