|
Breuddwyd Noswyl Ifan Gweld y claque ar waith!
Adolygiad Gwyn Griffiths o Breuddwyd Noswyl Ifan gan Gwyn Thomas. Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd. Canolfan Gartholwg, nos Fercher, Gorffennaf 17, 2007.
Cymysgfa Tipyn o gymysgfa yw'r gomedi Breuddwyd Noswyl Ifan (A Midsummer Night's Dream).
Pwysodd Shakespeare ar elfennau o weithiau Plutarch, Chaucer, Ovid ac, am wn i, chwedl Trystan ac Esyllt.
Mae cymysgfa'r stori, oherwydd hynny, yn rhoi cyfle i amrywiaeth dda o ddoniau perfformio gan gynnwys dawns a chân yn ogystal ag actio ac fe fu i ddyfeisgarwch Theatr Ieuenctid yr Urdd - Talaith y De - ychwanegu'n sylweddol at hynny o ddawns oedd yn y fersiwn wreiddiol.
Yn y canol Gosodwyd y prif chwaraele yng nghanol theatr fechan Canolfan Gymunedol Gartholwg, Pentre'r Eglwys, ger Pontypridd, gyda'r gynulleidfa yn wynebu ei gilydd o'r ddwy ochr.
Er y gall hynny weithio'n ardderchog ar adegau bu'n achos problem yn y perfformiad hwn a phan oedd actorion a'u cefn tuag ataf yr oedd yn anodd deall eu geiriau.
Mewn theatr neu neuadd lle mae'r muriau'n foel nid yw hyn yn anhawster gan fod y sain yn adleisio oddi ar y muriau.
Yn anffodus, yma, roedd y llenni trymion o fewn y theatr yn llyncu'r seiniau ac yr oedd llefaru oedd un eiliad yn glir fel grisial, yr eiliad nesaf yn cael ei fygu fel pe mewn sachaid o wlân.
Yn dda Hoffais berfformiad Erin Dafydd fel Helena hynod o 'stropi'. A dweud y gwir buaswn wedi hoffi ei gweld hi'n chwarae rhan Hermia - a Becky Gillard, oedd yn chwarae'r rhan hwnnw, yn chwarae Helena. Roedden nhw'i dwy yn dda.
Daeth y perfformiad yn fyw gydag ymddangosiad "cwmni drama" - Quince, Snug, Bottom, Flute, Snout a Starveling. Dyna beth oedd criw o fechgyn a oedd wrth eu boddau gyda'r slapstic.
Rhyfedd y gwahaniaeth sydd yna rhwng mynd i weld drama newydd sbon - e.e. perfformiad cyntaf o ddrama gomisiwn - a drama, fel un o weithiau Shakespeare, lle cymerir yn ganiataol ei bod yn gyfarwydd i'r gynulleidfa.
Ond ni theimlais fod y ddrama'n wir gyfarwydd i gynulleidfa'r noson yr oeddwn i'n bresennol ac o'r herwydd ni chai'r perfformwyr ifanc yr ymateb a haeddent.
Pan fo'r gynulleidfa'n llwyr gyfarwydd â'r stori yna ni raid poeni am fanion - fel yn achos Puck a gwlith y blodyn hud.
Ychwanegu at y bywiogrwydd Ychwanegwyd at fywiogrwydd y noson yn fawr gan rywbeth nad oedd, am wn i, wedi ei gynllunio.
Ar ôl gorffen eu rhan nhw o'r ddrama ymunodd y criw bach o ddawnswyr â'r gynulleidfa, gan chwerthin yn braf ac yn amlwg yn mwynhau gwaith eu cyd actorion.
Ar un adeg gyda pherfformiad o opera neu ddrama newydd sbon yr oedd yn arferiad 'plannu' nifer o bobol oedd wedi bod i'r ymarferion yn y gynulleidfa a'r rheini'n gwybod pryd i gymeradwyo a lle i hisian a lle i fod yn dawel er mwyn cymell gweddill y gynulleidfa i ymateb yr un modd. Nhw oedd y claque.
Y noson hon, gwelais beth fedrai claque ei wneud i wella perfformiad ac ychwanegodd brwdfrydedd y criw bach yma yn fawr at fy mhleser ar y noson!
Gwaith Gwyn Thomas yw'r addasiad Cymraeg o'r ddrama a deuai'r actorion a'r tîm cynhyrchu o Ysgolion Uwchradd Bro Morgannwg, Y Cymer, Glantaf, Gwynllyw, Llanhari, Plasmawr, Rhydfelen a Rhydywaun.
Llongyfarchiadau iddynt bob un.
Mae ail berfformiad Nos Fercher, yng Nghanolfan Gymunedol Gartholwg am saith.
Rhagor am daith 2007 Cwmni Theatr ieuenctid yr Urdd
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|