|
Tafliad Carreg Direidi'n troi'n drychineb
Adolygiad Glyn Evans o Tafliad Carreg. Theatr Arad Goch. Theatr Elwy, Llanelwy. Chwefror 8, 2006
Ail agor hen gŵys mae Theatr Arad Goch gyda'i gynhyrchiad cyntaf ar gyfer 2006. Perfformiwyd Tafliad Carreg gyntaf gan y cwmni theatr mewn addysg hwn bum mlynedd yn ôl a chystal y derbyniad a gafodd y ddrama fer ond ysgytiol hon nid yw'n syndod i'r cwmni ddychwelyd ati.
Trosiad o Stones gan Tom Lycos a Stefo Nantsou ydi Tafliad Carreg ac wedi ei sylfaenu ar stori wir o Awstralia yn ymwneud â helynt dau fachgen 15 ac 13 oed (Owain Llŷr Edwards ac Iwan Charles) sy'n cael eu dwyn gerbron llys wedi eu cyhuddo o ladd modurwr trwy daflu carreg at ei gar oddi ar bont dros ffordd brysur.
Y sbardun i'r awduron oedd pennawd ymfflamychol mewn papur newydd yn Awstralia lle bu'r digwyddiad, "Boys on Death Charge".
Cefndir Cymreig Ar gyfer cynhyrchiad Arad Goch addaswyd y stori ar gyfer amgylchiadau yng Nghymru - Jones a Roberts yw'r ddau blismon er enghraifft ac y mae cyfeiriadau at bethau fel 'profiad gwaith' ac yn y blaen.
Yn nodweddiadol o Arad Goch mae'r sgript wedi ei theilwrio ar gyfer disgyblion ysgol - cyfoedion y ddau fachgen yn y stori - ac i fod yn sbardun i drafodaeth ymhlith y disgyblion wedi'r perfformiad.
Yn anffodus, gan mor brin y gynulleidfa mewn perfformiad gyda'r nos yn Theatr Elwy, Llanelwy, cafodd yr elfen honno o drafodaeth ei hepgor ac yr oedd hynny yn golled amlwg gan fod cymaint o bethau yn yr awr hon o ddrama y gellid dal pen rheswm ynglŷn â hwy.
Egniol Ymhlith yr elfennau yr oedd y syniad o gyfiawnder, natur anystywallt pobl ifanc, eu perthynas â'i gilydd, eu hagweddau ac agweddau pobl tuag atyn nhw.
.
Yn naturiol, ac yntau ond yn parhau am awr, mae hwn yn gynhyrchiad egniol gyda digon o fynd a chyffro ynddo.
A chyda dim ond dau actor yn cymryd rhan mae'r gofynion yn fawr arnyn nhw nid yn unig yn gorfod chwarae rhan y ddau fachgen ond hefyd gymeriadau eraill a throi, o bryd i'w gilydd, yn 'storïwyr' hefyd.
Dygymod yn iawn Mae'n deg dweud i Iwan Charles ac Owain Llŷr Edwards ddygymod yn foddhaol a'r gofynion hyn a'r alwad ychwanegol arnyn nhw i feimio a chreu eu heffeithiau sain eu hunain - sŵn ceir yn pasio ac yn y blaen ac yr oedd hyn yn llawer mwy effeithiol nag a fyddai rhywun yn ei dybio o ddarllen am y peth fan hyn.
Gwnaed defnydd helaeth o ychydig iawn o bropiau hefyd.
Er mai cyfyngiadau cwmni bychan ar daith sy'n gorfodi teilwrio o'r fath daeth y cyfan at ei gilydd yn daclus ac effeithiol iawn ac er yn ddrama drist a thrasig yn ei hanfod y mae pethau i oglais cynulleidfa hefyd.
Mae'r portread o'r berthynas rhwng y ddau fachgen yn un craff iawn - yr hynaf yn cymell a'r ieuengaf eisiau plesio ac yn gorfodi ei hun i wneud rhai pethau rhag cael ei ystyried yn gachgi.
Perthynas sy'n gymysgedd od o gyfeillgarwch a gormes yw hon - un o annifyrrwch a brawdgarwch mewn antur.
Diweddarwyd rhywfaint ar iaith a chyfeiriadaeth y cynhyrchiad gwreiddiol ar gyfer 2006 ond yn y gwraidd yr un cynhyrchiad â'r gwreiddiol yw hwn hyd y gallaf gofio.
Yn 2000 daeth y dramodwyr o Awstralia i Gymru i gynhyrchu ond y tro hwn Sêra Moore Williams sy'n cynhyrchu.
Canmolodd Iwan Charles y ddrama am fod mor berthnasol i fywydau pobl ifainc heddiw gyda'i chymysgedd o "angst a hiwmor".
Dechreuodd y daith yng Nghasnewydd ar Chwefror 6, 2006.
Manylion taith 2006 Chwefror 6- Riverfront, Casnewydd, 1.30pm & 7.30pm, Swyddfa Docynnau 01633 656757 7 - Ysgol Bryntawe, Abertawe, Menter Iaith Abertawe 01792 460906
8 - Theatr Elwy, Ysgol Glan Clwyd, John Evans 01745 582611
9 - Neuadd Dwyfor Pwllheli, 1.30pm & 7.30pm, Swyddfa Docynnau 01758 704088
13 - Galeri, Caernarfon , Swyddfa Docynnau 01286 685222
14 - Muni, Pontypridd, 1pm, Swyddfa Docynnau 01443 485934
15 - Ysgol Bro Morgannwg, Menter Bro Morgannwg 01446 720600
17 - Neuadd Bronwydd, Iwan Evans, Menter Taf Myrddin 01994 241222
21 - Chapter, Caerdydd, 8pm, Swyddfa Docynnau 02920 304400
23 - Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth, 6.30pm 01970 617998
27 - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre, (English Performance), Box Office 01970 623232
28 - Theatr Llwyn, Ysgol Uwchradd Llanfyllin, Dux 07817175305 Mawrth 1 - Neuadd Dinas Mawddwy, Clwb Ffermwyr Ifanc Dinas, Gwawr 01650 511946
2 - Canolfan Gymunedol Penmaenmawr, Menter Conwy, 01492 642357
3 - Theatr Gwynedd, Bangor 01248 351708
6 - Ysgol Gyfun Ystalafera, Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot 01792 864949
7 - Ysgol y Cymer, Menter Rhondda, 01685 882299
8 - Theatr Ardudwy, Harlech 01766 780667
9 - Ysgol Uwchradd Caergybi/ Holyhead High School, Cyngor Sir Ynys Môn, 01248 752939 (English Performance)
10 - Ysgol Bro Ddyfi, Nicola Dunkley, Gwasanaeth Ieuenctid Powys,
01654 703514
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
|