|
Siwan - adolygiadau 'Llwyfan i ddrama radio.' Barn Vaughan Hughes ac Iwan Edgar
Adolygiad Vaughan Hughes o Siwan gan Saunders Lewis. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru. Perfformiad agoriadol yn Theatr Gwynedd Bangor, nos Fercher Mai 7, 2008.
Roedd hi'n chwarter wedi saith yr hwyr ar ddiwrnod poetha'r flwyddyn. Wrth yrru dros bont y Borth am Fangor roeddwn i'n eithaf eiddigeddus o'r teuluoedd a welwn yn drachtio eu diodydd, a drachtio'r olygfa, wrth gysgodi o'r gwres hirhoedlog dan ambarelau gardd gwrw'r Antelope.
Ac i wneud pethau'n waeth roeddwn i'n ymwybodol iawn o eironi'r hyn a oedd ar fin digwydd imi. Mewn cwta bum munud byddwn yn amddifadu fy hun o'r heulwen braf er mwyn mynd i mewn i theatr dywyll, glos i adolygu'r hyn sydd, mewn gwirionedd, ... yn ddrama radio!
Dyfeisiadau radio Rhag ofn i unrhyw un gamddeall, nid beirniadaeth slei, dan din mo hynny. Drama radio ydi Siwan. Dyna'r gwir.
Ar wasanaeth radio'r Â鶹Éç yr ymddangosodd hi gyntaf ar Ddydd Gŵyl Dewi 1954 a dyna pam fod y ddrama drwyddi draw yn llawn o effeithiau sain a dyfeisiadau-drama-radio.
Mae'r morthwylio a'r llifio sy'n digwydd yn y broses o adeiladu crocbren Gwilym Brewys, a thranc y creadur druan, i gyd yn digwydd oddi ar y llwyfan.
Dibynnwn yn llwyr ar y ffaith bod Alis y forwyn yn gweithredu fel sylwebydd ar ran ei meistres - a hefyd ar ein rhan ninnau'r gynulleidfa:
"Dos at y ffenest', Alis, a dywed be' sy'n digwydd," ydi gorchymyn Siwan.
Byddai beirniad mwy sinigaidd na fi yn mynnu holi sut fath o ddrama lwyfan, mewn difrif calon, ydi drama lwyfan sydd â'i huchafbwynt dramatig, sef crogi toy boy merch brenin Lloegr, yn digwydd yn ein clyw ond nid o flaen ein llygaid?
Mae'r ddyfais yn gweithio'n ardderchog ar y radio. Tasg anos o lawer ydi ei thrawsblannu o'r radio i'r llwyfan.
Drama fydryddol Ychwaneger at hynny'r ystyriaeth hollbwysig mai drama fydryddol ydi Siwan. Golyga hynny bod meistrolaeth Saunders Lewis dros y vers libre yn rhoi pleser pur i'r sawl sy'n hoffi darllen a chlywed barddoniaeth.
Ar yr un pryd, mae'n gwbl hanfodol bod cyfarwyddydd a chast y ddrama heriol hon, boed ar radio neu ar lwyfan, yn gallu cyfleu'r ystod eang o rythmau, pwyslais, saib a goslef mae'r fydryddiaeth yn ei hawlio.
Yn rhannol yn unig - a hynny'n ysbeidiol - y teimlais fod cyfiawnder llwyr yn cael ei wneud â godidowgrwydd y geiriau.
Roedd hynny'n wir ar y noson agoriadol am bob un o'r cast, i wahanol raddau a gresyn am hynny gan fod Siwan yn cynnwys trysorfa o linellau grymusaf y ddrama Gymraeg:
"Rhodd enbyd yw bywyd i bawb." "Unwaith, cyn fy henaint, daeth llanc, canodd delyn i'm calon hesb." "Rhyngom yn y gwely os doi bydd celain yn crogi wrth raff." "Rhoddais fy nghroth i wleidyddiaeth fel pob merch brenin."
Dydw i'n amau dim na fydd y cast cyfan yn magu rhagor o hyder ac y bydd hynny'n esgor ar gyflwyniadau grymusach wrth i'r daith fynd rhagddi.
Fydda i ddim fel rheol yn mynychu nosweithiau agoriadol ond gofynnwyd imi wneud hynny er mwyn i'r adolygiad hwn ymddangos ar fyrder.
Perfformiadau Ffion Dafis sy'n chwarae rhan Siwan a Lisa Jên Brown ydi Alis.
Dywedwyd droeon nad oedd neb tebyg i Saunders Lewis am ysgrifennu rhannau gwych ar gyfer merched. Mae Siwan yn greadigaeth orchestol ac, yn sicr, nid cymeriad ymylol a llwyr ddarostyngedig ydi ei llawforwyn, Alis, ychwaith.
Heb ehedeg i'r uchelfannau, cafwyd perfformiadau teilwng gan y ddwy. Yn sicr roedd ganddyn nhw bresenoldeb llwyfan ac mae hynny'n rhinwedd mawr.
Gorfod clustfeinio Ond nid fi oedd yr unig un a oedd yn cwyno ar y diwedd bod yn rhaid clustfeinio'n galed weithiau i geisio clywed y llinellau.
Ar derfyn golygfa'r crogi mae Siwan, Ffion Dafis, yn poeri ei chynddaredd ar Lywelyn yn ingol ac argyhoeddiadol ond aeth hanner ei geiriau ar goll mewn sgrech.
Clywais, "O waelod uffern fy enaid..." ond collais " ... fy melltith arnat, Llywelyn."
Boddhaol oedd Rhys ap Hywel fel Gwilym Brewys. Teimlwn fod Siwan, Alis a Gwilym Brewys ar eu gorau pan oedden nhw'n rhannu llwyfan efo Llywelyn (Dyfan Roberts) gan fod ei brofiad a'i hyder yn hwb i'w gyd actorion.
Nid y Llywelyn a welwyd ar y noson gyntaf ym Mangor, fodd bynnag, oedd un o berfformiadau mawr Dyfan.
Cyfarwyddo Cyfarwyddwyd y ddrama gan Judith Roberts, dirprwy gyfarwyddwraig artistig Theatr Genedlaethol Cymru, ac fe all hi fod yn dawel iawn ei meddwl nad drama radio a lwyfannwyd ganddi er bod strwythur y ddrama ei hun, fel y crybwyllais, yn drwm dan ddylanwad radio.
Does dim byd yn bod ar lygaid Judith Roberts ond dydw i ddim mor siŵr o'i gallu i dynnu'r gorau o'i hactorion. Roedd cyflwyniad y Theatr Genedlaethol o Esther Saunders Lewis yn orchestol. Ai fi tybed oedd yr unig un a oedd yn gofidio na fyddai Daniel Evans, cyfarwyddwr Esther, wedi rhoi ei stamp ar Siwan hefyd?
Set a gwisgoedd Colin Falconer gynlluniodd y set a'r gwisgoedd. Hoffais y set yn arw efo'i defnydd effeithiol o ddrych y tu ôl i'r actorion i adlewyrchu'r chwarae.
Chafodd o ddim cystal hwyl ar diwnig Llywelyn. Ymdebygai i ffrog. Ni ellir haeru bod hynny wedi ychwanegu at urddas Llywelyn Fawr.
Heb doriad Dau fater i gloi.
Drama dair act ydi Siwan Saunders Lewis ond does dim egwyl yn y cynhyrchiad hwn. Canlyniad hynny oedd gorymdaith gyson, o tua hanner ffordd drwy'r ddrama, o bobol yn gorfod anelu am y tai bach.
Ar noson boeth pan oedd y gynulleidfa wedi bod yn yfed mwy nag arfer - nid o alcohol o angenrheidrwydd - er mwyn disychedu, roedd hepgor egwyl yn anffodus.
Y dewis lun Nesaf, ac yn olaf, y rhaglen swyddogol. Llun pwy , meddech chi, sydd ar glawr y rhaglen honno? Rhesymol fyddai disgwyl gweld llun o'r drawiadol Ffion Dafis fel Siwan ei hun. Ond dim o'r fath beth. Lisa Jên , Alis, sy'n hawlio'r clawr. Od ynte. Ys gwn i pam.
Barn Iwan Edgar
Rhagor am Siwan a manylion y daith.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|