| |
|
Bregus gan Huw Charles gyda Glyn Pritchard, Iola Hughes, Sion Pritchard a Delyth Eirwyn. Adolygiad: Dave Taylor
Drama Huw Charles oedd yr olaf. O'r cychwyn cyntaf, roedd naws hunangofiannol iddi. Cawn ein harwain ar daith bywyd cymeriad o'r enw Gareth sy'n dioddef o ganser, cymeriad sy'n cael ei ymgorffori'n llwyr gan yr actor Glyn Pritchard.
Caiff y stori ei hadrodd ar ffurf monolog â'r prif gymeriad yn edrych yn ôl ar wahanol adegau yn ei fywyd.
Gwelwn Gareth yn cerdded allan o olygfeydd gan droi at y gynulleidfa i sôn am ei deimladau yr eiliad arbennig honno yn ei fywyd.
Ambell waith, mae fel petai'n arsylwi mewn golygfeydd nad oedd o ynddyn nhw o gwbl, fel petai'n edrych arnyn nhw o'r tu allan i'w gorff.
Un sy'n fyw yn y cof ydy'r sgwrs rhwng y wraig Elen (Iola Hughes) a'i ffrind gorau Emlyn (Siôn Pritchard) - golygfa syml lle llwyddwyd i bortreadu holl emosiwn a thristwch y sefyllfa.
Yn ogystal â'r golygfeydd teimladwy, roedd yma elfen gomedi gref, weithiau'n ymylu ar gomedi ddu. Mewn un olygfa gwelwn y meddyg (Arwel Gruffydd) a Gareth yn trafod y math o ganser oedd ganddo a'r meddyg yn sicrhau Gareth ei fod yn ffodus iawn i gael y math hwnnw:
"Petawn i'n gorfod dewis math o ganser, hwn fysa fo," meddai.
Llwyddodd hiwmor y geiriau a pherfformiad gwych Glyn Pritchard i gyfleu'n berffaith pa mor chwerthinllyd oedd hyn.
Cafwyd perfformiad gwych hefyd gan Delyth Eirwyn, fel y Nyrs ddidwyll a gonest.
Mewn un olygfa mae Gareth yn cael prawf ffrwythlondeb ac yn gorfod rhoi sampl o'i sberm - gwelwn y nyrs yn mynd ymlaen â'i gwaith fel pe na bai dim byd yn bod ac yna'n rhoi cylchgrawn i Gareth i "roi help llaw" iddo - cylchgrawn Caravaners' World.
Mae'r ysbeidiau heulog hyn yn hynod effeithiol - fflachiadau bach o hiwmor yn dweud cyfrolau.
Roedd y ddrama hon yn gyforiog o linellau dwys a digri ac yn cyfosod y dirdynnol a'r chwerthinllyd, y teimladwy a'r gwirion yn gelfydd iawn i greu drama hynod.
Hyd yn oed gyda'r cynhwysion gorau yn y byd, nid bob tro mae popeth yn dod at ei gilydd yn berffaith fel hyn.
Mae portreadau'r actorion, cyfarwyddo manwl a dyrys Sara Lloyd a doniau'r awdur wedi asio'n berffaith i greu drama gref - ac nid barn un person yn unig mo hynny. Roedd tawelwch y gynulleidfa yn ddigon i yrru ias lawr asgwrn cefn unrhyw un.
Dychwelyd i brif ddalen noson A4
|
|
|
|