| |
|
Ar y Lein Maen nhw'n byw drws nesa ond mewn bydoedd gwahanol
Adolygiad gan Catrin Jones
Mawrth 2004 Dau, cwbwl wahanol, yn byw drws nesa i'w gilydd yw cymeriadau Ar y Lein, cynhyrchiad diweddara' Theatr Bara Caws sydd wedi ei ysgrifennu gan Gwyneth Glyn.
Dyw'r un ohonynt yn ymwybodol o fodolaeth y llall, nes iddyn nhw ddod wyneb yn wyneb un diwrnod.
Mae Brenda (Tammi Gwyn), neu Psychic Susan, yn byw ar ei phen ei hun ac er mwyn cadw dau ben llinyn ynghyd yn darogan ffawd ei chwsmeriaid dros y ffôn.
Gan fod ei bywyd i gyd yn troi o fewn pedair wal yr ystafell mae, yn ei hunigrwydd, yn sgwrsio'n barhaus â'i harwr Russell, y seryddwr Russell Grant.
A thrwy ei sgyrsiau â'i harwr anweledig rydym ni'n dod i'w hadnabod.
Dyn busnes Wedyn mae Daniel (Rhodri Meilir), dyn busnes y mae ei fywoliaeth yn dibynnu ar ba geffyl sy'n ennill pob ras. Mae ei fywyd ef yn cylchdroi o amgylch y cae rasio ceffylau ac yntau'n cadw llygad barcud ar y canlyniadau o sgrîn ei gyfrifiadur, gartref.
Bywyd unig sydd ganddo yntau, a chymaint yw'r unigrwydd hwnnw, ei gyfaill pennaf yw'r bocs Sugar Puffs.
Trwy ei sgyrsiau â'r bocs hwnnw cawn gipolwg ar ei fywyd.
Mae cymeriad Brenda yn taro deuddeg o'r dechrau. Wrth i'w ffôn ganu - a hithau yn ei chap sipsi yn gwneud ei gorau glas i ddenu'r pwerau hud - allwn ni ddim peidio â chwerthin a byddai wedi gallu diddanu'r gynulleidfa am gyfnod hir ar ei phen ei hun.
Ond fe gymrodd fwy o amser imi ddod i arfer â chymeriad Daniel. Cymeriad llwyd ydi o'i gymharu â Brenda ac eisiau clywed mwy o hanes Brenda yr oeddwn i.
Drych o fywydau Ond wedi i ni gael ein cyflwyno i'r ddau mae'r dramodydd yn plethu'r ddwy olygfa a daw'r ddau gymeriad yn rhan o'r un stori. Y ddau, fel pe baen nhw'n ddrych o fywydau'i gilydd. Rydyn ni'n clywed hanes y ddau ar yr un pryd.
Mae'n rhaid canmol perfformiad y ddau actor, roedd eu hamseru yn berffaith.
A'r gwahaniaeth rhwng y ddau gymeriad sydd yn y pen draw yn eu tynnu at ei gilydd.
Ond sut y daw dau mor wahanol at ei gilydd?
Wna i ddim datgelu mwy am hynny bydd rhaid i chi weld y ddrama.
Fel y dywed Gwyneth Glyn yn y rhaglen: "Nid stori garu sydd yma, ond stori ganfod" - a dyna sy'n bwysig.
Mae hyn i gyd yn gweithio'n arbennig o dda ar lwyfan sydd wedi ei rannu'n ddau i gynrychioli'r ddau dy ac felly rydyn ni'n gweld bywydau'r ddau gyfochrog â'i gilydd a hynny'n tanlinellu'r gwahaniaethau ac, i raddau, y tebygrwydd rhwng y ddau.
Dyma un peth na fyddai wedi gweithio hanner cystal ar sgrîn.
Ar ben hynny mae'n sgript ffraeth gyda digon o hwyl. Braf ydi gweld drama wedi ei hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan awdures ifanc.
Mae'n brawf o lwyddiant cynllun Bara Caws i hybu sgwennwyr a syniadau newydd. Dwi'n edrych ymlaen at weld mwy o gynhyrchiadau ffres gan awduron ifanc eraill, yn y dyfodol agos gobeithio.
|
Ieuan Watkins, Nannerch Oedd, yr oedd "Ar y Lein" yn ddifyr iawn.Da i weld rhywun mor ifanc yn cyfarwyddo'n llwyddiannus yn ogystal a sgwennu.
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|