Gwell - heb wybod y geiriau! Barn Ffion Eluned Owen o Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, Gwynedd, o gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Siwan
Ar ôl misoedd o astudio cymeriadau a dysgu dyfyniadau ar gyfer fy arholiad llafar UG, roeddwn yn edrych ymlaen yn arw at weld perfformiad llwyfan o glasur Saunders Lewis.
Biti nad oedd y perfformiad cyn yr arholiad.
Llwyddais i berswadio mam ei bod hi eisiau noson yn Theatr Gwynedd a chyda phob sedd yn llawn roedd hi'n argoeli i fod yn noson dda iawn.
I mi , roedd y set syml yn glyfar iawn, yn enwedig y newid rhwng golygfeydd ac yn rhoi'r teimlad o Siwan fodern iawn.
Roedd y rhan rhwng act 2 ac act 3 lle mae Gwilym Brewys yn llithro i ffwrdd a Siwan tu ôl i'r drych yn effeithiol dros ben.
Roedd Lisa Jên yn gweddu i gymeriad Alis, yn enwedig yn act 1.
Cafwyd portread cryf o Gwilym Brewys gan Rhys ap Hywel, ond weithiau roeddwn yn gweld yr het neu'r JCB yn dod i'r llwyfan wrth i'w gymeriad yn y rhaglen deledu Teulu ddod i'r cof.
Roedd urddas brenhinol yn neidio oddi wrth Dyfan Roberts fel Llywelyn Fawr ac roeddem yn gweld y gorau yn y cymeriadau oll pan oedd Dyfan Roberts ar y llwyfan.
Ond i mi, Ffion Dafis oedd seren y perfformiad ac os oedd gen i amheuon ar y cychwyn llwyddodd Ffion i fy mherswadio fod Siwan wedi ei chreu er ei mwyn.
Llwyddodd i gyfleu holl deimladau ansicr y Dywysoges drwy actio cadarn.
Teimlwn ar adegau fod gormod o lefaru a dim digon o actio - ond wedyn mae'n rhaid cofio mai drama radio yw Siwan.
Roedd angen mwy o synau mewn ambell ran a buasai'r crogi wedi gallu cael ei gyfleu yn well.
Ond roedd hi werth ei weld ac rwy'n annog pawb i fynd.
Dim ond awr a hanner yw hi - ond does dim toriad.
A pheidiwch a darllen y ddrama cyn mynd - mi fuaswn wedi ei mwynhau hyd yn oed yn fwy pe na byddwn i'n gwybod yn union pa eiriau oedd yn dod nesaf! Ffion Eluned Owen Bl12