|
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones Cymerodd y rhyfel fywyd y bardd - ond mae ei waith yn dal gyda ni . . .
Adolygiad Glyn Jones o Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr gan Iwan Llwyd. Llwyfan Gogledd Cymru.
Roedd taflen Theatr Gwynedd yn addo pethau mawr gan y ddrama hon. Chwyldro i bob pwrpas.
Awgrymai fod dylanwad comiwnyddiaeth ar Hedd Wyn ac mai cynllwyn gwleidyddol oedd ei wobrwyo â'r gadair.
Ffwlbri noeth. Pe gwyliasid y ddrama drwy chwyddwydr ni welid yr un edefyn o'r rhain ar ei chyfyl.
Yr hyn a geir yw dehongliad Iwan Llwyd o oriau olaf y bardd ifanc - a dehongliad digon cyffredin a dweud y lleiaf.
Tafarn lom yng Ngwlad Belg yw'r lleoliad, y storm y tu allan yn ein hatgoffa o'r frwydr fawr sydd i ddigwydd y diwrnod canlynol.
Cyfarfyddwn â'r ferch weini drasig a'i hesgidiau coch (Rhian Blythe,) y swyddog o Rwsia (Huw Garmon) gyda jôcs am y Kaiser, y Tsar a Brenin Lloegr, a Hedd Wyn (Huw Llyr) sy'n gwrando'n gwrtais ond a'i feddwl yn bell.
Brwydr egwyddorion Fel yr â'r ddrama rhagddi, try'r cellwair diniwed rhwng y cymeriadau yn frwydr egwyddorion grasboeth.
Hedd Wyn am weinio'r cledd a throi geiriau'n arfau, y swyddog am dewi'r gân a dadweinio'r cledd. Y ferch weini yn eu hatgoffa, "Daeth y rhyfel yma ata i" ac nad oedd ganddi ddewis.
Os oes rhinwedd i'r ddrama dangos effaith seicolegol rhyfel ar unigolion a chymdeithas yw hynny - pethau na all tablau gwariant ac ystadegau marwolaeth eu dangos.
Tri chymeriad - tri theip Mae'r tri chymeriad yn cynrychioli tri theip gwahanol mewn cymdeithas. Y ferch weini ifanc, bywyd ar blât arian o'i blaen nes daeth y rhyfel i'w gipio oddi arni. Fel miloedd o ferched tebyg iddi, collodd ei chariad, ei gobaith a'i dyfodol. Adlewyrchir hyn yn wych yn y ddrama - mae'r ferch yn byw i ddawnsio, ond does neb i ddawnsio gyda hi.
Mae'r swyddog Rwsiad sy'n cynrychioli'r dyn dosbarth canol a fu'n byw yn ddigon cyffyrddus hyd oni ddeffrowyd y diafol ynddo gan y rhyfel. Dyma'r propaganda ar goesau sy'n ysu am i'r dynion ifanc ruthro i'r frwydr dros drefn newydd. A dyma'r dyn sy'n eistedd yn ei swyddfa yn llowcio chwisgi tra bo'r milwyr ieuanc yn farw ar faes y gad.
A dyna Hedd Wyn; un o'r miloedd a orfodwyd i ymladd tros bethau na wyddai ddim amdanynt.
Mwy o fardd nac o ddyn? Ond dydyn nhw ddim yn gymeriadau sy'n argyhoeddi'n llwyr. Oedd, roedd Hedd Wyn yn fardd ond roedd yn ddyn hefyd ond ychydig iawn a glywn am ei fywyd personol, ei deulu, ei ofnau a'i obeithion.
Cynganeddion yn hytrach na gwaed sy'n ffrydio drwy'i wythiennau.
Ond llwyddodd y troslais ohono'n darllen o'i ddyddiadur i'w wneud yn fwy meidrol rywsut, yn fwy o filwr ac yn llai o fardd.
Mwy trasig yn Woolworth! Am y ferch weini, mae merched mwy trasig na hon yn gweithio yn Woolworths.
Cyfeiria yn dragywydd at "Fy ngyrrwr trên," a phrynodd esgidiau coch iddi hi ei hun yn enwedig ar ei gyfer.
Ond wedi un ddawns â Hedd Wyn mae'n anghofio amdano'n llwyr. Ymbilia ar Hedd Wyn i "aros yma gyda fi, i ddawnsio" ond ymaith yr aiff y bardd. Eto, ni chyll y ferch ddeigryn.
Ni allwn gydymdeimlo â hi.
A beth ar y ddaear y mae swyddog o fyddin Rwsia yn ei wneud yn Fflandyrs?
Yr actorion Nid beirniadaeth ar yr actorion yw hyn. Gwnaethant yn dda iawn â'r ddeialog a roddwyd iddynt ac ar adegau roedd yr actio yn codi i dir hynod uchel, megis wrth actio'r seremoni gadeirio.
Y gwendid oedd diffyg gweledigaeth. Prif ffocws y dramodydd oedd cadair wâg Penbedw. Stori y gallem ei hadrodd yn ein cwsg.
Collwyd cyfle i gynnig rhywbeth newydd, annisgwyliadwy, i'r gynulleidfa. Beth petai Hedd Wyn yn meddwi, yn ceisio ffoi o'r fyddin, yn ymweld â phuteindy neu yn lladd rhywun mewn pwl o wylltineb?
Diflas braidd oedd y dechrau hefyd, yn llusgo am ugain munud nes deallodd y dramodydd fod yn rhaid cael gwrthdaro mewn drama.
Byddai drych mwy ar wal y dafarn wedi bod yn fanteisiol er mwyn gweld adlewyrchiad o gymeriad pan fo'n troi ei gefn i edrych yn y gwydr.
Eironi dramatig Er hyn oll, roedd nifer fawr o gryfderau. Yn un peth, y defnydd o eironi dramatig.
Y mae rhywbeth yn boenus ryfeddol pan eir ati i actio'r seremoni gadeirio, y gadair mae Hedd Wyn mor sicr ei fod wedi ei hennill, ond y gadair y gwyddom ni nad eistedd ynddi fyth.
Yn yr un modd, y swyddog Rwsiaidd sy'n breuddwydio am drefn newydd, well, yn ei wlad.
Ni allwn beidio â gwingo wrth gofio bod Rwsia 1917 ar drothwy chwyldro Comiwnyddol gwaedlyd.
Roedd y defnydd o gyferbyniaeth yn wirioneddol wych a chyfyd y ddrama i'w huchafbwynt pan ddaw'r swyddog i amharu ar y seremoni cadeirio. Mewn eiliad, mae'r hapusrwydd yn gasineb ac yn lle gweinio llafn y cledd fe'i tynnir o'r wain uwch yr orsedd heddwch fel mae'r golau'n pylu.
Am ennyd yr hyn sydd o'n blaen yw uffern ar y ddaear. Colomen a diafol wyneb yn wyneb. Mae eiliad o ddefnydd theatrig dychmygol filwaith gwell nag ugain munud o barablu gwag.
A diwedd y ddrama. Llais yr archdderwydd yn cyhoeddi heddwch uwch sŵn y gynnau. Trawiadol iawn, a hynod eironig.
Roedd yr iaith yn brydferth, ac yn llawn disgrifiadau barddonol megis 'afonydd gwaed' ac 'awyr borsalin' - iaith y byddai Saunders Lewis ei hun yn falch ohoni.
Roedd yn hen bryd i rywun ddod ag iaith fel hon yn ôl i'n llwyfannau a'u puro o'r Saesneg a'r rhegfeydd sy'n meddiannu cymaint o'n dramâu cyfoes.
Symud y statig Rhaid canmol y cyfarwyddwr, Ian Rowlands, hefyd am ddod â bywyd a symudiad i ddrama statig a'i hachub rhag boddi mewn diflastod.
Roedd yr olygfa honno o Hedd Wyn a'r ferch weini yn dawnsio yn dangos bod ychydig eiliadau o hapusrwydd byrhoedlog i'w gael yn nherfysg eithaf rhyfel hyd yn oed. Felly hefyd yr olygfa o Hedd Wyn yn hudo Alois i'w freichiau gyda detholiad o Yr Arwr. Bendigedig.
Y cwestiwn mawr a gododd y ddrama yw beth yw perthynas celfyddyd a rhyfel. Mae rhyfel yn effeithio ar farddoniaeth, weithiau er gwell. Anos, fodd bynnag, yw gweld p'run ai'r awdl, neu'r arfau sydd gryfaf.
Cymerodd y rhyfel fywyd y bardd, ond erys gwaith y bardd gyda ni hyd heddiw, flynyddoedd wedi i'r rhyfel orffen.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Rhagor am y ddrma - barn a sgyrsiau
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|