|
Hen Rebel Sglein heb angerdd - adolygiad o noson gyntaf cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru
Adolygiad Gwyn Griffiths o noson gyntaf Hen Rebel yn Theatr y Sherman, Caerdydd, Hydref 6, 2005..
Y mae gan lawer ohonom rhyw grap ar stori Evan Roberts y diwygiwr ac yr oedd hynny o faich gyda mi gydol perfformiad Theatr Genedlaethol Cymru o Hen Rebel yng Nghaerdydd nos Iau, Hydref 6.
Prin fy mod i, na neb arall yn Theatr - orlawn - y Sherman, heb ryw syniad o'r hyn yr oeddem yn mynd i'w weld, ei glywed a - hwyrach - ei deimlo.
Yr oeddwn i yn disgwyl cynhyrchiad llawn ing ac angerdd a môr o forio canu.
Prin o angerdd Yn lle hynny cawsom gynhyrchiad cynnil, disgybledig a phrin iawn o angerdd.
Er inni gael dogn go dda o ing dramatig ac, am wn i, digon credadwy yn yr ail hanner pan sigir Evan Roberts gan amheuon.
Drama Gerdd yw disgrifiad y rhaglen. Wn i ddim a oes gwahaniaeth rhwng sioe gerdd a drama gerdd ond yr hyn a gawsom oedd drama gyda thipyn go lew o ganu.
Mewn portread o ddiwygiad mae tipyn go lew o ganu yn anhepgorol!
Hyd y medraf gofio, yr unig arlliw o'r hyn fuaswn i'n ei alw yn ddrama - neu sioe - gerdd oedd ar y diwedd pan fo criw o fechgyn cyfoes â'u caniau cwrw yn ceisio cofio geiriau cân Yr Hen Rebel a gweddill y cast yn dod i'r llwyfan i'w chanu gyda nhw.
Rhy ddisgybledig Yr oedd y canu yn llawer rhy ddisgybledig.
Anodd credu bod y groupies a ddilynai Evan Roberts i'w gyfarfodydd pregethu yn canu gyda'r fath gynildeb godidog. Ble'r oedd yr angerdd a'r emosiwn?
Enghraifft ryfedd o hyn oedd Elin (Angharad Lee), y ferch na allai ganu mewn tiwn. (Wel, ddim nes i'r Ysbryd Glân ddisgyn arni!) Canodd bob cân yn fendigedig ac yna canai'r nodyn olaf bob tro yn chwerthinllyd o allan o diwn.
Gallai Ryan Davies ganu cân gyfan hanner nodyn yn sharp o bob un arall - jyst digon i ddifetha perfformiad pawb arall. Yr oedd cynulleidfa'r Sherman ar bigau drwy berfformiadau (hyfryd) Elin yn disgwyl y nodyn allan o diwn.
Dau ddyn papur newydd Yn wrthbwynt i stori Evan Roberts a'r diwygiad cawn y ddau ddyn papur newydd, Stokes y golygydd (Maldwyn John) a Wil (Rhys ap William) oedd yn gwneud eu gwaith yn y dafarn.
Oes raid parhau â'r hen ystrydeb Americanaidd o newyddiadurwyr sinigaidd yn rhedeg ar alcohol?
Buaswn wedi disgwyl i Wil - fel cydymaith ieuenctid i Evan Roberts - fod wedi ymdeimlo fwy nag ychydig â chorwynt y diwygiad.
Yr oedd yn hynod ddifater o'r holl beth - cymharer, er enghraifft, deimladau'r newyddiadurwr Anthony Davies (Llygad Llwchwr) fel y cyfnododd hwy yn ei Ddyddiadur.
Cynnal acenion Yr oedd ambell actor yn cael trafferthion i gynnal yr acen ddeheuol a chafwyd ennyd neu ddwy o ddoniolwch anfwriadol fel pan fo Evan Roberts yn y cyfarfod yng Nghei Newydd yn gweiddi "Pîg fi" cyn newid i "Plyg fi".
Cafwyd amryw berfformiadau unigol cofiadwy gan gynnwys Llion Williams (Mr Jenkins y siop ddillad) a Carys Eleri (Bertha).
Sawl dehongliad posibl Mae hon yn gowlaid o stori ac, fel y dengys yr holl lyfrau a sgrifennwyd am Evan Roberts, mae llawer dehongliad posib.
Cododd sgript Valmai Jones ormod o 'sgyfarnogod - fel busnes y Suffragettes ac wedyn y Blaid Lafur Annibynnol.
Ni lwyddodd sglein cynhyrchiad Cefin Roberts i gyfleu'r angerdd.
Y gwir plaen yw, nid oedd hwn yn gynhyrchiad oedd yn argyhoeddi ac yr oedd ymateb llugoer y gynulleidfa ar y diwedd yn brawf o hynny.
Ond fe allem ddweud fod gennym nawr, o leiaf sicrach gafael ar y stori, er bod peth o'r diolch am hynny yn ddyledus i Densil Morgan am ei erthygl werthfawr yn y rhaglen.
Y daith Theatr Sherman, Caerdydd Hydref 6-8, 2005
- Theatr Lyric, Caerfyrddin, Hydref 11;
- Theatr Ardudwy, Harlech, Hydref 13-14;
- Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Hydref 20-21;
- Theatr Mwldan, Aberteifi, Tachwedd 3-4;
- Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, Tachwedd 8-9;
- Bydd y perfformiadau olaf yn Theatr Gwynedd, Bangor, Tachwedd 16-19.
Bydd sesiwn egluro ar gyfer dysgwyr cyn un perfformiad ym mhob un o'r theatrau. Dylid cysylltu â'r theatrau am fanylion.
Cysylltiadau Perthnasol
Mwy am y cynhyrchiad
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|