Hir - ond effeithiol
Adolygiad Carys Mair Davies o Porth y Byddar yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Gwyddwn ymlaen llaw taw hanes erchyll boddi Tryweryn oedd pwnc y ddrama hon ac o'r herwydd yr oeddwn yn gyffro i gyd gwta ddeng munud cyn i lenni'r llwyfan agor.
Gwnaeth yr actorion waith gwych yn ailgreu'r hanes gyda chymysgedd o ganu, areithio, gweiddi, sibrwd a chymorth hen ffilmiau a sgyrsiau teleffon hyd yn oed!!
Cymysgedd a wnaeth y ddrama yn un ddifyr iawn a'r gynulleidfa yn methu rhagweld beth fyddai'n digwydd nesaf.
Deuddeg o actorion gymerai ran gan gynnwys wynebau adnabyddus iawn a welwyd ar y teledu, megis Betsan Llwyd a fu unwaith ar Bobol y Cwm.
Credaf i'r defnydd o 12 o actorion fod yn hynod o effeithiol - er bod nifer o olygfeydd gyda gofyn am dyrfaoedd ynddynt.
Credaf i nifer y perfformwyr fod yn llwyddiant gan fod y lleiafrif yn gallu portreadu'r gymuned glós iawn yng Nghwm Celyn yn well.
Un o'r themâu pwysicaf Porth y Byddar oedd natur y gymuned glos iawn a fodolai yng Nghwm Celyn.
Gwelwyd y rhwyg yn y gymuned wrth i Blaid Cymru ddadlau dros ymateb yn dreisgar ynteu'n ddi-drais.
Yn agos at ddiwedd y ddrama cafwyd cyffelybiaeth effeithiol dros ben wrth gymharu'r pentref a "chalon" ac fe ddywedwyd i'r galon beidio a churo pan fu'r ysgol gau.
Crynhoir dirywiad y gymuned yn y gyffelybiaeth hon - collwyd calon cymuned Cwm Celyn gydag ond cragen drist yn weddill.
Defnyddiwyd sgrin i ddangos hen ffilmiau du a gwyn yn ystod y ddrama - darluniau go iawn o'r cyfnod pan foddwyd Cwm Celyn yn 1965 a chafodd y gynulleidfa flas ar luniau o drigolion y pentref yn gwylio'r trên olaf yn gwibio drwy'r ardal.
Hefyd, darluniau dirdynnol o'r capel yn cael ei ddymchwel gan beiriannau.
Defnyddiwyd cerddoriaeth hefyd i greu'r naws pwrpasol - ambell dro, emynau i gyfleu gwasanaeth yn y capel; cerddoriaeth oddi ar CDiau gan gynnwys canu piano a ffidil er mwyn creu awyrgylch sinistr.
Dwy dechneg effeithiol gan eu bod yn felys ar flasbwyntiau synhwyrau eraill y gynulleidfa ac yn fodd i atal y ddrama rhag bod yn llefaru undonog.
Techneg arall effeithiol i bortreadu cymdeithas oedd cynnwys y Gymraeg a'r Saesneg - gyda nifer o acenion gwanhaol.
Ond Cymraeg oedd prif iaith y ddrama a'r iaith yn thema bwysig iawn, iawn, iawn, ynddi.
Gosodwyd offer cyfieithu ar ochr y llwyfan - yn hynod o debyg i is-deitlau ar deledu.
Drama hir sy'n parhau am deirawr yw Porth y Byddar a go brin y byddwn wedi medru eistedd drwy'r perfformiad i gyd heb egwyl.
Ond da chi, ewch i'w gweld gan ei bod yn ddrama sy'n gyrru iasau i lawr cefnau.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.