Merched mentrus - cynulleidfa syber
Adolygiad Gwyn Griffiths o Bei-Ling Burlesque . Noson gyntaf yn Theatr Chapter, Caerdydd., nos Wener, Hydref 5, 2007.
Ni fûm i erioed mewn theatr fwrlésg o'r blaen ond yn ôl nodiadau rhaglen Bei-Ling Burlesque gan Theatr Bwcibo mae gan bobol ryw syniad fod a wnelo theatr fwrlésg â merched rhywiol yn ymddihatru i gyfeiliant cerddoriaeth gyhyrog.
Stripars i chi a fi.
Ac yn wir fe gawson ni ychydig o hynny yn Chapter, nos Wener - ond yn ddigon cynnil fel na chynhyrfwyd yn ormodol gynulleidfa barchus Caerdydd.
Lottie Collins
Y syniad oedd gen i o fwrlésg oedd y math o beth y byddai George Bernard Shaw yn mynd i'w weld ar ôl bod mewn cyngerdd neu ddrama ac ar ôl sgrifennu ei adolygiad a mynd â'i gopi i argraffdy'r Times gan alw wedyn mewn tafarn i ryfeddu at yr athletaidd Lottie Collins yn morio'r Ta-ra-di-bwm-di-ei - a weithiau'n llunio pwt o fawl iddi hithau.
Hynny yw, man lle mae'r gynulleidfa yn ddynion yn bennaf - yn hwyr y nos, y mwg baco'n dew a phawb yn llawen os nad yn llawn i'r styden.
Bellach chewch chi ddim chwa o gwbl o wynt baco mewn unrhyw le cyhoeddus a chyda'r sioe'n dechrau am wyth 'doedd dim gobaith bod neb ddim amgen na santaidd sobor.
Gresyn.
Angen porthi
Roedd ar y merched angen ychydig o borthi a rhialtwch afreolus i'w cymell.
Clywais fod y sioe ar ei ffordd i Grymych ond y bu'n rhaid canslo'r perfformiad am nad oedd y cast i gyd ar gael.
Trueni - buaswn wedi dwli bod mewn cynulleidfa werinol wedi amser cau yn gwylio hon.
Cawson ddigon o liw a thipyn o steil gan amryw o'r perfformwyr, y fam a'r ferch, Diana a Heledd Bianchi, Heather Jones ac yn arbennig gan Gwenno Dafydd egnïol.
Gwyddom am sioeau Gwenno fel Edith Piaff, gallai fod yn Lottie Collins i'r dim, hefyd.
Ystod eang
Cwmni o ferched yw Theatr Bwcibo ac fe gawson ganddyn nhw ystod eang o stâd a chyflwr y ferch - y ferch dan y fawd, y ferch yn cael ei churo, y ferch yn heriol ffeministaidd.
Y ddynes yn y cartref yn boddi dan y gwaith ...
A'r stripar.
Ar sgrîn cawsom sylwadau gwleidyddol digon teg a chywir - er imi dybio ar adegau y buasai llinyn mwy cyson o neges yn ddymunol.
Ond bwrlésg oedd yma wedi'r cwbl a pham fod angen unrhyw neges.
Llai parchus
Ychydig o brocio, digon hwyl, ychydig o faswedd, canu da, digon o liw ac o fynd.
Beth well sydd ei angen yn hwyr y nos?
Yn anffodus, 'doedd hi ddim digon hwyr a ninnau'r gynulleidfa ychydig yn rhy sobor.
Dylid hefyd fod wedi ceisio cryfhau'r cyswllt rhwng eitemau a thebyg y bydd yr ail noson yn well yn hyn o beth wrth i bawb fagu hyder.
Trueni os mai dyma'r unig berfformiadau o'r sioe hon gan ei bod yn haeddu cyfle gerbron cynulleidfa fymryn yn fwy ffraeth ac ychydig yn llai parchus na'r un oeddwn i ynddi nos Wener.