| |
|
Wrth Aros Godot Carys Mair Davies yn adolygu - ac yn holi un o'r actorion
Adolygiad Carys Mair Davies o gynhyrchiad Cwmni Brolio Ysgol Penweddig, Aberystwyth, o Wrth Aros Godot Tachwedd 9, yn yr ysgol.
Wedi nifer o glyweliadau ac wythnosau o ymarfer fe berfformiodd cwmni drama Ysgol Gyfun Penweddig - Cwmni Brolio - ddrama Samuel Beckett, Wrth Aros Godot.
Sefydlwyd Cwmni Brolio ym Mai 2005 yn gwmni gan y plant, er mwyn y plant yn unig.
Dan ei sang Mae'n gwmni sy'n prysur ehangu'i orwelion ac yn dod yn fwy adnabyddus felly dim rhyfedd fod y neuadd dan ei sang ar gyfer Godot ac yr oedd yn bleser cael gweld yr holl actorion wedi'u coluro a'u gwisgo o dan oleuadau llachar y llwyfan.
A minnau wedi edrych ymlaen at weld y ddrama ni chefais fy siomi gyda'r ddwy noson yn llwyddiant ysgubol.
Anodd credu i fy nghyd ddisgyblion allu creu'r fath wyrthiau mewn cyn lleied o amser!!
Mae Wrth Aros Godot yn ddrama eithaf anodd i'w dilyn gyda dim ond pum cymeriad ynddi gan gynnwys dau drempyn yn disgwyl am Godot drwy gydol y ddrama.
Fe'u chwaraewyd hwy, Vladimir ac Estragon, gan Lisa Jones o flwyddyn 13 a Chynan Llwyd o
flwyddyn 12.
Sarhaus a chreulon Hwy yw prif gymeriadau'r ddrama ac wrth basio'r amser maent yn cwrdd â Pozzo (James Hancock-Evans o flwyddyn 11), dyn sarhaus, creulon sy'n meddwl ei fod yn well na hwy. Mae ganddo gi, Lucky (Euros Jones o flwyddyn 13), y mae'n ei drin fel baw i'w ganlyn.
Yr un cymeriad arall yw Bachgennyn (Tomos Hopkins o flwyddyn 12) ac er taw ond dwywaith mae'r cymeriad hwn ar y llwyfan mae'n bwysig dros ben i'r ddrama.
Pwy yw? Er mai'r aros am Godot yw canolbwynt y ddrama nid yw'r gynulleidfa yn cael gwybod pwy yn union yw Godot ac nid yw'n cael ei weld.
Yn fy marn i, dengys Samuel Beckett glyfrwch yma trwy orfodi'r gynulleidfa i ddadansoddi'r ddrama eu hunain.
Cefais fy hyn yn tybio taw Duw yw Godot a hynny oherwydd y nifer o gyfeiriadau Beiblaidd sydd ynddi - megis cyfeiriad at groes Iesu a'r ddau leidr bob ochr iddi. Godot hefyd yw'r Lladin am Dduw.
Dau mor wahanol Fy hoff agwedd o'r ddrama yw'r gwrthgyferbyniad mawr rhwng y ddau drempyn; Vladimir - y caws - ac Estragon - y
sialc!!!
Cymeriad tawel sy'n heneiddio'n gyflym yw Vladimir. Cred ei fod yn gwybod popeth am bopeth - hyll wybedyn, holl wybodol!!!
Ond cymeriad egniol, babïaidd yw Estragon ac angen cadw llygad barcud arno.
Credaf i Lisa a Chynan gyfleu'r gwahaniaeth rhwng y cymeriadau yn arbennig o dda. Nid pawb fuasai'n gallu.
Rwy'n falch iawn imi fynd i weld y ddrama neu fe fyddwn wedi colli gwledd. Mae gan bob un o'r actorion ddawn i berfformio'n gyhoeddus a chyfleu neges i'r gynulleidfa. Edrychaf ymlaen yn eiddgar at gael profi mwy o waith Cwmni Brolio yn y dyfodol agos!!!
Cefais gyfle hefyd i holi un o'r actorion; James Hancock-Evans: Cliciwch i ddarllen atebion James Hancock-Evans.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
Daryn a Hywel o Gaerfyrddin Welais i'r sioe, ac mi roedd y ddau'n serennu'n llwyr. Lisa Jones yn enwedig. O'r actorion eraill, rhaid mai Euros Jones oedd yn rhagori yn y maes, wrth serennu hefyd. Da iawn i chwi oll.
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|