Dim Mwg gan Glenys Llewelyn gyda Glyn Pritchard, Delyth Eirwyn a Siôn Pritchard. Cyfarwyddo: Tonya Smith.
Adolygiad: Elliw Iwan
Wedi mwynhau'r ddrama gyntaf eoeddwn mewn hwyliau da ar gyfer yr ail - ond buan iawn y diflannodd fy ngwên.
Gwelwn 'stafell fyw ddi-lewyrch a dyn blin yn eistedd ynddi'n gwylio pêl-droed ac yn lluchio cnau i'w geg bob yn ail ag yfed cwrw. Mae'n gweiddi ar ei wraig i nôl mwy o gwrw.
Cawn berfformiad gwych gan Delyth Eirwyn yn ymdrechu i dynnu sylw ei gŵr oddi wrth y bocs drwy wisgo cardigan fach ddel a'r persawr a brynodd o iddi ar eu mis mêl flynyddoedd yn ôl ond ei ymateb o yw: "Pam ti'n ogla felna, lle ti'n mynd?"
Rydyn ni'n teimlo trueni dros Gwen am orfod dioddef cwmni blin ei gŵr annifyr, ac yn ei gasáu o am ladd arni o hyd. Ond diddorol hefyd oedd y ffordd y newidiai fy nheimladau ar brydiau nes teimlo trueni dros Mel a'i iselder a digio gyda Gwen am fod yn gymaint o gadach llestri.
Yr hiwmor du sy'n plethu drwy'r ddrama sy'n ein hatal rhag neidio ar y llwyfan a rhoi sgŵd iawn i Mel a Gwen yn eu tro! Rydyn ni'n erfyn arni i wneud rhywbeth ac o'r diwedd mae fy ngweddi'n cael ei hateb.
Roedd rhannau o'r ddrama'n teimlo fel pe bai'n troi yn ei hunfan ond deuai'n ôl bob tro'n gryfach, rhyfeddach a Hitchcockaidd iawn.
Edrychaf ymlaen at weld mwy o waith yr awduron yma.