|
Owain Glyndŵr yn destun sbort "Does yna neb yn gysegredig," meddai'r dramodydd Meic Povey - a dyna sut y daeth Owain Glyndŵr yw arwr sioe glybiau amrwd y mae wedi ei sgrifennu ar gyfer cwmni Bara Caws.
Bydd Owain Mindwr yn cychwyn ar daith o gwmpas Cymru ar Dachwedd 24 ac ni fydd neb yn falchach na Meic Povey ei hun os bydd yn achosi andros o helynt am wneud un o arwyr mwyaf Cymru yn destun sbort.
"Dydw i ddim yn poeni o gwbl," meddai wrth sôn am yr ymateb posibl. "Mae'n hen bryd inni chwerthin am ben ein hunain," ychwanegodd wrth Â鶹Éç Cymru'r Byd.
"Yr hyn sy'n bwysig ydi y bydd pobl wedi cael noson o hwyl ac yn teimlo eu bod nhw iso dod yn ôl eto. "Wedi'r cyfan mae yna lot sy'n mynd i sioe fel hon na fydda nhw'n mynd i'r theatr yn arferol - os bydd ond un o'r rhain yn penderfynu mynd i'r theatr ar ôl ei gweld mi fydd wedi bod werth chweil," meddai.
Iaith ffiaidd Gyda theitl amrwd, "iaith ofnadwy a ffiaidd" a jôcs budr yn ei britho disgrifiodd Meic Povey Owain Mindwr fel "sioe i'r teulu i gyd - heblaw nain a'r plant."
Dywedodd mai ei ddewis ef oedd y pwnc a'r testun ar gyfer y sioe glybiau gyntaf erioed iddo ei sgrifennu.
Ychwanegodd iddo groesawu'r her newydd er bod y broses o lunio sioe o'r fath yn hynod debyg o ran techneg i'w waith fel dramodydd.
Dewisodd osod Glyndŵr yn ganolbwynt y stori oherwydd y dathliadau chwe chan mlynedd eleni - ond go brin y bydd rhai o blith cynulleidfaoedd Cymraeg yn disgwyl ymdriniaeth mor amharchus o arwr cenedlaethol.
"Mae Owain Glyndŵr yn arwr mawr i mi hefyd," meddai Meic Povey, "ac mi rydw i'n gobeithio y bydd pobl wedi styrbio a chymryd atynt - adwaith sy'n bwysig," meddai.
Trafferthion Owain Wrth gyflwyno gwybodaeth am y cynhyrchiad dywedodd Bara Caws: "Gaeaf 1409 ac mae Owain, arweinydd glew y Cymry, wedi ei amgylchynu gan fyddin o Saeson yng Nghastell Harlech. 'Fe godwn eto' yw'r gri o'r muriau ond yn anffodus nid ei fyddin yw'r unig beth sydd yn cael trafferth codi i'r achlysur. Fel ei genedl, mae ei arf pwysicaf wedi colli'i awch.
"Mae ei wraig yn rhwystredig a'i ferch Catrin yn dangos gormod o ddiddordeb yn y milwyr Saesneg. Yr unig un all adfer y sefyllfa yw Crach y gwas. Fedar o ennill calon Catrin merch Owain, cael gafael ar yr Arf o Ddistryw Mawr a chodi mwy na gwên ar yr arweinydd glew? Allwn ni ond gobeithio, mae'n gorffennol yn ei ddwylo.
"Ar chwe chan mlwyddiant gwrthryfel Owain Glyndŵr mae Bara Caws yn datgelu'r gwir am Owain Glyndŵr, y dyn, y myth, a chynnwys ei glos."
Ar gyfer ffilm Dywedodd Meic Povey iddo faanteisio ar waith ymchwil i hanes Owain a wnaeth ar gyfer sgript ffilm - ond er siom iddo ni welodd y ffilm honno olau dydd hyd yn hyn.
"Yn sicr mae lle i ffilm newydd amdano - os oedd ffilm yn bosib am Wallace mae'n bosib gwneud un am Owain Glynd^wr hefyd. Mae o'n cael ei gydnabod y tu allan i Gymru fel un o'r gwrthryfelwyr gwrila cyntaf ac yr oedd o'n ddyn modern iawn ei syniadau," meddai.
Yr actorion fydd yn cymryd rhan yw Rhodri Evan,Sara Harris-Davies, Maldwyn John, Catrin Mara a Llion Williams gyda Hugh Thomasyn cyfarwyddo a cherddoriaeth gan Dyfrig Wyn Evans.
Y daith Tach. 23 - 24 Eagles, Llanrwst Menter Iaith Conwy - 01492 642357 neu Siop Bys a Bawd
Nos Iau Tach. 25 - 27 GWESTY DOLBADARN, LLANBERIS 01286 870277
Tach. 30 - Rhagfyr 2 CLWB WELLMANS, LLANGEFNI 01248 421660 neu 07747762395.
Rhag. 3 - 4 GWESTY FRON OLEU, DOLGELLAU 07876764804.
Rhag. 4 GWESTY FRON OLEU, DOLGELLAU Awel 07876764804 Rhag 7 - 8 GWESTY'R MARINE, CRICCIETH 01766 522946
Rhag 9 - 11 CLWB CHWARAEON PORTHMADOG 01766 514217
Rhag 14 - 15 CLWB RYGBI, BETHESDA 01248 601526
Rhag 17 - 18 CLWB RYGBI CRYMYCH?
Ion. 10 - 12 CLWB PÊL-DROED, CAERNARFON 01286 675607
Ion. 13 GWESTY KINMEL MANOR, ABERGELE 01745 812672
Ion 15 GWESTY KINMEL, MANOR, ABERGELE
Ion 19- 20 CLWB RYGBI, BLAENAU FFESTINIOG 01766 830314 neu 01766 830005
Ion 22 CLWB RYGBI, BLAENAU FFESTINIOG eto.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|