|
Rapsgaliwns Ymroddiad dros wewyr yr ifanc
Alwyn Gruffydd yn adolygu cynhyrchiad Talaith y Gogledd, Cwmni Theatr Ieuenctid Genedlaethol yr Urdd, o Rapsgaliwns yn Galeri, Caernarfon, Gorffennaf 9, 2008.
"Pwy faga blant - a thedi bêrs mor rhad?" Dyna sylw a glywir yn aml yn y cwmwd hwn pan fo plant neu bobl ifanc anystywallt yn mynd dros ben llestri.
Ond ar ôl dweud hyn ceir sylwadau hefyd sy'n llawn mor amddiffynnol o'n hieuenctid megis: "Does dim plant drwg yma - dim ond direidus ydyn nhw".
O bell A dyna ni mewn ychydig eiriau'n crynhoi'r berthynas gymhleth ac oesol rhwng y cenedlaethau - a thrafod yr holl fater astrus hwn o safbwynt y bobl ifanc wna Rapsgaliwns " (sic), sef cynhyrchiad Talaith y Gogledd, Theatr Genedlaethol yr Urdd eleni.
"Y Gogledd," medda fi mor ffwrdd â hi a phe bawn i'n sôn am y pentref nesaf oherwydd ymysg y cast o 21 ar lwyfan Galeri, Caernarfon, roedd yna bobl ifanc o cyn belled i ffwrdd â Dyffryn Banwy, Bro Ddyfi, Dyffryn Clwyd, Bro Dysynni a Phenrhyn Llŷn.
Mae hynny ynddo'i hun yn brawf o ymroddiad y pobl ifanc hyn i fyd y ddrama Gymraeg ac, yn eironig ddigon - o ystyried y pwnc - ac aberth eu rhieni hefyd yn eu cludo'n ddiflino i'r ymarferiadau.
Caboli'r cwbwl Y cast eu hunain fu'n gyfrifol am esgyrn sychion y sgript gyda'r llenor ifanc, Gwenno Mair Davies o Lansannan, yn caboli'r cwbl yn un cyfanwaith derbyniol odiaeth.
Gwenno Mair Davies ar y cyd ag Ian Selwyn Jones fu wrthi'n ddiwyd yn cyfarwyddo'r sioe yn llwyddiannus ar gyfer y llwyfan. Roedd y rapio'n drawiadol a'r ymladd, o dan gyfarwyddid Elain Llwyd, yn hynod realistig.
Catalog o bryderon a gobeithion pobl ifanc yn eu harddegau geir yn "Rapsgaliwns". Nid yw'n gyfnod braf. Mae'n gyfnod o newid corfforol. Mae'n gyfnod o ansicrwydd dybryd.
Dyna'r cyfnod y mae'n rhaid i bobl ifanc ymdopi â phobl hŷn sy'n eu gweld nhw i gyd drwy'r un llygad gyhuddgar.
Hynny yw, os yw un person ifanc sy'n gwisgo dilledyn gyda hwd yn ymddwyn yn annerbyniol yna mae POB person ifanc sy'n gwisgo'r un dilledyn yn sicr o ymddwyn yn yr un modd.
Wn o ddim beth y mae seicolegwyr yn galw'r math yna o ragfarn ond fe bortreadwyd y stereoteip hwn yn hynod effeithiol yn Rapsgaliwns wrth i'r nain fethu ag adnabod ei hwyres ei hun hyd yn oed cymaint ei rhagfarn.
Arholiadau Wedyn, y mae yna'r athrawon ysgol ymwthgar a'r rhieni disgwylgar. Gyda lle i gredu bellach fod graddau arholiadau TGAU plentyn yn diffinio beth yw statws cymdeithasol y rhieni mae pwysau'r arholiadau'n cael lle blaenllaw yn Rapsgaliwns a chyflwynwyd hynny'n frawychus o amrwd yn y cynhyrchiad hwn.
Yna daw'r berthynas rhwng y pobl ifanc â'i gilydd. Mae'r oedran yma, fel y mae plant, yn gallu bod yn greulon iawn. Mae elfennau'r bwli yn eu hamlygu eu hunain yn Rapsgaliwns naill ai drwy ymosodiadau corfforol ar y gwan a'r gwahanol, neu drwy edliw gwisg, pwysau corfforol, plorod neu nodweddion gwrywgydiol.
Ychwanegwch gyfrifoldeb teuluol, rhyw a beichiogrwydd yna does yna ddim llawer ar ôl ac mae nhw'i gyd ym mhair y Rapsgaliwns.
Hynod syml Mae'r set yn hynod syml - un mur graffiti ac un fainc wrth arhosfan bws - ond mae o'n ddigon.
O ran y cyflwyniad ei hun nid oedd y ddarpariaeth sain ar ei orau ac o ganlyniad fe gollwyd ambell berl rwy'n siŵr.
At ei gilydd chwaraeodd pob aelod o'r cast eu rhan yn ddigon deche gydag ambell un yn cario mantell mwy nag un cymeriad ond yn gwneud hynny'n effeithiol.
Mae'r portreadau o'r ddwy hen wraig, y rhieni ymwthiol a'r gyflwynwraig deledu yn dangos talent ac aeddfedrwydd actorion mor ifanc. Nid fod hynny'n tynnu dim oddi ar y perfformiadau eraill ond fy mod i, yn fy oed a'm hamser, yn gallu uniaethu mwy gyda'r cymeriadau hÅ·n yn y cynhyrchiad. Henaint sy'n gyfrifol ac rwy'n ymddiheuro am hynny i weddill y cast!
Dosbarth canol Rhaid i mi gyfeirio at fater bach arall hefyd a'm tarodd yn ystod y perfformiad o. Cynhyrchiad plant dosbarth canol ar gyfer cynulleidfa dosbarth canol gafwyd yn y sioe - rhyw fath o Grease ar newydd wedd os mynnwch chi.
Ac fel yn Grease mae yna un eithriad yn Rapsgaliwns hefyd a hwnnw'r tro yma yw'r hwdi mileinig. Ond mae yna resymau am ei ymddygiad yntau ac fel ei gyfoeswyr mwy ffodus nid yw hwn ychwaith heb ei hunllefau - a dweud y gwir mae hunllefau hwn yn llawer iawn gwaeth ac yn ennyn llawer iawn mwy o gydymdeimlad.
Nid yn llawn Nid oedd Galeri yn llawn o bell ffordd ar gyfer unig berfformiad o Rapsgaliwns yn y gogledd. Mae hynny beth amheuthun pan y ceir cymaint o bobl ifanc yn ymddangos ar lwyfan gyda phob perthynas ers oes Adda, fel arfer, yn dringo waliau'r theatr er mwyn cael cip o'r actor yn y teulu.
Ond peidied â phoeni.
Daw cyfle arall i weld "Rapsgaliwns" a hynny am 4.30 o'r gloch, ddydd Iau, Awst 7, 2008, yn Theatr y Maes Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd aqc os y methwch chi hi'r eildro yna eich colled chi fydd hi!
Adolygiadau eraill o gynyrchiadau 2008 Theatr Ieuenctid Genedlaethol yr Urdd.
|
|
|