Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹Éç Homepage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tri Rhan o dair
Llwyddiant llawn
  • Adolygiad Glyn Jones o Tri Rhan o Dair. Bara Caws.


  • Ar ôl ugain o berfformiadau mewn tair wythnos daeth Tri Rhan o Dair i ben gyda noson wefreiddiol yng Nghaernarfon.

    Yr oedd hon yn fenter uchelgeisiol gan Theatr Bara Caws; comisiynu tri actor i baratoi eu cyfieithiad eu hunain o dri monolog Alan Bennett o'r enwog Talking Heads.

    "Tri unigolyn, tair sefyllfa, un cri o'r galon."
    Cadwodd y tîm yn driw i'r disgrifiad o'r cynhyrchiad gyda bywydau tri unigolyn canol oed dan y chwyddwydr:

  • Miss Richards, sy'n dod ag ystyr i'w bywyd drwy lythyru;
  • Siân, y Mrs Ficer anfodlon a ganfu foddhad yng nghefn siop Mr. Ramesh;
  • Graham, canolbwynt bywyd ei fam - nes daw dyn arall i'w chymryd oddi arno.

    Er mor wahanol yw'r cymeriadau mae ganddynt oll yr un broblem - gwacter ystyr - gyda'r cyflwr yn cael ei archwilio o wahanol onglau a chyfieithiad pob actor yn cyfleu hyn gystal â'r gwreiddiol.

    Mab a'i fam
    Owen Garmon a gyfieithodd A Chip in the Sugar gyda'i bortread o ddyn yn colli gafael ar ei fam, ei gartref, ac ystyr ei fodolaeth, yn gwbl gredadwy.

    Ar brydiau roedd yn frawychus fel yr ychydig eiliadau pan ddaliodd ei ben yn ei ddwylo, byrlymu'i lais a phefrio'i lygaid.
    Darlun campus o ddyn ar fin colli'i bwyll.

    Er yn weddol statig llwyddodd i gipio'n sylw gyda'r modd yr adroddai ei stori. Drwy amrywio mymryn ar ei acen, ar oslef ei lais a rhythmau ei frawddegau llwyddodd i gyfleu sgwrs gredadwy rhwng tri chymeriad, a hynny heb fynd dros ben llestri.

    Yn wir, rydym yn adnabod mam Graham gystal ag yr adwaenwn Graham ei hun.

    Testun pregeth
    Olwen Rees a gyfieithodd Bed Amongst the Lentils ac er nad oedd yn amrywio ei llais gystal ag Owen Garmon roedd ei chynhyrchiad yn llawer llai statig; weithiau'n clwydo ar ochr ei chadair, yn lledorwedd yn orfoleddus, weithiau'n sefyll y tu ôl iddi, dro arall yn troi oddi wrthym.

    Ei hystum oedd yn cyfleu ei hemosiwn a chanddi hi roedd y stori dristaf gyda'i gŵr yn ei bychanu drwy droi ei phroblemau personol yn destun i'w bregeth.

    Yn dristach, nid yw hi yn dweud dim wrtho. Mae'r dull digalon o adrodd ei stori yn ei dristáu ymhellach. Eto, nid yw'r stori heb ei hiwmor na'i hapusrwydd. Ni all yr undyn byw farnu Siân am odinebu, na chwaith beidio â thosturio wrthi pan fo'i chariad yn cefnu arni.

    Hoff gymeriad
    Dyna gyfieithiad Valmai Jones o A Lady of Letters wedyn gyda'r portread o Miss Richards yn anhygoel.

    Hi oedd fy hoff gymeriad. Y gwallt blêr, y symudiadau afrosgo, yr wyneb gwelw a'r llygaid mawr yn gweddu i'r dim a'i phersonoliaeth egsentric.

    Roedd y modd y crychai ei thalcen ac y pwyntiai ei beiro at y gynulleidfa yn ategu hyn ymhellach.

    Mae'r monolog yn llawn hiwmor ac eto pan sylweddolwn nad ydym ni mor wahanol ein hunain, yn edliw a chwyno a barnu heb wybod, try'r hiwmor yn ergyd egr.

    Ond y newid a ddaw i Miss Richards yn y carchar sydd fwyaf trawiadol. Yma, o bobman, y teimla'n rhydd a'r wyneb gwelw yn pelydru heulwen a hithau'n awr â ffrindiau ac ystyr i'w bywyd.

    Eironig braidd, a hithau wedi bwrw'i llach ar amgylchiadau carchardai ar ddechrau ei stori.

    Plethu drwy'i gilydd
    Yn wahanol i'r disgwyl, ni chwaraewyd y monologau fesul un yn gyflawn ar eu hyd, un ar ôl y llall ond yn llawer mwy effeithiol perfformiwyd y tri monolog drwy'i gilydd a chadwodd yr amrywiaeth hwn ddiddordeb y gynulleidfa o'r dechrau i'r diwedd.

    Symudwyd o gymeriad i gymeriad yn y lle iawn bob tro a hynny heb amharu ar lif y naratif.

    Yn ddiddorol rhennid y darnau hyn ymhellach trwy gyfrwng y golau, a bylai fymryn i wahaniaethu rhwng y digwyddiad a'r canlyniad. Prawf o ddawn cyfarwyddo Betsan Llwyd.

    Tair cadair oedd i'r set, un i bob cymeriad, a'r tu ôl iddynt gefndir du.

    Uwch pob cymeriad roedd sgwâr pŵl o oleuni, yn union fel ffenest gan wneud imi feddwl bod y cymeriadau mewn ystafell dywyll yn adrodd eu hanes.

    Yn fwy effeithiol, roedd y 'stafelloedd' hyn yn llwm, yn union fel bywyd y cymeriadau. Yn yr un modd, y gwisgoedd syber i ddangos diflastod byw.

    Chwerthin a syfrdandod
    Roedd ymateb y gynulleidfa'n dyst i lwyddiant y noson; weithiau'n morio chwerthin, weithiau'n syfrdan fud wrth i dri chymeriad a thair rhan o fywyd gael eu datgymalu o flaen ein llygaid.

    Adwaenem bob cymeriad er bod y rheini wedi'u trawsblannu o'r llwyfan Saesneg i'r theatr Gymraeg a hynny'n dystiolaeth o dalent y tri actor, o ddawn cymeriadu Alan Bennett a'i adnabyddiaeth drylwyr o'r ddynoliaeth.


  • Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
    Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad Lowri Rees

  • Rhagor am y cynhyrchiad

  • Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý