|
Mari'r Golau Adolygiad Glyn Evans o sioe gerdd Aled Lewis Evans ac Arwel Tanat. Cwmni Theatr y Stiwt, Rhosllannerchrugog.
Er bod y cwmni theatr cenedlaethol yn cyflwyno TÅ· ar y Tywod yn Yr Wyddgrug heb fod ymhell i ffwrdd cafodd sioe gerdd am un o ferched hynod Diwygiad 04-05 gynulleidfaoedd teilwng yn neuadd Y Stiwt, Rhosllannerchrugog, Ebrill 22 - 23, 2005.
Yr oedd y sioe gan Aled Lewis Evans - cerddoriaeth, Arwel Tanat - yn olrhain hanes hynod Mari Jones, Llanaber ger Y Bermo, y daethpwyd i'w hadnabod fel Mari'r Golau oherwydd y goleuni anesboniadwy fyddai'n ymddangos o'i chwmpas.
Gwrthodai Mari, fel y pwysleisiwyd yn y sioe, â derbyn unrhyw glod personol am y golau rhyfedd gan ddweud mai cyfrwng a ddefnyddiwyd gan Dduw oedd hi.
Maes o law daethpwyd i adnabod y goleuni fel Goleuni Egryn oherwydd mai Capel Egryn yn ardal y Bermo oedd yr un a fynychwyd gan Mari a lle gwelwyd y golau.
Sut olau? Amrywiai'r disgrifiadau ohono o belen lachar o olau gwyn i lafnau o oleuni weithiau'n glaerwyn, dro arall, a gwawr las iddo.
Datgelir y wybodaeth hon yn driw yn y sioe a oedd a rhywfaint o naws ddiwygiadol iddi yn gwahodd y gynulleidfa i ymuno i ganu emynau gyda'r perfformwyr.
I'r awdur, Aled Lewis Evans, mae arwyddocâd arbennig i hanes Mari gan fod ei deulu o'r ardal ac yn uniongyrchol gybyddus â'r digwyddiadau rhyfedd a gipiodd ddychymyg pobl ar hyd a lled Prydain.
Yn wir, ar y llwyfan, llywiwyd yr hanes gan actorion yn chwarae rhan taid a Nain yr awdur, John ac Annie Mary Evans (Arwel Tanat ac Elisabeth Gilpin) yn eistedd ar fainc yn hel atgofion am eu profiad hwy o Olau Egryn a'r hyn a ddigwyddodd yn ei sgil.
Papurau newydd Ac fe ddigwyddodd llawer oherwydd tyrrodd y Wasg Saesneg yno gyda'r Times, Guardian, Daily News, Daily Mirror a'r Daily Mail yn dilyn y stori am naw diwrnod a mwy cyn i rywbeth arall fynd a'u bryd.
Dyfynnwyd yn helaeth o adroddiadau'r wasg Saesneg yn y sioe yn ogystal ag adroddiadau'r wasg Gymraeg a rhan y Parchedig Beriah Evans (Alun Roberts) yn yr hanes fel y newyddiadurwr a dorrodd y stori gyntaf.
Ni allodd ymchwilydd o'r Society for Psychical Research, y Parchedig Fryer (Joseph Davies) a hudwyd i'r ardal a dod o hyd i unrhyw arwyddion o dwyll mwy nag a allai egluro'r rhyfeddod.
Gweld y golau Cyfaddefodd hyd yn oed y newyddiadurwyr iddynt hwy, yn ogystal â gweinidogion a pharchusion lleol, weld y goleuni gan fethu a dod o hyd i unrhyw eglurhad naturiol.
Yng nghanol hyn oll ymwrthodai Mari Jones (Michelle Murphy) â'r hyn a fyddem ni heddiw yn ei alw yn 'gyhoeddusrwydd'. Gwrthodai hyd yn oed gael tynnu ei llun.
Bob yn ail â llefaru darnau a ymddangosodd mewn newyddiaduron mae sioe Aled Lewis Evans ac Arwel Tanat, yn cynnwys hefyd ganeuon a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y sioe.
Rhigwm Agorodd y sioe gyda llais plentyn yn adrodd rhigwm o'r cyfnod; Mary had a little light/ It always used to glow/ and everywhere that Mary went/ The light was sure to go.
Yna cafwyd cyflwyniad gwefreiddiol gan John Evans yn fachgen yn 1904-05 (Geraint Williams) yn canu Iesu Tirion - unawd y mae'n ei chanu eto cyn diwedd y perfformiad gyda'r un ias.
Ond nid sioe o'r llwyfan yn unig mo hon gan i nifer o emynau adnabyddus fel Wele'n Sefyll Rhwng y Myrtwydd, Mae D'eisiau Di bob awr, O na Bawn i fel Efe ac Mi Glywaf Dyner Lais gael eu cynnwys yn y rhaglen a'r neuadd yn cael ei goleuo i'r gynulleidfa ymarfer ei doniau canu cynulleidfaol.
Cynhwyswyd yn y rhaglen hynod o gynhwysfawr eiriau caneuon y cast hefyd yn ogystal â hen luniau o ardal Egryn ac o bobl oedd yn rhan o'r hanes.
Trueni nad oedd gofod i gynnwys yr holl adroddiadau papur newydd ond diau y byddai hynny wedi bod yn rhy gostus.
Fodd bynnag fe atgynhyrchwyd erthygl o'r Barmouth Advertiser, Ebrill 1905, yn cynnwys "tystiolaeth Mr John Williams, Cae'rddaniel, ger Abermaw, cefnder i'r Parch H Barrow Williams, Llandudno."
Wrth drafod y fath ryfeddod yr oedd yn bwysig, debyg, sefydlu y peidgri iawn fel sicrwydd o eirwiredd!
Yn embaras A beth ddaeth o Mari Jones. Wel yn sgil yr holl sylw daeth "yn embaras i gymdeithas barchus Y Bermo". Maes o law ciliodd y golau ac mae'n arwyddocaol nad oes unrhyw gyfeiriad ato ar ei charreg fedd yng Nghapel Horeb, Dyffryn Ardudwy, er iddi gael ei harwain i deithio cyn belled a Wrecsam, Tylorstown ac Ynysybwl pan oedd yn ei anterth.
Hyd yn oed heddiw does dim eglurhad naturiol boddhaol am y goleuni na lwyddodd yr holl ddynion papur newydd, hyd yn oed, dynnu ei lun ("Mae y golau y tu draw i lun," meddai Mari) na'i wrthbrofi.
Neges amlwg sioe Aled Lewis Evans ac Arwel Tanat oedd mai profiad crefyddol ac ysbrydol oedd hwn ac mae'n wir i Mari Jones fod yn fwy dylanwadol yn ei hardal na hyd yn oed Evan Roberts.
Geiriau un o ganeuon olaf y sioe oedd: "Ti yw y fflam, Goleuni'r Byd,/ Ti yw y fflam sy'n ysu'n bryd,/ Goleui di y ffordd i eraill
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|