|
Esther - adolygiad Cynhyrchiad godidog
Adolygiad Eifion Lloyd Jones o gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Esther gan Saunders Lewis. Clwyd Theatr Cymru, nos Sadwrn, Ebrill 22, 2006.
Ar ddechrau eu Tymor o Glasuron, mae'n braf cael datgan yn hyderus fod y Theatr Genedlaethol wedi dod i'w hoed.
Dyma gynhyrchiad teilwng a chaboledig, gyda sawl perfformiad nodedig ac un cwbl arbennig.
Er mai fel drama radio y comisiynodd Emyr Humphreys Saunders Lewis i gyfansoddi Esther tua diwedd y pumdegau, mae ei ŵyr, Guto Humphreys, wedi cynllunio set urddasol blaen a chymesur o dywodfaen ymddangosiadol sy'n creu cyfle i'r actorion sefydlu perthynas agos a llwyddiannus â chynulleidfa'n hoes ni.
Coler a thei I'r un perwyl o gyfoesi ag y gwnaeth John Gwilym Jones gydag ail gynhyrchiad llwyfan Esther bryd hynny, gwisgwyd cymeriadau'r cynhyrchiad hwn, hefyd, yn nillad cyfnod canol y ganrif ddiwethaf, gan atgoffa'r gynulleidfa'n weladwy fod triniaeth y Natsïaid o'r Iddewon yn adleisio bwriad Haman ac Ahasferus yn Llyfr Esther yn yr Hen Destament.
'Doeddwn i ddim wedi f'argyhoeddi'n llwyr fod hynny'n gam doeth: go brin fod ei weld yn gwisgo siwt a choler a thei yn cyfleu mawredd teyrnasiad brenin Persia Fawr, a estynai o Ethiopia i'r India, nac awdurdod gŵr oedd yn gallu cyhoeddi difodiant Iddewon yr holl fyd.
Dichon y byddai gwisg arweinydd Arabaidd Dwyrain Canol ein cyfnod ni yn fwy effeithiol wrth berthnasu ag eithafiaeth dau ddiwylliant (neu ddau ddiffyg diwylliant) yr oes hon.
Heb egwyl Gyda'r ddrama wreiddiol wedi'i rhannu'n dair act draddodiadol, cryn syndod oedd canfod na fyddai unrhyw egwyl ac y bwriedid cyflwyno'r cyfanwaith mewn rhyw awr a hanner.
Aeth yr amser ar wib, heb unrhyw awgrym o lusgo na meithder yn chwarae'r cymeriadau.
Ond un anfantais cyfuno'r tair act oedd y gostwng tensiwn a chyffro anorfod ar ddechrau pob act - yn dilyn uchafbwynt dramatig yr act flaenorol.
Yn draddodiadol, byddai'r agoriad tawel yn ail-afael bwriadol ar ddechrau pob act cyn i'r tensiwn gynyddu unwaith eto.
Ond o gyfuno'r cyfan, teimlai'r canu a'r dawnsio ar ddechrau'r act ola' fel ychwanegiad y byddwn i wedi dymuno'i osgoi er mwyn parhau gyda'r cyffro.
Balch iawn ohono At y perfformiad ei hun, dim ond ail gynhyrchiad Daniel Evans, ac un y gall fod yn falch iawn ohono, gyda'r patrymu llwyfan yn canoli'r sylw'n effeithiol trwy'r amser, a'r llefaru'n eglur ac yn argyhoeddi gan bob cymeriad.
Llwyddodd, hefyd, i fanteisio ar yr ychydig ysgafnder sydd i'w ganfod ymhlith yr areithiau grymus.
Mae'r llefaru coeth yn nodwedd amlwg o'r dechrau, gyda'r actor ieuenga', Carwyn Jones, yn rhagori ar lu mawr o'i gyfoedion sy'n tueddu i ynganu'n ddiog a myngus, wedi'u difetha'n aml gan feicio clos y teledu.
Er cyflymed ei barablu ar adegau, ni chollwyd yr un sill o'i eiriau.
Ffynnon fechan yn troi'n afon fawr Yn fychan ac eiddil yr ymddengys Nia Roberts... nes iddi ddechrau llefaru a'n swyno, gan bersonoli'r gymhariaeth o Esther yn y ddrama ei hun: y ffynnon fechan sy'n troi'n afon fawr.
Ymdeimlwn â phob un o'i hemosiynau wrth iddi ein argyhoeddi'n llwyr fod yma eto un o ferched unigryw a chyfrin gweledigaeth Saunders Lewis.
Graenus ac amrywiol Cymeriad cymhleth a digon anodd i'w bortreadu sydd gan Rhys Richards, yr Iddew dioddefus mewn sach liain a lludw wrth y porth sy'n esgyn i brif swydd y deyrnas. Mae'r perfformiad yn raenus ac amrywiol addas i'r gwahanol sefyllfaoedd.
Cawr ym mhob ystyr Rhys Parry Jones sy'n meddiannu'r llwyfan o'r dechrau.
Cawr ym mhob ystyr, gyda'i faint a'i lais yn llawn awdurdod a balchder wrth fynnu sylw, ond sydd hefyd yn bradychu cynllwynio, ansicrwydd a nerfusrwydd y cymeriad diweddarach yn grefftus dros ben trwy ystum llygaid a dwylo aflonydd.
Tasg anodd Julian Lewis Jones oedd â'r dasg anodd o fod yn frenin mewn siwt, tasg a wnaethpwyd yn llawer anos gan fawredd perfformiad ei brif weinidog, Rhys Parry Jones.
Bron nad oedd rhywun yn teimlo tua'r dechrau y byddai wedi bod yn ddoethach castio'r ddau'n wahanol, gyda Rhys, y cawr, yn frenin, a Julian Lewis Jones yn ei wasanaethu: ond down yn ôl at hynny.
Perfformiad cadarn, derbyniol, oedd un y brenin, ond fod peth anghysondeb yn ei lefaru: clywid yr "-au" ffurfiol ar ddiwedd geiriau ambell dro, ond yr "-a'" llafar wrth hepgor yr "u" bryd arall.
Er y byddwn i'n ffafrio'r llafar, naturiol, fel arfer, hwyrach y byddai wedi bod yn ddoethach cadw at y llenyddol gywir gyda'r ddrama hon, fel y gwnaeth yr actorion eraill heb swnio'n rhy ffurfiol o gwbl i ddieithrio cynulleidfa.
Yn wir, mae'n syndod mor naturiol y swniai iaith goeth Saunders yng ngenau'r actorion i gyd.
I bob oed Roeddwn i wedi mentro mynd â'r ddau fab acw, sy'n bymtheg a dwy ar bymtheg oed, i weld a chlywed un o ddramâu clasurol eu treftadaeth.
Digon pryderus oeddwn i o'u hymateb tebygol i ddieithrwch iaith a chyfnod y ddrama ond er clod i'r cynhyrchiad a'r actorion, mwynhau wnaethon hwythau, hefyd.
Felly, dyma argymell yn bendifaddau y dylai pawb o bob oed sy'n caru llenyddiaeth a theatr fanteisio ar unrhyw gyfle i weld y cynhyrchiad godidog hwn.
Dychwelyd yn olaf at y benbleth: pwy ddylai fod yn frenin y llys?
Heb amheuaeth, Rhys Parry Jones oedd brenin y cynhyrchiad, ond dichon fod angen y ddawn aruthrol a ddangosir ganddo yma i gyfleu mawredd trasiedi Haman, cymeriad mwyaf diddorol Esther.
'Fedra'i ddim cofio gweld Rhys mewn cynhyrchiad llwyfan safonol o'r fath o'r blaen.
A 'fedra'i ddim cofio gweld unrhyw actor yn rhagori ar ei berfformiad yma mewn unrhyw ddrama arall, ychwaith.
Manylion am y daith
Cliciwch i weld beth oedd gan Elfed ap Nefydd Roberts i'w ddweud ar Bwrw Golwg
Cysylltiadau Perthnasol
Bwrw Golwg yn trafod Esther
Esther - sylwadau R Alun Evans
|
Sian Jones Cf: 'Fedra'i ddim cofio gweld Rhys mewn cynhyrchiad llwyfan safonol o'r fath o'r blaen'. Fe roddodd Rhys Parry Jones berfformiad campus yn rhan 'Y Llais' yng nghynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Dan y Wenallt rai blynyddoedd yn ôl.
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|