Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹Éç Homepage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Huw GarmonMaes Terfyn
Drama newydd gyda hen stori

  • Adolygiad Glyn Jones o Maes Terfyn gan Gwyneth Glyn.
  • Drama newydd gyda hen stori yw hon.
    Goleuir y llwyfan i ddangos cegin hen-ffasiwn gyda'r 'Aga' fawr yn hawlio'n sylw.

    Wrth y bwrdd eistedd Emyr yn bodio Geiriadur Bruce ac yn crymu dros ei gyfrifiadur.

    Yr eiliad nesaf daw Dwynwen i'r gegin gan daflu iâr wedi'i phluo ar y bwrdd wrth ei ymyl. Cyn yngan yr un gair gwelwn beth a ddaw achos dyma'r stori a drafodwyd gan Caryl Lewis yn Martha Jac a Sianco a chan Meic Povey yn Nel - teulu bach yn ceibio bywoliaeth o dir hysb el y cadwer i'r oesoedd a ddêl lendid a fu.

    Ymwelydd
    Ac yna daw ymwelydd i ddistrywio'r winllan, digio'r trigolion a pheri iddynt gecru ymysg ei gilydd.

    Hen stori, felly, ac o ganlyniad, hen gymeriadau. Mae Emyr (Huw Garmon) yn cynrychioli'r Cymro mewn trawsffurfiad. Nid yw wedi troi ei gefn ar y tir eto ond amheua faint o werth sydd yn yr hen ffordd Gymreig o fyw.

    Try at gyfieithu a dysgu, nid cymaint er mwyn ennill ei fara ond er mwyn ceisio llenwi'r gwacter sydd ynddo. Nid yn annhebyg i Owen Gruffudd Kate Roberts.

    Mae Dwynwen (Sêra Cracroft) yn cynrychioli'r wraig fferm a drodd yn sarrug wedi blynyddoedd o waith.

    Ei theori yw: "Mi fydda i'n mwynhau . . . pan ma' petha'n cael eu gwneud. Mi fydda i'n mwynhau pan mae na drefn ar y lle 'ma."

    A dyna Gwen Llwyd Elena Puw Morgan yn fyw o flaen ein llygaid. Daw ei ffraethineb â hiwmor i'r ddrama, ac mae ei phrysurdeb yn cadw'r ddrama rhag boddi mewn segurdod diddigwyddiad.

    At y ddau daw Jo (Lauren Phillips). Mae ganddi enw modern, gwisg fodern ac arferion modern, rhy fodern ddywedwn i:
    "Rydw i'n Piscean vegan. Dwi'n bwyta pysgod ond dw i ddim yn bwyta cig, na dairy, na wyau."

    Dim gwell nag ystrydeb
    Ni chyfyd Jo yn uwch na'r ystrydeb o'r ferch fodern faterol. Ni all wneud mwy na rhyfeddu at brydferthwch cefn gwlad. Ni all fyth garu na Chymru na'i phobl.

    Dechreuwyd datblygu hyn gyda'i pherthynas ag Emyr ond ni eginodd yr hedyn ac yn sicr ni thyfodd a blodeuo.

    Gallasai Jo wneud mwy na deall y materion Cymreig. Gallasai syrthio mewn cariad a hwy, yn union fel y syrthiodd Yolland mewn cariad ag Iwerddon yn nrama Brian Friel, Translations, gan redeg i ffwrdd efo Maire, yr Wyddeles.

    Fodd bynnag, cyn diwedd y bedwaredd olygfa, diflanna Jo i'w llofft ac ni chlywn smic ganddi eto. Nid person ydyw ond dyfais i ddangos i Emyr wendidau ei fyd, a digwyddiad i droi'r gwrthdaro'n ddrama.

    Mae gan Jo gyfrinach sy'n ysgwyd bywyd diddigwydd Dwynwen ac Emyr a chadwodd y ddramodwraig y gyfrinach hon rhagom tan ddiwedd y ddrama ac yn grefftus iawn parodd i'r gyfrinach gael ei chanfod yn hytrach na'i datgelu.

    Dwynwen sy'n ennyn ein chwilfrydedd drwy dynnu'n sylw at natur sinistr y sefyllfa.

    "Ti di holi'r hogan i be uffar ma hi isio 'gloywi' ei Chymraeg a hitha'n byw yn ganol Llundain?"

    Swyddog marchnata yw Jo sydd wedi dychwelyd i Gymru i geisio am y swydd 'rheolwr cysylltiadau cyhoeddus datblygiad arfordirol.'

    Mewn geiriau eraill, mae am ddatblygu'r marina y mae Dwynwen ac Emyr yn ei herbyn. Fodd bynnag, i gael y swydd rhaid i Jo fod yn rhugl ei Chymraeg sy'n egluro pam mae Emyr yn dysgu Cymraeg iddi.

    Cyfyd hyn gwestiwn diddorol.
    A yw Dwynwen ac Emyr yn helpu'r person fydd yn eu dinistrio? Neu a ydi hi yn helpu Emyr a Dwynwen drwy ddangos eu bod yn dinistrio eu hunain?

    Cymeriad arall
    Mae cymeriad arall ar y llwyfan hefyd.
    Ar brydiau ymddengys yn ddramatig mewn storm o gerddoriaeth.
    Dro arall hwylia'n dawel drwy'r tÅ·.

    Deallwn mai hon yw mam Dwynwen (Dora Jones) ac yn ddiau hi yw dyfais theatrig orau'r ddrama, er y gallasid ei defnyddio'n well.

    Nid oeddwn yn siŵr p'un ai ysbryd ydoedd ynteu atgof a chredaf hefyd ei bod yn rhy glên a'i dillad yn rhy hafaidd o ystyried ei bod yn glaf o serch ac ar fin lladd ei hun!

    Nid yw'n ddigon gormesol ychwaith o ystyried mai hi yw'r un a dynghedodd Dwynwen i fyw yn hualau'r gorffennol.

    Mae'r ddrama ar ei gorau yn y ddwy olygfa a hanner wedi ymadawiad Jo pan yw cragen Dwynwen yn dechrau cracio a sensitifrwydd rhyfeddol yn cael ei ddatgelu.

    Dangosir hyn orau yn y bumed olygfa, golygfa orau'r ddrama lle mae Emyr ar lan y môr ac ymddengys Dwynwen y tu ôl iddo a'r hyn a digwydd nesaf yn enghraifft berffaith o gyfarwyddo ardderchog Arwel Gruffudd.

    "Paid â mynd, Emyr. Plis. Paid â ngadael i. Fedrwn i ddim dodda bod hebdda chdi."
    Yw geiriau Dwynwen a'i llais yn cystadlu â'r gwynt a'i symudiadau yn ansicr.

    Nid hi sydd â'r llaw uchaf mwyach. Wrth ddatgelu ei chyfrinach wrth Emyr gwelwn y ddynes yn pacio ei chês, yn crwydro hyd y traeth, yn cusanu Dwynwen, a'i gadael yn beichio crio ym mreichiau ei gŵr - y tro cyntaf iddynt gyffwrdd gydol y ddrama.

    Cydymdeimlwn â Dwynwen yma ac yn bwysicach, efallai, dechreuwn ei deall. Y mae'n gweithio'n ddi-baid gan fod ofn segurdod arni. Pan orffwysa am ennyd daw atgofion i'w herlid a dagrau i'w llethu.

    Gwedd seicolegol
    Yr ateb, torchi llewys a pheidio cwyno. Drwy greu Dwynwen yn y modd hwn llwyddodd yr awdur i roi gwedd fwy seicolegol i ddrama a allai mor hawdd fod yn ddim ond tract o bropaganda simplistig.

    Mae'r diweddglo yn amwys ac yn llawn symbolaeth.
    Mae'r siarad yn dynerach a Dwynwen yn gorffwyso gan afael yn llaw ei gŵr.
    Mae'n gwylio plant yr ymwelwyr yn dymchwel clawdd Llain Bella ac yn dweud wrth Emyr :
    "Na . . . gad iddyn nhw chwara."

    Y clawdd
    Symbol yw clawdd Llain Bella wrth gwrs, yn cynrychioli'r hen ffordd o fyw a Dwynwen wedi rhoi'r gorau i geisio ei ailgodi.

    Mae'n deall y byddai wrth adfer yr hen ffordd o fyw yn adfer hefyd y gorthrwm a'r caethiwed a ddoi gydag ef.

    Mae corn y Regata seinio, a Dwynwen yn swatio gydag Emyr. Mae popeth mewn harmoni, a'r ddau wedi darganfod rhywbeth sydd o fwy o werth na chae a marina.


  • Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
    Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad Kate Crockett

  • Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý