Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb Mae cyfarwyddwr artistig Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru wedi taro'n ôl yn dilyn beirniadaeth..
Daeth y cwmni a Cefin Roberts, y cyfarwyddwr artistig, dan lach Ceri Sherlock yn sgil cynhyrchiad o Romeo a Juliet sydd newydd fod ar daith o gwmpas Cymru.
Ond yn siarad ar raglen Maniffesto ar y teledu ddydd Sul, Tachwedd 7, dywedodd Mr Roberts nad oedd yn derbyn y feirniadaeth.