Llywelyn anghywir Barn Llio Fflur o Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, Gwynedd, o gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Siwan
Roeddwn yn edrych ymlaen i weld cynnyrchiad y Theatr Genedlaethol o Siwan gan Saunders Lewis gan fy mod wedi astudio'r ddrama fel rhan o'm cwrs lefel A Cymraeg.
Yn wir nid fi oedd yr unig un, roedd y Theatr dan ei sang a'r disgwyliadau'n uchel.
Roeddwn wedi mwynhau ond oherwydd fy mod yn gyfarwydd a'r ddrama - o ran dyfyniadau ac yn y blaen - roedd yr act olaf yn llusgo erbyn y diwedd.
Ond wedi dweud hynny nid oeddwn yn hoff o'r drydedd act yn gyffredinol.
Yr olygfa pan oedd Gwilym Brewys yn cael ei grogi oedd fy ffefryn. Actio pwerus gan Lisa Jên.
Credaf nad oedd Dyfan Roberts yn addas fel Llywelyn oherwydd fod cymeriad arall y mae wedi ei berfformio wedi aros gyda mi oedd yn wrthgyferbyniad llwyr â nodweddion personoliaeth Llywelyn. Llio Fflur (6i)