Chwilio am atebion yng ngwaelod y botel, yn nrama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r cylch. Adolygiad Elin Wyn.
Awst 2004
"Mae gan pob alcoholig ei stori, mae pob stori'n wahanol, a phob stori'n debyg" dyna a ddywedir ar ddeunydd cyhoeddusrwydd y ddrama Lysh gan Aled Jones Williams. A dyna a gawn yn y ddrama. Stori tri alcoholig unigol, sydd â 'rhesymau' gwahanol am eu cyflwr, ond yn y bôn , ac wrth i'r ddrama fynd yn ei blaen, dysgwn mai amgylchiadau bywyd o'r gorffennol a phersonoliaeth y cymeriadau sydd wedi arwain at y cyflwr hwn ym mhob un ohonyn nhw.
Y mae'r ddrama yn seiliedig ar brofiadau'r awdur ei hun, a oedd tan flwyddyn yn ôl yn rhydd o alcohol am bymtheng mlynedd ond pan drodd yn ôl unwaith eto at y botel bu'n rhaid iddo gael triniaeth mewn canolfan breswyl arbennig yn yr Alban o'r enw Castle Craig.
Mae pob un o'r actorion yn gredadwy iawn ac yn rhoi perfformiad arbennig. Maldwyn John sy'n chwarae'r cymeriad Jona Fodca, dyn yn ei bedwardegau hwyr. Teimlaf bod y rôl hon yn gweddu'r actor yma i'r dim. Phil Reid yn portreadu Ifor, eto yn ei bedwardegau hwyr mewn siwt (ychydig yn flêr) a thei - a golwg wedi dechrau ei cholli hi arno. Betsan Llwyd yw'r therapydd Sandra a Rhodri Meilyr yn rhoi perfformiad arbennig mewn gwisg Santa Clôs. Valmai Jones yw'r cyfarwyddwr.
Chwilio am atebion
Mae gan bob un ei stori unigol ei hun ac yn chwilio am atebion. Wedi troi am gysur y botel, yn y pen draw daw'r sylweddoliad nad yng ngwaelod y botel gyntaf, na'r botel nesaf y mae'r atebion i broblemau bywyd.
Ceir dweud plaen yn y ddrama, am afael tynn iawn lysh ar yr alcoholig. Sandra yw'r cymeriad sy'n rhoi'r gosodiadau plaen i'r cymeriadau eraill - poenus bron i'r gynulleidfa am gyflwr alcohol. "Afiechyd y teimladau ydy alcoholiaeth yn y bôn. Mewn geiriau eraill ni fedr alcoholig fyw hefo'i deimladau." Wedi clywed Aled Jones Williams ei hun yn siarad yn agored am ei gyflwr dros y misoedd diwethaf, clywir ei lais yn gyson hefyd yn neialog y ddrama ac yng ngosodiadau'r cymeriad Sandra.
Mae rhywun yn tristau wrth glywed geiriau mor blaen. Cymeriad Santa Clôs er enghraifft yn sôn am y botel o "ddŵr cudd" "wedi'i chuddio'n ddigon decha ym mag llwch yr hwfyr."
Yn ôl y disgwyl, mae hon yn ddrama drom ac yn un farddonol iawn ar brydiau. Mae'n ddrama sy'n gofyn am ganolbwyntio yn hytrach nag eistedd yn ôl i'w mwynhau hi. Mae'n codi cwestiynau. Teimlais yn reit annifyr yn gadael y theatr - lle roedd torf digon parchus wedi troi allan i berfformiad cyntaf y ddrama yn Theatr y Dolman, Casnewydd
Sylweddolir erbyn y diwedd mai cysur dros dro a ddaw o'r botel fodca gudd y mherfeddion poced y got, a daw'r pwynt i chwilio ymhellach na'r botel wydr wag am atebion i gwestiynau bywyd.
Cynhyrchiad Theatr Bara Caws ydy'r ddrama, ac mae'n cael ei pherfformio yn Theatr y Dolman, Casnewydd tan Awst 6ed. Mi fydd yn teithio Cymru wedi wythnos yr Eisteddfod.
Adolygiad gan : Elin Wyn.
Dyma fanylion am daith Lysh o amgylch Cymru:
Neuadd Dwyfor Pwllheli - Medi 7 ac 8 am 7.30.
Theatr Gwynedd, Bangor - Medi 10 ac 11, 7.30.
Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug - Medi 14, 7.45.
Theatr Sherman, Caerdydd - Medi 18, 7.30.
Theatr Elli, Llanelli - Medi 23, 7.30.