Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹Éç Homepage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Theatr Genedlaethol CymruTheatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
Beirniaid yn condemnio 'bod yn saff'
Yr un wythnos ag y gadawodd rheolwr cyffredinol Theatr Genedlaethol Cymru ei swydd wedi dim ond chwe mis yn y gwaith daeth y cwmni dan ymosodiad pellach gan adolygydd blaenllaw a chyfarwyddwr theatr.

Ar y rhaglen radio, Wythnos Gwilym Owen, cyhuddwyd y cwmni:

  • O fod ymhell ar ôl cwmni cenedlaethol yr Alban sydd wedi bod mewn bodolaeth am lawer llai o amser.
  • O fethu ag arloesi gyda chynyrchiadau gan ddewis yn hytrach fynd am bethau "saff".
  • Am fethu â denu actorion Cymraeg amlwg i berfformio yng Nghymru.
  • O fod wedi ei ffurfio yn dilyn trafodaethau "cul" a "phreifat".

    'Yr Alban ymhell ar y blaen'
    Ers ei sefydlu dros dair blynedd yn ôl bu anfodlonrwydd ynglŷn a rhai o gynyrchiadau Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru ac mae'r feirniadaeth ddiweddaraf yn codi o erthygl gan Paul Griffiths a ymddangosodd yn Y Cymro.

    Dywedodd yno fod Cwmni Theatr Genedlaethol yr Alban ymhell ar y blaen i'r cwmni Cymraeg er na fu mewn bodolaeth ond er Chwefror 2006.

    Gwrthododd y cwmni wahoddiad i gymryd rhan yn Wythnos Gwilym Owen ond fe ddywedodd sylwebydd annibynnol, Carys Wyn Edwards sy'n flaenllaw ym myd y ddrama ac yn bennaeth Adran Ddrama Ysgol Maes yr Yrfa, Llanelli, iddi hi gael ei "digoni" gan lawer o'r hyn a wnaed gan y cwmni.

    Ond meddai Paul Griffiths, adolygydd theatr rheolaidd Y Cymro:
    "Dwi'n teimlo, fel yr ydw i wedi dweud sawl gwaith yn Y Cymro, fod diffyg gweledigaeth a dwi jyst yn cenfigennu'n gyfangwbl wrth Theatr Genedlaethol yr Alban sydd ar ôl blwyddyn yn ei hanes ymhell ar y blaen.

    "Ryda ni dair blynedd rŵan gyda'n theatr genedlaethol ni ac mae'r cynyrchiadau rydym ni wedi gael i gyd wedi bod yn saff neu wedi bod yn gawl eildwym o rywbeth sydd wedi bod o'r blaen. Does yna ddim byd ffres, newydd; does yna ddim sgwennu newydd, syfrdanol.

    "Mae gennym ni ddramodwyr fel Aled Jones Williams a Meic Povey, pobl arbennig iawn, iawn, a does yna ddim cyfle iddyn nhw gael llwyfannu gwaith newydd, gwaith arbrofol fel sy'n digwydd yn yr Alban."

    'Wedi colli cyfle'
    Cefnogwyd Paul Griffiths i'r carn gan Jeremy Turner, cynhyrchydd a chyfarwyddwr profiadol a Chyfarwyddwr Artistig cwmni theatr mewn addysg Arad Goch:

    Jeremy Turner "Mae'n drueni ein bod wedi colli cyfle," meddai gan gyhuddo'r cwmni o fodloni ar ail greu yr hen Gwmni Theatr Cymru a oedd yn llwyddiannus iawn yn y Chwedegau a'r Saithdegau.

    "Ond wrth gwrs erbyn hyn mae mwy na chwarter canrif wedi mynd heibio a does dim pwynt ail greu . . . mae'r holl waith arbrofol a ddigwyddodd yng Nghymru yn yr Wythdegau a'r Nawdegau, does dim adlewyrchiad o gwbl o hynny yng ngwaith y cwmni cenedlaethol," meddai.

    Ychwanegodd mai'r gwahaniaeth mawr rhwng y yr Alban a Chymru yw y ffordd y cafodd y cwmniau cenedlaethol eu sefydlu yn y ddwy wlad.

    "Yr oedd trafodaeth hir, agored ac eang yn yr Alban ymhlith pobl byd y theatr cyn creu templad ar gyfer y cwmni newydd.

    "Beth ddigwyddodd fan hyn oedd trafodaeth fewnol, gul, breifat iawn, a dim cyfle i bobl brofiadol yn y maes roi eu mewnbwn a'u syniadau ac rydym ni wedi colli cyfle," meddai.

    'Nifer o gynyrchiadau wedi digoni'
    Ond er yn barod i gydnabod gwendidau dywedodd Carys Edwards, sydd yn cynhyrchu un o brif sioeau Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerfyrddin eleni, i'r cwmni Cymraeg ei digoni hi ar sawl cyfrif.

    "Dwi'n credu fy mod i wedi cael fy nigoni mewn nifer o gynyrchiadau. Dwi wedi mwynhau cynyrchiadau fel TÅ· ar y Tywod ac Ester a Diweddgan a'r gwaith Wrth Aros Beckett yn yr Eisteddfod Genedlaethol [yn Abertawe]," meddai.

    "Dyda ni ddim yn mynd i blesio pawb drwy'r amser," ychwanegodd.

    "Dwi'n gwybod mai'r briff maen nhw wedi'i gael gan Gyngor y Celfyddydau ydi eu bod nhw yn mynd o amgylch y prif theatrau ac yn llenwi seddau a phan ydych chi'n meddwl am Gysgod y Cryman; pan oeddwn i yn y theatr yn gwylio hwnnw - ac fe allai ddweud nad oedd o yn un o fy hoff gynyrchiadau - ond yr oedd yna bobl yn y theatr, yn bennau gwynion efallai, nad oeddwn i wedi'u gweld yn y theatr ers rhai blynyddoedd.

    "Felly, gyda Cysgod y Cryman yr oedden nhw wedi gwneud yr hyn a ofynnwyd iddyn nhw.

    "Ac yna, gyda rhywbeth fel TÅ· ar y Tywod efallai nad oedd y bobol oedd yn Cysgod y Cryman ddim yn mynd i weld y cynhyrchiad hwnnw ond mae'n rhaid ichi geisio plesio a rhoi arlwy gwahanol a dwi'n meddwl ein bod ni yn cael hynny."

    'Nid llenwi theatrau yn unig'
    Ond dywedodd Jeremy Turner y gallai arlwy'r cwmni "fod wedi bodoli ddeg, ugain, trideg mlynedd yn ôl a'r arddull sy'n cael ei defnyddio i gyflwyno'r arlwy yna."

    Ond anghytunodd Carys Edwards gan ddweud i rai cynyrchiadau fod yn arbennig o dda.

    Dadleuodd Paul Griffiths nad llenwi theatrau ddylai fod yr unig fesur o lwyddiant cwmni cenedlaethol:

    "Os dyna ydi rôl theatr genedlaethol, llenwi theatrau, rhowch gynhyrchiad o O Law i Law, rhowch gynhyrchiad o William Jones ac Enoc Huws ac mi wnewch chi lenwi.

    "Ond nid dyna ydi rôl theatr genedlaethol," meddai gan ychwanegu nad yw'r cwmni presennol "wedi'n symud ni ymlaen o gwbl".

    Ac meddai Paul Turner:
    "Fe allwch chi lenwi theatrau mewn sawl ffordd un ai trwy fod yn gwbl saff neu gwbl gonfensiynol neu drwy fentro ac mae'r theatr yn yr Alban wedi mentro ac yn llenwi eu theatrau . . .yn anad dim gyda mentergarwch a gwreiddioldeb a dyna ydym ni ddim yn ei gael."

    'Prinder gwaith newydd'
    Ac meddai Paul Griffiths:
    "Dydw i'n sicr ddim wedi teimlo, Dyma gychwyn newydd, dyma rywbeth ffantastig gwych yng Nghymru. Prin iawn ydi gwaith awduron newydd - dim ond Dominos [gan nifer o awduron newydd ar y cyd] a Plas Drycin gan Gwyneth Glyn.

    "Mi soniodd Cefin [Roberts, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni] wrtha i flwyddyn yn ôl am ddrama newydd o'r enw Iesu gan Aled Jones Williams oeddwn i wedi cael ar ddeall y byddai'n cael ei pherfformio yn Eisteddfod Sir Y Fflint ond yn sydyn reit na - felly lle mae'r gwaith newydd yma?" meddai.

    "Maen nhw'n dweud eu bod wedi comisiynu awduron felly pam nad ydym ni'n cael eu gweld nhw."

    Canmol gweithdai
    Ond dywedodd Carys Edwards, ei bod hi, fel pennaeth drama mewn ysgol, wrth ei bodd gyda chynhyrchiad fel TÅ· ar y Twod ac yn arbennig y gweithdai a drefnwyd gyda'r cynhyrchiad a fu'n "gaffaeliad mawr i ddisgyblion".

    "Felly, o'n safbwynt i rydw i wedi cael fy modloni yn hynny o beth."

    Gwahodd actorion
    Holodd Paul Griffiths hefyd pam nad yw actorion Cymraeg blaenllaw fel Rhys Ifans a Daniel Evans yn cael cyfle i actio gyda'r cwmni.

    "Mae Rhys Ifans wedi bod yn gwneud Don Juan yn Soho pam nad ydi o yn gwneud drama yn y Gymraeg? Pam nad ydym ni'n gweld yr actorion mawr yma , pam nad ydym ni yn medru'u denu nhw ac os allwn ni ddim eu denu i'n theatr genedlaethol dydy ni ddim yn mynd i fedru'u denu nhw o gwbl," meddai.

    Gwadodd Jeremy Turner awgrym fod criw o bobl yng Nghymru na fyddai'n fodlon ag unrhyw beth a gynhyrchai Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru gan ychwanegu iddo ef ei hun fod yn gefnogol iawn ond ychwanegodd:

    "Mi wnes i fwynhau Ester ac mae'r atalnod llawn yn dod yn syth ar ôl hynny dwi'n credu!

    "Gyda chymaint o adnoddau, cymaint o weithwyr , cymaint o arian, cymaint o botensial fe ddylem ni erbyn hyn fod wedi cael rhywbeth llawer, llawer, gwell na'r hyn sy'n cael ei roi," meddai.

  • Cliciwch i ddarllen am ymadawiad Rheolwr Cyffredinol Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru.

    Beirniaid y gorffennol:
  • Beirniadaeth Ceri Sherlock
  • Paul Griffiths ar Cysgod y Cryman



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý