| |
|
Siwan - barn Iwan Edgar 'Dim hyd yn oed tynnu'i grys!"
Yr anhawster o droi drama radio yn ddrama lwyfan a gafodd sylw Iwan Edgar hefyd wrth adolygu Siwan ar Raglen Dewi Llwyd ar Â鶹Éç Radio Cymru fore Sul, Mai 11 2008,
Awgrymodd ef y gellid fod wedi gwneud mwy ar lwyfan i ddarlunio'r garwriaeth rhwng Siwan a Gwilym Brewys.
Doniolwch "Nid fy mod i'n awgrymu fod yna sîn rywiol fawr ond yr oedd yna ryw ddoniolwch pan nad oedd y gwely brenhinol ddim amgenach na rhyw stôl fyddai rhywun yn ei ffeindio mewn rhyw gapel," meddai.
Ychwanegodd fod y methiant i ddarlunio'r garwriaeth yn fwy pendant yn ei gwneud yn anodd i'r gynulleidfa sylweddoli arwyddocâd y berthynas sy'n arwain at grogi Gwilym Brewys ddiwedd y ddrama.
"Mi roeson nhw rhyw gusan neu ddwy i'w gilydd ac roedden nhw'n rhyw gyffwrdd ei gilydd - ond i feddwl ei fod o yn cael ei grogi am halogi'r dywysoges - doedd o ddim yn gredadwy.
Dim noethni
"Dwi'n siŵr bod ein meddyliau bach Cymreig ni wedi derbyn erbyn hyn bod yna ryw noethni neu led noethni yn bur fynych ar y teledu ond doedden ni ddim yn mynd i gael hyd yn oed awgrym ohono [yn y ddrama]," meddai.
"Wnaeth o ddim hyd yn oed dynnu ei grys - i feddwl ei fod o wedi cael ei grogi . . . [a] doeddwn i ddim yn gwybod fod y weithred wedi digwydd . . . [ac] efallai bod yna golli cyfle wedi bod yn fanna," meddai.
Disgrifiodd berfformiadau y ddau brif actor - Ffion Dafis a Dyfan Roberts - fel "tebol" ond bod cymeriad Gwilym Brewys "braidd yn gloff".
Ychwanegodd mai'r prif gyfiawnhad dros gael y cynhyrchiad oedd ei fod yn gyfle i glywed eto iaith goeth dramodydd fel Saunders Lewis.
Adolygiad Vaughan Hughes
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Vaughan Hughes
Rhagor am Siwan
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|