Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹Éç Homepage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
 Wynford Ellis Owen a Jonathan NefyddPlas Drycin
Cynhyrchiad cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru ers ffrae Romeo a Juliet
Adolygiad gan Glyn Evans
Erbyn gweld, efallai nad y fi oedd yr un i fynd i adolygu Plas Drycin - ond mae'n debyg y byddai Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru wedi bod yn falch o weld unrhyw un cyn belled nad Ceri Sherlock oedd ei enw!

Ond y gwir amdani yw nad ydw i yn gredwr mawr mewn ffars hyd yn oed mewn cysylltiad ag enwau fel Whitehall, Ray Cooney a Brian Rix er y gallwn werthfawrogi camp y storïo slic a'r cynhyrchu llyfn y tu ôl i'r miri gorffwyll ar y llwyfan.

Ond er bod rhai o'r elfennau hyn yn Plas Drycin sydd ddim yn ffars yng ngwir ystyr y gair - ni allwn, wrth wylio'r perfformiad cyntaf yn Theatr Gwynedd, Bangor, beidio â holi fy hun ai dyma'r math o gynhyrchiad a safon y mae rhywun yn ei ddisgwyl gan ein theatr genedlaethol.

Owen Aewyn, Dave Taylor, Sue Roderick a Jonathan NefyddNid dweud yr ydw i fod ein Cwmni Theatr Genedlaethol uwchlaw perfformio ffars ac na ddylai ond anelu at yr uchel ael ond dweud y dylai fod rhyw sglein, rhyw elfen X yn perthyn i berfformiad cwmni cenedlaethol gyda'r sgrifennu wedi ei dwtio a'i gaboli i'r fath raddau ag i fod heb frychau a'r cynhyrchu mor llyfn nad ydych yn gweld y dechneg.

Yr oedd mwy o ddisgwyl hynny nag erioed yn dilyn y gernod gafodd y cynhyrchiad diwethaf y cwmni gan Ceri Sherlock. Hwn, wedi'r cyfan, oedd y cyfle cyntaf i'w ateb a gweithredoedd.

Ysgafn a joli
Wrth gael ei chanmol ar y radio, fore'r perfformiad cyntaf dywedodd yr awdur, Gwyneth Glyn; am ei drama;

"Mi fyddwn i'n annog pobol i fynd i'w gweld hi. Mae hi yn sbort, yn ddrama fach ysgafn, joli i'r teulu."

Ond awgryma'r geiriau theatr genedlaethol ynddynt eu hunain rywbeth mwy na hynny i mi. Rhywbeth gwell ac uwch na'r cyffredin gyda disgwyliadau rhywun yr un a mynd i weld yr RSC, dyweder, yn perfformio yn Lloegr.

Yr hyn mae theatr genedlaethol yn ei awgrymu i mi yw cyfle i weld hufen y proffesiwn mewn cynyrchiadau y byddai cwmnïau eraill yn ymdrechu i ymgyrraedd atyn nhw.

Gadael yn fodlon
Er i'r gynulleidfa adael Theatr Gwynedd yn fodlon iawn â'r hyn a welodd ac er i'r chwerthin borthi'r jôcs geiriol a gweledol yn gyson yn ystod y perfformiad ni allwn i yn fy myw deimlo inni gael y rhywbeth sbesial hwnnw a gysylltir a theatr genedlaethol gwlad bydded o ran sgrifennu neu o ran perfformiad.

Yn Theatr Gwynedd daeth rhywun i ddeall beth oedd gan Ceri Sherlock dan big ei gap pan gyfeiriodd at elfennau cynhyrchiad coleg neu yr hen weekly rep wrth sôn am Romeo a Juliet gan na welwyd dim yno na allai Bara Caws, dyweder, fod wedi ei wneud gystal.

Ond ara deg rwan, rydw i'n prysur fynd i sôn mwy am fy syniad i o rinweddau Theatr Genedlaethol nag am y cynhyrchiad hwn ac mae'n bwysig imi brysuro i ddweud i'r gynulleidfa yn Theatr Gwynedd ymddangos yn gwbl fodlon â'r hyn a welodd.

Ac yn y rhaglen fe eglurir mai man cychwyn i "gynllun i ddatblygu sgwennu newydd i'r Theatr Gymraeg gan awduron profiadol ac egin ddarmodwyr" yw y cynhyrchiad hwn gydag addewid o "sioe gomisiwn" ar gyfer yr hydref ac mae meithrin talent, wrth gwrs, yn rhywbeth i'w gymeradwyo a'i gymell.

Gallwn edrych ymlaen at ragor o gyfraniadau gan

Gwyneth Glyn er enghraifft gan fod mwy o addewid nag o ddiffygion ym Mhlas Drycin er y gellid fod wedi tynhau'r sgript a gwella'r stori.

Yn eistedd ymhlith nifer o ferched ieuanc yr oeddwn yn ymwybodol o lawer iawn o chwerthin a fyddai'n hwb i gwmni yn cychwyn ar daith o gwmpas Cymru.

Stori Plas Drycin
Ar noson ddrycinog o fellt a tharanau mae Iorwerth (Owen Arwyn), Ymgyrchydd Rhif 2 Brawdoliaeth Gweriniaeth Gwrtheyrn, yn torri i mewn i blasty sydd ar werth am bris na all pobl leol ei fforddio i osod bom yno er mwyn "deffro Cymru efo'r glec fwyaf a glywodd a erioed".

Ac yntau yn dal yn y tÅ· daw gwerthwr tai (Jonathan Nefydd) yno gyda chwsmer posibl, Sue Roderick.

Ac fel sy'n digwydd mewn plastai ar nosonweithiau drycinog o fellt a tharanau a goleuadau'n diffodd cyrraedd rhagor o ymwelwyr annisgwyl gan gynnwys Nesta (Rhian Blythe), etifedd y plas, a'i chariad seimllyd, twyllodrus a holistaidd, Tristen (Dave Taylor) a'r lliwgar ac anhygoel Athro Celtaidd Rupert V Campbell (Wynford Ellis Owen) sydd wedi dysgu Cymraeg ac yn siarad yn amseroedd amherffaith a gorberffaith y ferf.

Yr olaf i ymuno â'r cwmni brith yw cantores Geltaidd hudolus os amhersain, Gennerys (Carys Eleri Evans) sydd hefyd yn dipyn o ddirgelwch.

Rhyngddyn nhw i gyd does dim rhyfedd fod yna dwyll, dichell, camddealltwriaeth, cyd-ddigwyddiadau, ysbryd, helynt a miri a lot fawr o hwyl.

Pantomeimaidd
O'r perfformiadau un Wynford Ellis Owen fel yr ysgolhaig Celteg ecsentrig gafodd y chwerthin mwyaf mewn perfformiad pantomeimaidd o dros ben llestri.

Rhyw fath o Wynff ap Concord gyda llais dwfn ac wedi cael addysg a'r dywediad "Clepiasodd y drws yn fy wyneb."

Jonathan Nefydd a Sue Roderick Perfformiad cynilach, a apeliodd fwy mewn gwirionedd ataf i, oedd un Sue Roderick fel gweddw gweinidog ramantaidd ei thueddiadau sy'n syrthio mewn cariad â'r gwerthwr tai yn y gred mai ef biau Plas Drycin.

Rhannau digon di-liw a roddwyd i'r ddwy ferch arall er i Carys Eleri Evans wneud yn fawr o'i chyfle i 'ganu'n Geltaidd' - gyda'r olwg ar wyneb WEO yn bictiwr fel yr oedd hi wrthi!

Neis ond gwastraffus
Gair cyn gorffen am y rhaglen. Rwy'n siŵr i Greenpeace gynnal protestiadau yn gwrthwynebu llai o wastraff papur na hyn.

Yn costio dwybunt mae'n felyn llachar ac yn drawiadol iawn ei diwyg ond o bapur trwchus gyda naw o'i dalennau yn wâg neu bron a bod yn wâg i bob pwrpas.
Neis ond gwastraffus.
Efallai y gellid sgwennu drama am y twll adawyd ganddi yn fforest yr Amazon.

Cysylltiadau Perthnasol


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Eisteddfod
Bei-Ling Burlesque
Mwnci ar Dân
A Toy Epic
A4
Actus Reus
Actus Reus - adolygiad
Ar y Lein
Araith hir yn y gwres
Back to the Eighties
Bitsh
Branwen
Branwen - adolygiad
Bregus
Breuddwyd Branwen
Breuddwyd Noswyl Ifan
Bryn Gobaith
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caban Ni Caban Nhw
Caerdroia
Caffi Basra
Café Cariad
Café Cariad
Camp a Rhemp -
Canwr y Byd Caerdydd
Cariad Mr Bustl
Crash
Cymru Fach
Cysgod y Cryman
Cysgod y Cryman - barn arall
Dan y Wenallt
Dawns y Cynhaeaf
Deep Cut
Deinameit
Dewi Prysor DW2416
Digon o'r Sioe
Dim Mwg
Diweddgan
Diweddgan - barn Aled Jones Williams
Dominios - adolygiad
Drws Arall i'r Coed
Erthyglau Cynllun Papurau Bro
Esther - adolygiad
Ffernols Lwcus
Fron-goch
Gwaun Cwm Garw - adolygiad
Gwe o Gelwydd
Gwell - heb wybod y geiriau!
Halen yn y Gwaed
Hamlet - adolygiad 1
Hamlet - adolygiadau
Hedfan Drwy'r Machlud
Hen Bobl Mewn Ceir
Hen Rebel
Holl Liwie'r Enfys
Iesu! - barn y beirniaid
Jac yn y Bocs
Johnny Delaney
Life of Ryan - and Ronnie
Linda - Gwraig Waldo
Lleu
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llywelyn anghywir
Lysh gan Aled Jones Williams
Macsen
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
Maes Terfyn
Maes Terfyn - adolygiad
Marat - Sade
Mari'r Golau
Martin, Mam a'r Wyau Aur
Meini Gwagedd
Melangell
Mosgito
Mythau Mawreddog y Mabinogi
Môr Tawel
Nid perfformiad theatrig
Noson i'w Chofio
O'r Neilltu
O'r boddhaol i'r diflas
Owain Mindŵr
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar:
adolygiadau ac erthyglau

Pwyll Pia'i
Rapsgaliwns
Redflight Barcud
Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
Sibrydion
Siwan - adolygiadau
Siwan - adolygiadau
Siwan - barn Iwan Edgar
Sundance
Tafliad Carreg
Tair drama tair talaith
Taith Ysgol Ni
Taith yr Urdd 2007
Theatr freuddwydion
Trafaelu ar y Trên Glas
Tri Rhan o Dair - Adolygiad
Tri Rhan o dair
Twm Siôn Cati
TÅ· ar y Tywod
Wrth Aros Godot
Wrth Borth y Byddar
Y Bonc Fawr
Y Crochan
Y Dewraf o'n Hawduron
Y Gobaith a'r Angor
Y Pair
Y Pair - Adolygiad
Y Pair - adolygiad Catrin Beard
Y Twrch Trwyth
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Yn y Ffrâm
Yr Argae
Yr Ystafell Aros
Zufall
Eisteddfod
Yr Eisteddfod
Genedlaethol
2008 - 2004

Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


Eisteddfod 2004
Eisteddfod 2003
Eisteddfod 2002
erthyglau
Bitsh! ar daith drwy Gymru
Adeilad y Theatr Genedlaethol
Alan Bennett yn Gymraeg
Beckett yn y Steddfod
Blink
Bobi a Sami a Dynion Eraill
Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
Buddug James Jones
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caerdroia
Clymau
Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
Cysgod y Cryman - her yr addasu
Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
Dominos
Drws Arall i'r Coed
Ennyn profiadau Gwyddelig
Esther
Ffernols Lwcus
Fron-goch yng Ngwlad Siec
Frongoch
Grym y theatr
Gwaun Cwm Garw
Gŵyl Delynau Ryngwladol
Hamlet - ennill gwobr
Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
Hen Rebel
Holi am 'Iesu'
Iesu! - drama newydd
Llofruddiaeth i'r teulu
Lluniau Marat-Sade
Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
LluniauMacsen - Pantomeim 2007
Llyfr Mawr y Plant ar daith
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Marat - Sade
Marat - Sade: dyddiadur actores
Mari'r Golau
Mari'r Golau - lluniau
Meic Povey yn Gymrawd
Melangell
Migrations
Mrch Dd@,
Mwnci ar Dân
Myfyrwyr o Goleg y Drindod
Olifer - Ysgol y Gader
Owain Glyndŵr yn destun sbort
Panto Penweddig 2006
Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Ploryn
Porth y Byddar
Romeo a Juliet
Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
Sion Blewyn Coch -
y seicopath?

Siwan ar daith
Streic ar lwyfan
Sundance ar daith
Teulu Pen y Parc
Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
TÅ· ar y Tywod
TÅ· ar y Tywod
- y daith

Wrth Aros Godot - holi actor
Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
Y Pair
Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
Y ferch Iesu
Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
Yr Argae ar daith


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý