|
Yr Ystafell Aros Gormod o 'ddweud' dim digon o awgrymu
Adolygiad Sioned A Williams o gynhyrchiad Cwmni Arad Goch, Yr Ystafell Aros gan Caryl Lewis.
Yn ôl eu deunydd cyhoeddusrwydd, nod cynhyrchiad diweddaraf cwmni Theatr Arad Goch. Yr Ystafell Aros yw "bod yn boblogaidd ymysg y gynulleidfa ifanc" er bod y ddrama yn cael ei hysbysebu fel un sy'n addas i blant dros eu 13 oed ac oedolion.
Ond, wrth reswm, roedd dros draean o'r gynulleidfa yn noson agoriadol y ddrama yn Ysgol Bryn Tawe, Abertawe, dros eu deugain am fod Cymry o bob oedran yn cefnogi cynhyrchiadau Cymraeg, beth bynnag eu natur.
Hudo'r ifanc Dros y blynyddoedd does dim dwywaith bod y cwmni mentrus hwn wedi llwyddo i ddenu a hudo'r ifanc, yn enwedig yn sgil ei berfformiadau i ysgolion.
Roedd fy nisgwyliadau innau'n uchel felly, yn arbennig am fod y sgript gan yr awdures ifanc ac hynod ddawnus, Caryl Lewis, sy'n un o fy hoff nofelwyr.
Stori brawd a chwaer yw Yr Ystafell Aros. Mae Sion (Ioan Gwyn) a Sara (Mari Beard) yn gorfod ymdopi â'r ffaith bod eu tad wedi gadael y teulu a bod eu mam wedi colli ei phwyll a'i hiechyd ac felly'n methu a'u helpu nhw ar eu taith drwy eu llencyndod.
Dyw hi ddim yn dod i weld Sion, sy am fod yn actor, yn ei sioe ysgol, nac yn sylwi ar nac yn meithrin dawn Sara mewn celf.
Y fenyw drws nesa, Jackie, sy'n dipyn o gymeriad, yn dosbarthu pryd ar glud yn ei sodlau uchel coch, sy'n dod i'r adwy ac yn ceisio helpu'r ddau wrth iddynt brifio.
Trin pobl ifanc Fel y rhaglenni "ieuenctid" sy'n ceisio'n rhy galed i fod yn "ifanc" eu hysbryd, mae yna dueddiad weithiau i drin pobl ifainc fel cynulleidfa llai sensitif a llai deallus. Wrth gwrs mae anghenion plant bach yn unigryw, a'u gallu i uniaethu neu i ganolbwyntio yn wahanol.
Ond erbyn cyrraedd yr arddegau, yn enwedig yn yr oes sy ohoni, mae pobl ifanc yn ddigon abl i wylio ffilm ar ei hyd, neu ddarllen nofel weddol swmpus, a dylai gwaith celfyddydol fel cynhyrchiad theatr barchu'r gallu hwnnw - ac yn wir ceisio ei ymestyn.
Roedd yn drueni mawr felly bod y sgript yn tueddu i adael dim i'r dychymyg, gan bentyrru deialog di-angen heb roi cyfle i'r stori digon afaelgar hon anadlu.
Symud, symud, symud Gymaint yr awch i symud, symud, symud - rhag ofn y byddai'r plantos yn bored ? - fe gafwyd rollercoaster gwyllt o olygfeydd byrion - a'r hwter oedd yn seinio i nodi terfyn pob un, erbyn y diwedd yn ymdebygu i gorn enwog y sioe radio Just a Minute, mor ffrenetig oedd cyflwyniad y stori.
Roedd tuedd hefyd gan yr actorion, yn sgil hyn, i ruthro a llyncu geiriau.
Doedd y golygfeydd gyda chymeriad y fam ddim yn taro deuddeg am eu bod braidd yn felodramatig eu cyflwyniad ac ni chyfrannodd y tro ystrydebol yn niwedd y ddrama ddim ati chwaith.
Roedd perfformiad Mari Beard, serch hynny, yn gryf iawn fel y chwaer fach sy'n ceisio ffeindio ei ffordd mewn bywyd heb fawr o arweiniad na chefnogaeth, yn enwedig ar ol i'w brawd Sion fynd i fyd y ddrama yn Llundain.
Llwyddodd i gyfleu datblygiad tawel ei chymeriad a'i hunan-hyder yn effeithiol wrth i Sara lwyddo, er gwaetha holl drafferthion ei bywyd, i gyrraedd hapusrwydd personol llawer mwy cyffredin na'i brawd, sy hefyd yn y diwedd yn gwneud ei farc ym myd y ddrama wedi diodde caledi a phrofiadau ystrydebol y cyw actor.
Cartwnaidd Bydd bywiogrwydd perfformiad Ioan Gwyn yn siwr o apelio at aelodau iau'r gynulleidfa, ond roedd naws gartwnaidd ei bortread o Sion braidd yn undonog ar y cyfan, ac yn wahanol i Mari Beard, fe fethodd â chyfleu tristwch mewnol ei gymeriad.
Ac yn hyn o beth roedd tuedd y sgript i ddweud pob dim heb awgrymu nac ensynnu braidd yn nawddoglyd i'r gynulleidfa, yn ifanc ac yn hen.
Enghraifft o ddiffyg cynildeb y sgript oedd y rheidrwydd i ddweud wrthon ni bod awydd Sion i ganu a dawnsio yn deillio o'i fagwraeth anodd ac yn ymateb i dristwch ei fam.
Roedd portread Ioan Gwyn o Jackie, mewn arddull cymeriad stoc ar lwyfan Noson Lawen, yn ddoniol am ennyd ond yn colli cyfle i gyrraedd lefel emosiynol perthynas Jackie a'r plant.
Llwyfannu crefftus Fel sy'n arferol gyda'r cwmni, cafwyd llwyfannu crefftus a mentrus a'r defnydd o brops a cherddoriaeth yn bwrpasol a di- ffwdan a'r defnydd o sgyrsiau a thonau ar y ffonau symudol yn effeithiol.
Mae pynciau'r ddrama - goresgyn rhwystrau mawr a bach, union natur llwyddiant, y gwahaniaeth yn y ffordd mae unigolion yn ymateb i'r un sefyllfa - yn cynnig deunydd diddorol a pherthnasol i bob oed.
Y sgript oedd elfen wanaf y cynhyrchiad a hynny am ei bod yn dweud gormod - heb ymddiried yn y gynulleidfa i fedru dirnad a chlywed ei neges drostyn nhw eu hunain.
Mae digon i'w fwynhau yma ond gallai'r ddrama fod cymaint yn well petai wedi awgrymu mwy a dweud llai.
Y daith 6 Tachwedd 2008 - Riverfront, Casnewydd, 7.45pm (Perfformiad Cymraeg)
10 Tachwedd - Ysgol Gyfun Llangefni, Môn, 7.30pm (Perfformiad Saesneg )
11 Tachwedd - Galeri, Caernarfon, 2pm (Perfformiad Cymraeg)
12 Tachwedd - Neuadd Dwyfor, Pwllheli, 7.30pm (Perfformiad Cymraeg)
18 Tachwedd - Canolfan Arad Goch, Aberystwyth, 7.30pm (Perfformiad Saesneg)
19 Tachwedd - Canolfan Arad Goch, Aberystwyth, 7.30pm (Perfformiad Cymraeg)
21 Tachwedd - Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron, 7.30pm (Perfformiad Cymraeg)
26 Tachwedd - Canolfan Gymraeg Merthyr Tudful, 7.30pm (Perfformiad Cymraeg)
27 Tachwedd - Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd 1.30pm (Perfformiad Cymraeg)
2 Tachwedd - Ysgol Gyfun y Cymer, Rhondda, 7.00pm (Perfformiad Cymraeg)
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
|