|
Dan y Wenallt Cynhyrchiad cyntaf taith Theatr Ieuenctid yr Urdd 2007
Adolygiad Catrin Dafydd o Dan y Wenallt - Theatr Genedlaethol yr Urdd - Talaith y Canolbarth. Caerfyrddin. Nos Iau, Rhagfyr 12, 2007. Yr her Mae perfformio Dan y Wenallt yn her. Nid am ei fod yn gofyn am berfformiadau grymus nac am ei fod yn trafod materion mawr y byd.
Yr hyn sy'n her amdano yw ei undonedd a'i arddull anecdotaidd. Ni welwch linyn stori clir nac uchelbwyntiau dramatig yng ngwaith Dylan Thomas, dim ond cip dros dro ar fywydau unigolion.
Ni chewch weld digwyddiadau arswydus ar lwyfan, dim ond eu lled awgrymu nhw wna Thomas.
A dyma'r her. Her o allu perfformio gwaith sydd heb linyn storïol pendant yn ogystal a'r her o berfformio gwaith sydd wedi ei wneud gymaint o weithiau o'r blaen. Bron iawn hyd syrffed...
Deall pam Ond, a'r holl rhagdybiaethau hyn yn fy mhen, siomwyd fi ar yr ochr orau gan berfformiadau meistrolgar actorion Talaith y Canolbarth a ddaeth a chmeriadau yn fyw o flaen y gynulleidfa.
Wrth wylio fe ddes i ddeall pam fod yr Urdd wedi dewis y fath ddrama i'r criw ifanc hwn.
Fel y gŵyr pawb, cyfres o olygfeydd blith draphlith a gawn yn Dan y Wenallt. Golwg gudd ar fywydau beunyddiol trigolion Llaregyb.
Er y gallasai rhai ddehongli'r cymeriadau fel cymeriadau stoc fe lwyddodd Theatr Genedlaethol yr Urdd i'w codi i lefel uwch. Roeddech yn uniaethu ac yn pendroni, yn chwerthin ac yn deisyfu clywed rhagor am fywydau'r cymeriadau. Roedd cil y drws wedi agor, ac roedd blys am fwy arnoch.
Wrth reswm, profodd addasiad Jim Jones o Under Milk Wood yn gymorth mawr i'r actorion gan nad cyfieithiad mo hwn ond creadigaeth all sefyll yn gydradd a'r gwreiddiol.
Mae'r elfennau barddonol ynddi yn hudo dyn a thro arall yn ei gynddeiriogi.
Braidd yn gawslyd
Er i'r perfformiad gychwyn braidd yn gawslyd gyda llun Dylan ar sgrin fawr o'n blaenau, dim ond gwella a wnaeth.
Profodd rhai actorion eu doniau cerddorol gan ganu câneuon a gyfansoddwyd ar gyfer y cynhyrchiad ac ychwanegodd hyn elfen bersonol a deinamig i'r cychwyn a hynny i'w ganmol yn fawr, yn bennaf am y rhydd ryw elfen o berchnogaeth i'r bobl ifanc ar eu cynhyrchiad.
Cyfle i gymaint Rheswm arall am ddewis y fath waith a Dan y Wenallt oedd ei fod yn cynnig cyfle i gymaint o actorion berfformio.
Cafodd ambell aelod y cyfle i fod yn ddarllenwyr stori ac fel canolbwynt i'r ddrama fe arweiniwyd ni gan y storïwyr i fydoedd a chartrefi gwahanol.
Oherwydd amrywiaeth yr actorion a ddarllenodd y stori nid aeth yr arddull hyn yn fwrn. A da o beth hynny oblegid gallasai fod wedi rhygnu ryw ychydig.
Mewn jeans
Roedd pob actor ar y llwyfan wedi eu gwisgo mewn rhyw lun ar jeans ond wn i ddim beth oedd union arwyddocâd hyn i'r cast ond yr hyn a gasglais i oedd fod yna fodd i daflunio ein bywydau modern ni yn erbyn byd dychmygol Thomas, a chanfod cyffelybiaethau. Hyd yn oed os na ddymunem weld cyffelybiaethau!
Rhagfarn yn erbyn rhai yn ein cymuned, rhwystredigaethau priodasol a charwriaethol, casineb, cariad a chwant. Yr elfen fusneslyd sy'n annatod ohonom ni'r Cymry.
Ac, yn bwysicach na hyn oll, hiwmor. Ac roedd digon o hwnnw yn y cynhyrchiad hwn. O'r gwartheg i'r gwragedd oedd yn rheoli eu dynion.
Yr actorion Heb enwi actorion, fe ddangosodd nifer fawr ohonynt botensial enfawr a diau y gwelwn ni nhw ar y sgrin fach dros y blynyddoedd nesaf.
Prysuraf i ddweud y dymunwn i weld nifer ohonynt ar ein llwyfannau ni yn ogystal. Yn fwy na heb, fe lwyddodd y cast i greu cameos o gymeriadau mewn dim o dro, gan ddangos dawn geirio a symud. Nid hawdd o beth yw cyfleu cymeriad mewn chwinciad chwannen, ond fe lwyddwyd i wneud hynny.
O gymeriadau lliwgar Mrs Dai Bara Brown a Dai Bara Gwyn i Mr a Mrs Puw, Lili, Mrs Preis y siop losin, Martha Mei a Sinbad a nifer fawr o gymeriadau eraill cafwyd gwledd o olygfeydd doniol a dyrys.
Deliwyd yn dda iawn gyda'r agweddau sinistr a thywyll yn Dan y Wenallt hefyd gan bwysleisio'r agweddau rhyfedd ac anghyffredin ar bersonoliaethau trigolion Llaregyb.
Roedd hi'n wych o beth gweld yr actorion i gyd yn bresennol ar y llwyfan drwy gydol y perfformiad.
Chwyrligwgan Da o beth hefyd oedd i'r cynhyrchiad bara am awr ac ychydig yn unig. I mi, dyma brawf llwyddiant y perfformiad. Chwyrligwgan chwareus oedd hi, un ddi-stop. Ond gallasai troelli ar y chwyrligwgan am lawer yn hwy fod wedi fy ngwneud yn swp sâl. Diolch am ddethol darnau felly.
Y set O safbwynt set, aed ati yn gynnil ond yn bwrpasol i lunio cyfres o flociau glas golau a'u gosod yn ddestlus yng nghanol y llwyfan. Taenwyd rhwydi dros y blociau a dyna'r set. Yn syml, ond yn effeithiol.
Rhaid canu clodydd y bobl fu'n gyfrifol am y goleuadau hefyd. O daflu'r goleuadau glas go gyfer y nos a'r goleuadau euraidd a chochlyd i gynrychioli'r dydd, newidiwyd naws yr adrannau yn y cynhyrchiad gan greu teimlad o drefn.
Ymddengys i mi ei fod yn holl bwysig i actorion ifanc ein cenedl berfformio llenyddiaeth a dramau clasurol ac enwog fel Dan y Wenallt.
Dyna wnaethpwyd yn y cynhyrchiad hwn, ac er bod yr her yn un swmpus fe lwyddodd y cwmni.
Serch hyn, byddai'n hyfryd o beth gweld sut y byddai'r actorion yn ymateb i'r her o gael perfformio drama dywyllach neu fwy modern. Diau y daw hynny yn y dyfodol agos.
Cliciwch YMA i ddarllen rhagor am Theatr Ieuenctid Genedlaethol yr Urdd a'i dri chynhyrchiad newydd.
Rhagor am daith 2007 Cwmni Theatr ieuenctid yr Urdd
Cysylltiadau Perthnasol
Theatr Ieuenctid yr Urdd - taith 2007
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|