Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹Éç Homepage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Drws agored  - i bleCaerdroia
Bywyd yn y coed
Gorffennaf 2005
Adolygiad Glyn Evans o Caerdroia gan Llwyfan Gogledd Cymru

Ac mi gefais i olchi nhraed.

Mae'n un o wirioneddau'r oesoedd y gall artistiaid perfformio ac adlonwyr 'orfodi' pobl i wneud pethau sy'n gwbl groes i'w graen er eu hadloniant eu hunain ac er adloniant pobl eraill - ac nid sôn am olchi nhraed ydw i nawr.

Dyna graidd sioeau fel Big Brother a'i epil niferus.

Llwybr i ble? Hynny oedd i gyfrif sut y cefais i fy hun ar nos Lun, wedi diwrnod o waith, yn cael fy arwain gan ddwy ferch ifanc trwy goedwig a mwgwd du am fy llygaid.

Yr oedd mwy o dywyllwch i ddod - a rhagor o ddwylo cynhaliol hefyd. A sawl profiad.

Diolch am ddod
Yr oeddwn yng nghanol cynhyrchiad diweddaraf cwmni theatr Llwyfan Gogledd Cymru, Caerdroia, yn uchel i fyny'r mynydd yn nhawelwch a thangnefedd bendigedig Coedwig Gwydyr - neu Gwedir a defnyddio hen enw nas arferir bellach - ger Llanrwst.

"Diolch ichi am ddod," meddai un o'r cwmni; ond mewn gwirionedd fe fyddai angen bod yn greadur rhyfedd iawn i beidio â chael ei demtio i berfformiad gyda chymaint o ddirgelwch ynglŷn ag ef.

Mewn coedwig.
Ar ben mynydd.
Yn ymuno â labyrinth fesul un - yn hytrach nag yn gynulleidfa.
Dim rhyfedd i rai deithio yno yr holl ffordd o Sir Fôn ac eraill o Wrecsam, bellach fyth.

A beth pe byddai hi'n glawio?
"Mi fyddwn ni'n para 'mlaen beth bynnag."

Yn ffodus roedd hi'n noson resymol o haf a choedwig yn lle dymunol i fod ynddo - ond mae rhywun yn cael ei demtio i ddychwelyd pan fydd hi'n glawio i weld pa wahaniaeth fyddai hynny'n ei wneud.

Siapiau tylwyth teg
Mae'r 'perfformiad' yn dechrau mewn gwirionedd pan ydych yn cael ei cario o faes parcio'r goedwig mewn 'Tacsi Llundain' gryn dipyn yn uwch i fyny'r mynydd.

Yno, yr ydych yn disgwyl eich tro mewn stafell dawel wedi ei lled oleuo gan lanteri pwl a siapiau tylwyth teg ehedog oddi mewn iddyn nhw - cyn cael eich gwahodd ar ganiad cloch i ystafell arall lawn siapiau glonnod byw goleulas yn hongian oddi wrth linynnau.

Dyma gychwyn taith Caerdroia - taith drwy'r labyrinth.

A dyma, hefyd, gychwyn trafferthion adolygydd - gan y byddai ymhelaethu yn amharu ar y profiad i eraill. Ac y mae o yn brofiad; does dim dwywaith am hynny.

Cynnig dehongliadau
Mesur o'i lwyddiant oedd i bobl nad oeddynt wedi cyfarfod o'r blaen fod yn trafod yn frwd wedyn beth oeddan nhw yn ei feddwl ohono - a chynnig dehongliadau o'r hyn oedden nhw wedi'i brofi.

I mi alegori ydoedd o hedyn yn cael ei anfon i'r groth a'i fwrw allan yn blentyn i ddilyn llwybr bywyd.

Mewn un ystafell yr oedd synau'r groth yn gefndir i ferch yn canu'n ysgafn - ond fymryn allan o diwn yn ôl un a wyddai'n well na mi! - Fy maban tlws.

Drwy'r byd
Mae'r daith drwy'r byd yn un llai trawmatig na'r un sy'n arwain ato ond y mae honno hefyd yn brofiad gyda'i delweddau amrywiol, ei phenillion cryptig a chyfarfyddiadau ag amryfal greaduriaid Un o gymeriadau Caerdroia dynol y goedwig yn eu gwahanol ffurfiau yn amrywio o blentyn ofnus i storiwraig a all eich diddanu gyda chwedlau'r fro os dyna eich dymuniad. Estynnir gwahoddiad i chwithau ddweud stori hefyd.

Erbyn hyn mae'r unigolion gafodd fynediad fesul un, bob saith munud, i'r labyrinth yn dechrau hel at ei gilydd neu oddiweddyd ei gilydd wrth i un oedi'n hirachna'r llall yn ambell i le.

Weithiau mae'n bosib cymryd llwybr sydyn i ran arall o'r prif lwybr ond o wneud hynny collir pethau a'r profuad o'r herwydd yn dlotach.

Yn ôl llefarydd Llwyfan Gogledd Cymru gallai'r holl 'brofiad' fod drosodd mewn rhyw ugain munud i hanner awr - ond gall gymryd dwywaith, teirgwaith, gymaint a hynny amser, pe dymunid.

Yr oedd y cylch stori yn lle da i oedi ac fe hoffwn i fod wedi cael mwy o amser gyda'r forwyn ifanc ddewisodd olchi fy nhraed - ond yr oedd rhywun arall wedi dal i fyny â mi erbyn hynny.

Ond dyna fo, peth fel'na ydi bywyd ynte.

Gellid hefyd wrth hamdden i fwynhau golygfeydd rhyfeddol a synau natur.

Baneri gweddi
Ar ran o'r llwybr mae rhodfa o faneri y gallwch, yn unol a thraddodiad Tibetaidd, sgrifennu neges neu ddymuniad neu weddi arnyn nhw - a darllen negeseuon, dymuniadau neu weddïau pobl eraill wrth gwrs.

Baneri gweddi Ar lwybr bywyd mae'n bosib cyfarfod beirdd hefyd. Iwan Llwyd yn yr achos hwn; sy'n rhwygo o lyfr, gerddi yn ei lawysgrifen ei hun y mae'n eu cyfansoddi - i chi fynd â nhw adref i'w darllen a'u trysori.

Cerdd wahanol i bawb - wel tra bo'r awen yn llifo ta beth! Peth felly ydi bywyd hefyd.

Ymestyn ffiniau
Beth mae rhywun i'w wneud o hyn oll?
Wrth gwrs, mae beth mae rhywun yn ei wneud â hyn oll yn dibynnu ar eich syniadau ynglŷn â chelfyddyd, ynglŷn â theatr ac ynglŷn â phwrpas celfyddyd a theatr.

Ian RowlandsSoniodd Ian Rowlands, cyfarwyddwr artistig Llwyfan Gogledd Cymru, am awydd y cwmni - a gododd yn Ffenics o ludw yr hen Gwmni Theatr Gwynedd - i eangu gorwelion ac ymestyn ffiniau profiad theatraidd.

Ac nid oes amheuaeth i'r cwmni hwn - gyda chynyrchiadau fel Deinameit am anghydfod Friction Dynamics yng Nghaernarfon a Frongoch, am y gwersyll i garcharu Gwyddelod ger Y Bala, wneud hynny yn dra llwyddiannus.

Yr oedd y ffaith i Gaerdroia esgor ar drafodaeth ac ar ddehongli alegorïaidd yn arwydd y bydd y cynhyrchiad hwn yn destun trafod hefyd. A go brin y bydd yn ganmoliaeth i gyd - mae'n 'berfformiad' sy'n gwahodd cael ei gwestiynu.

Ond ni all hynny ond bod o les ar ddyfroedd digon difwstwr y theatr Gymraeg y dyddiau hyn.

Anghysurus
Ar nodyn ymarferol, efallai y dylai'r cwmni ystyried rhoi mymryn mwy o amcan i bobl beth i'w ddisgwyl cyn eu hudo i'r labyrinth rhyfeddol yna gan y gall pethau fod braidd yng anghysurus ar adegau - fel bywyd ei hun.

Prifardd Iwan Llwyd Bid a bo hynny; yn ogystal a rhywbeth i feddwl amdano mi gefais i olchi fy nhraed gan ferch ifanc ddeniadol, mi gefais i gerdd gan brifardd.

Heb sôn am afal gan wrach yn y coed.
Ddim yn ddrwg am nos Lun.

Na, wyddoch chi ddim beth sy'n mynd i ddigwydd nesaf.
Peth felna ydi bywyd.

  • Gellir archebu tocynnau ar 01286 685226 ac mae gwybodaeth ar wefan y cwmni. Bydd perfformiadau tan ddiwedd Gorffennaf 2005 ac yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.

  • Ar un adeg yr oedd y rhan hon o Goedwig Gwydyr yn dir agored a dafliad carreg o'r labyrinth, yng nghanol dalien poethion a thyfiant anghroesawus tebyg, mae olion hen gartref Thomas a Margaret Morris - Pen y Parc, lle magodd y ddau 14 o blant. Cliciwch i ddarllen am Deulu Pen y Parc.

Cysylltiadau Perthnasol
Manylion am y perfformiad
Ymweliad teulu


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Eisteddfod
Bei-Ling Burlesque
Mwnci ar Dân
A Toy Epic
A4
Actus Reus
Actus Reus - adolygiad
Ar y Lein
Araith hir yn y gwres
Back to the Eighties
Bitsh
Branwen
Branwen - adolygiad
Bregus
Breuddwyd Branwen
Breuddwyd Noswyl Ifan
Bryn Gobaith
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caban Ni Caban Nhw
Caerdroia
Caffi Basra
Café Cariad
Café Cariad
Camp a Rhemp -
Canwr y Byd Caerdydd
Cariad Mr Bustl
Crash
Cymru Fach
Cysgod y Cryman
Cysgod y Cryman - barn arall
Dan y Wenallt
Dawns y Cynhaeaf
Deep Cut
Deinameit
Dewi Prysor DW2416
Digon o'r Sioe
Dim Mwg
Diweddgan
Diweddgan - barn Aled Jones Williams
Dominios - adolygiad
Drws Arall i'r Coed
Erthyglau Cynllun Papurau Bro
Esther - adolygiad
Ffernols Lwcus
Fron-goch
Gwaun Cwm Garw - adolygiad
Gwe o Gelwydd
Gwell - heb wybod y geiriau!
Halen yn y Gwaed
Hamlet - adolygiad 1
Hamlet - adolygiadau
Hedfan Drwy'r Machlud
Hen Bobl Mewn Ceir
Hen Rebel
Holl Liwie'r Enfys
Iesu! - barn y beirniaid
Jac yn y Bocs
Johnny Delaney
Life of Ryan - and Ronnie
Linda - Gwraig Waldo
Lleu
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llywelyn anghywir
Lysh gan Aled Jones Williams
Macsen
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
Maes Terfyn
Maes Terfyn - adolygiad
Marat - Sade
Mari'r Golau
Martin, Mam a'r Wyau Aur
Meini Gwagedd
Melangell
Mosgito
Mythau Mawreddog y Mabinogi
Môr Tawel
Nid perfformiad theatrig
Noson i'w Chofio
O'r Neilltu
O'r boddhaol i'r diflas
Owain Mindŵr
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar:
adolygiadau ac erthyglau

Pwyll Pia'i
Rapsgaliwns
Redflight Barcud
Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
Sibrydion
Siwan - adolygiadau
Siwan - adolygiadau
Siwan - barn Iwan Edgar
Sundance
Tafliad Carreg
Tair drama tair talaith
Taith Ysgol Ni
Taith yr Urdd 2007
Theatr freuddwydion
Trafaelu ar y Trên Glas
Tri Rhan o Dair - Adolygiad
Tri Rhan o dair
Twm Siôn Cati
TÅ· ar y Tywod
Wrth Aros Godot
Wrth Borth y Byddar
Y Bonc Fawr
Y Crochan
Y Dewraf o'n Hawduron
Y Gobaith a'r Angor
Y Pair
Y Pair - Adolygiad
Y Pair - adolygiad Catrin Beard
Y Twrch Trwyth
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Yn y Ffrâm
Yr Argae
Yr Ystafell Aros
Zufall
Eisteddfod
Yr Eisteddfod
Genedlaethol
2008 - 2004

Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


Eisteddfod 2004
Eisteddfod 2003
Eisteddfod 2002
erthyglau
Bitsh! ar daith drwy Gymru
Adeilad y Theatr Genedlaethol
Alan Bennett yn Gymraeg
Beckett yn y Steddfod
Blink
Bobi a Sami a Dynion Eraill
Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
Buddug James Jones
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caerdroia
Clymau
Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
Cysgod y Cryman - her yr addasu
Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
Dominos
Drws Arall i'r Coed
Ennyn profiadau Gwyddelig
Esther
Ffernols Lwcus
Fron-goch yng Ngwlad Siec
Frongoch
Grym y theatr
Gwaun Cwm Garw
Gŵyl Delynau Ryngwladol
Hamlet - ennill gwobr
Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
Hen Rebel
Holi am 'Iesu'
Iesu! - drama newydd
Llofruddiaeth i'r teulu
Lluniau Marat-Sade
Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
LluniauMacsen - Pantomeim 2007
Llyfr Mawr y Plant ar daith
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Marat - Sade
Marat - Sade: dyddiadur actores
Mari'r Golau
Mari'r Golau - lluniau
Meic Povey yn Gymrawd
Melangell
Migrations
Mrch Dd@,
Mwnci ar Dân
Myfyrwyr o Goleg y Drindod
Olifer - Ysgol y Gader
Owain Glyndŵr yn destun sbort
Panto Penweddig 2006
Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Ploryn
Porth y Byddar
Romeo a Juliet
Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
Sion Blewyn Coch -
y seicopath?

Siwan ar daith
Streic ar lwyfan
Sundance ar daith
Teulu Pen y Parc
Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
TÅ· ar y Tywod
TÅ· ar y Tywod
- y daith

Wrth Aros Godot - holi actor
Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
Y Pair
Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
Y ferch Iesu
Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
Yr Argae ar daith


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý