Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹Éç Homepage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Môr Tawel
Un dyn yn erbyn
Ond gormod o sgrifennu a gormod o gynnwrf mewn drama am Ddafydd Ddu Feddyg
Bu Phil ap Iorwerth yn gweld Môr Tawel gan Ian Rowlands yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, Mawrth 10, 2001
Cyn troi at y ddrama ar erfformiad rhaid nodi un neu ddau o bethau.
Cyn troi at y ddrama ar perfformiad rhaid nodi un neu ddau o bethau.

Cynulleidfaoedd bach

O bryd iw gilydd Mae Theatr Clwyd wedi ei beirniadu am beidio a chynnwys digon o gynhyrchiadau Cymraeg.

A bod yn hollol onest fedra i moi beio.
Er bod cynulleidfa go dda ar gyfer y cynhyrchiad o Damwain a Hap, rai misoedd yn ôl, roedd Theatr Stiwdio Emlyn Williams ymhell o fod yn llawn ar gyfer Cegin y Diafol, gan Siôn Eirian.

Maen ddrwg gen i ddweud mai dim ond rhyw 20 oedd yno i wylior perfformiad hwn o ddrama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000.

Mae hyn yn warth ar dref Daniel Owen.

Rhaglen dda

Hoffwn hefyd nodi bod codi £2 am raglen, er yn ymddangos yn ddrud, yn dderbyniol iawn y tro hwn gan ei bod yn cynnwys holl destun y ddrama yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Drama un actor

Drama ar gyfer un dyn yw Môr Tawel ac maen ymdrin â hanes David Samwell, gwr o Ddinbych fun llawfeddyg ar long y Discovery ar daith olaf Capten Cook.

Fei hadnabuwyd hefyd fel Dafydd Ddu Feddyg ac roedd yn fardd ac yn aelod o Orsedd Iolo Morganwg.

Dyfan Roberts syn perfformio rhan David Samwell, ac fel pob drama ar gyfer un perfformiwr maen gamp aruthrol cofior testun i gyd - 15 tudalen o sgript - a rhaid edmygu a pharchu actor syn medru dygymod âr fath orchwyl.

Yr awdur ywr cyfarwyddwr.

Llong wedi dryllio

Mae Sean Crowley iw ganmol am gynllunio set seml ond effeithiol. Ar ganol llwyfan gwag mae llong wedi ei dryllio gydar sgerbwd ar asennau yn amlwg yn cynnal y bwrdd gydag un mast unig a ffalig ar ei chanol.

Maer ddraman cychwyn mewn storm gyda Samwell wedi dringor mast ac yn gweiddi yn erbyn y gwynt ar taranau:

"Melltith ar y storm berffaith hon! Dwi wedi hen ymlâdd ar dôn gron y tonnaun fy siglo am sigo"

(Rhywsut dywr sgript Gymraeg ddim mor lliwgar âr un Saesneg sydd hefyd yn y rhaglen:

"Damn this perfect storm! I have had a surfeit of seas. I am battered to buggery!")

Erchyllterau Cook

Gellid fod wedi creu drama ramantus am hwylior cefnfor yn chwilio am diroedd newydd ac am y North West Passage rhwng y Môr Tawel ar Iwerydd, ond nid dyna a gawn.

Yn lle hynny, cawn ddrama syn datgan yn ddi-flewyn ar dafod yr erchyllterau a gyflawnwyd gan Cook ai griw.

Cawn hefyd ymdeimlo âr gwrthdaro mewnol y bun rhaid i Samwell ymgynefino ag ef, rhwng bod yn Gymro ac yn fardd, a bod yn swyddog gydar Llynges Frenhinol.

Efallai bod y dramodydd yn euog o briodoli i David Samwell - Dafydd Ddu Feddyg - dybiaethau ein hoes ni wrth osod geiriau fel hyn yn ei geg:

"...gred gysegredig y Prydeiniwr, hynny yw, mai fo syn berchen ar ei eiddo ei hun ac yn berchen ar eiddo pawb arall hefyd!"

Prydeiniwr oedd Samwell hefyd.

Storm eu hunllefau

Yn y sgript nodir bod David Samwell yn "hwylio storm ei freuddwydion" ond storm ei hunllefau a gawn mewn gwirionedd, ar rheiny wedi eu dwysau gan y laudanum y maen ei yfed o bryd iw gilydd.

Ac maer perfformiad yn un stormus hefyd, yn wyllt a swnllyd ar brydiau ac, ar adegau eraill, yn gostegu i dawelwch.

Maen berfformiad corfforol hefyd, gyda Dyfan Roberts yn defnyddio pob rhan or set gyfyng - weithiau ar ben y mast, dro arall yn y caban islawr pwp, weithiau ar flaen y llong ddrylliedig.

Atgofion yn gwallgofi

Brygowthan gwr yn mynd oi go a gawn, gwr yn cael ei wallgofi gan atgofion o dreisio a rheibio:

"Torasom glwyfau dyfnion, archollion angheuol, ar draws cefnfor y Pasiffig,"meddai.

Atgofion o lofruddio di-hid, diangen: "Hyd yn oed cyn i droed wen adael ei hôl ar draeth Eden, tywalltwyd gwaed Hawaiiaidd. Collodd Williamson . . . ei bwyll wrth geisio glanio ymysg torf o frodorion lleol oedd wediu cynhyrfun lân gan y newydd-ddyfodiaid. Saethodd at ryfelwr ai daro yn ei fron - bu farw yn y fan ar lle, y tywod yn llyncur bai fel staen, ei waed yn llifo i ddyfnderau dwfn cefnfor o ddial. Aloha, ddyn gwyn; cymer fy ngwraig, fy mywyd, fy nhir, ond mae na bris iw dalu, nid dyled iw thalu â hoelion yw hi, cedwch rheiny ar gyfer croes eich Crist. Am dywallt gwaed, y pris yw, gwaed. Salve, croeso..."

Tuedd i or-sgrifennu

Ac maer dyfyniad hwnnw yn amlygu prif fai y ddrama hon - gor- ysgrifennu.

Mae hyn bob tro yn beryg wrth sgwennu drama ar gyfer un perfformiwr - rydych chin rhy ddibynnol ar eiriau i ddweud y stori ac maer demtasiwn yno i ddefnyddio mwy o eiriau nag sydd eu hangen.

Byddai pedant yn nodi hefyd, os nad oedd troed wen wedi gadael ei hôl ar draeth Eden na fyddair brodorion yn gwybod am Grist.

Ond yng nghynnwrf y perfformiad prin y byddai neb yn sylwi ar hynny.

Goremod o gyffro

Ac yr oedd hwn yn berfformiad cynhyrfus.

Yn rhy gynhyrfus im chwaeth i syn credu y byddai perfformiad tawelach wedi bod yn well.

Gyda digon o liw yn y sgript nid oedd angen perfformiad mor liwgar.

Rwyn pwysleisio mai fymateb personol i yw hyn ac rwyn siwr y bydd llawer wedi mwynhau gwylio Dyfan Roberts yn arddangos ystod mor eang o sgiliau actio a goslefau lleisiol.

Ar ôl awr a mwy yng nghwmni David Samwell doeddwn i ddim yn siwr fy mod i wedi deall y cyfan or ddrama gymhleth a chyfoethog hon. Roeddwn i, fodd bynnag, yn llawn edmygedd or egni ar angerdd ym mherfformiad Dyfan, ac or gamp o gofio atgofion David Samwell, Dafydd Ddu Feddyg.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Eisteddfod
Bei-Ling Burlesque
Mwnci ar Dân
A Toy Epic
A4
Actus Reus
Actus Reus - adolygiad
Ar y Lein
Araith hir yn y gwres
Back to the Eighties
Bitsh
Branwen
Branwen - adolygiad
Bregus
Breuddwyd Branwen
Breuddwyd Noswyl Ifan
Bryn Gobaith
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caban Ni Caban Nhw
Caerdroia
Caffi Basra
Café Cariad
Café Cariad
Camp a Rhemp -
Canwr y Byd Caerdydd
Cariad Mr Bustl
Crash
Cymru Fach
Cysgod y Cryman
Cysgod y Cryman - barn arall
Dan y Wenallt
Dawns y Cynhaeaf
Deep Cut
Deinameit
Dewi Prysor DW2416
Digon o'r Sioe
Dim Mwg
Diweddgan
Diweddgan - barn Aled Jones Williams
Dominios - adolygiad
Drws Arall i'r Coed
Erthyglau Cynllun Papurau Bro
Esther - adolygiad
Ffernols Lwcus
Fron-goch
Gwaun Cwm Garw - adolygiad
Gwe o Gelwydd
Gwell - heb wybod y geiriau!
Halen yn y Gwaed
Hamlet - adolygiad 1
Hamlet - adolygiadau
Hedfan Drwy'r Machlud
Hen Bobl Mewn Ceir
Hen Rebel
Holl Liwie'r Enfys
Iesu! - barn y beirniaid
Jac yn y Bocs
Johnny Delaney
Life of Ryan - and Ronnie
Linda - Gwraig Waldo
Lleu
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llywelyn anghywir
Lysh gan Aled Jones Williams
Macsen
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
Maes Terfyn
Maes Terfyn - adolygiad
Marat - Sade
Mari'r Golau
Martin, Mam a'r Wyau Aur
Meini Gwagedd
Melangell
Mosgito
Mythau Mawreddog y Mabinogi
Môr Tawel
Nid perfformiad theatrig
Noson i'w Chofio
O'r Neilltu
O'r boddhaol i'r diflas
Owain Mindŵr
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar:
adolygiadau ac erthyglau

Pwyll Pia'i
Rapsgaliwns
Redflight Barcud
Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
Sibrydion
Siwan - adolygiadau
Siwan - adolygiadau
Siwan - barn Iwan Edgar
Sundance
Tafliad Carreg
Tair drama tair talaith
Taith Ysgol Ni
Taith yr Urdd 2007
Theatr freuddwydion
Trafaelu ar y Trên Glas
Tri Rhan o Dair - Adolygiad
Tri Rhan o dair
Twm Siôn Cati
TÅ· ar y Tywod
Wrth Aros Godot
Wrth Borth y Byddar
Y Bonc Fawr
Y Crochan
Y Dewraf o'n Hawduron
Y Gobaith a'r Angor
Y Pair
Y Pair - Adolygiad
Y Pair - adolygiad Catrin Beard
Y Twrch Trwyth
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Yn y Ffrâm
Yr Argae
Yr Ystafell Aros
Zufall
Eisteddfod
Yr Eisteddfod
Genedlaethol
2008 - 2004

Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


Eisteddfod 2004
Eisteddfod 2003
Eisteddfod 2002
erthyglau
Bitsh! ar daith drwy Gymru
Adeilad y Theatr Genedlaethol
Alan Bennett yn Gymraeg
Beckett yn y Steddfod
Blink
Bobi a Sami a Dynion Eraill
Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
Buddug James Jones
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caerdroia
Clymau
Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
Cysgod y Cryman - her yr addasu
Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
Dominos
Drws Arall i'r Coed
Ennyn profiadau Gwyddelig
Esther
Ffernols Lwcus
Fron-goch yng Ngwlad Siec
Frongoch
Grym y theatr
Gwaun Cwm Garw
Gŵyl Delynau Ryngwladol
Hamlet - ennill gwobr
Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
Hen Rebel
Holi am 'Iesu'
Iesu! - drama newydd
Llofruddiaeth i'r teulu
Lluniau Marat-Sade
Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
LluniauMacsen - Pantomeim 2007
Llyfr Mawr y Plant ar daith
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Marat - Sade
Marat - Sade: dyddiadur actores
Mari'r Golau
Mari'r Golau - lluniau
Meic Povey yn Gymrawd
Melangell
Migrations
Mrch Dd@,
Mwnci ar Dân
Myfyrwyr o Goleg y Drindod
Olifer - Ysgol y Gader
Owain Glyndŵr yn destun sbort
Panto Penweddig 2006
Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Ploryn
Porth y Byddar
Romeo a Juliet
Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
Sion Blewyn Coch -
y seicopath?

Siwan ar daith
Streic ar lwyfan
Sundance ar daith
Teulu Pen y Parc
Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
TÅ· ar y Tywod
TÅ· ar y Tywod
- y daith

Wrth Aros Godot - holi actor
Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
Y Pair
Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
Y ferch Iesu
Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
Yr Argae ar daith


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý