| |
|
Blink Gofidio nad oes llwyfan i addasiad Cymraeg
Mae awdur drama Saesneg yn ymwneud â phlant a gafodd eu camdrin gan eu hathro wedi dweud ei fod yn gofidio nad yw fersiwn Gymraeg wedi cael ei llwyfannu.
Bu Blink gan Ian Rowlands ar daith o amgylch Cymru yn ystod Hydref a Thachwedd 2007.
Mae'n ymwneud â'r hyn a ddigwyddodd yn Ysgol Gyfun Rhydfelen yn yr Wythdegau pryd cafodd plant eu cam-drin gan un o'r athrawon, John Owen.
Arweiniodd y cyhuddiadau yn erbyn John Owen at gyhoeddi adroddiad Clywch gan Gomisiynydd Plant Cymru.
Ond cyn hynny yr oedd John Owen, athro Addysg Grefyddol yn Rhydfelen ac athro a oedd yn ganolbwynt gweithgareddau drama a pherfformio yr ysgol, wedi lladd ei hun cyn i achos llys yn ei erbyn gael ei gynnal.
Cael pobl i ddeall Yr oedd Ian Rowlands yn un o ddisgyblion yr ysgol ar y pryd ac er na chafodd ef ei hun ei gam-drin dywedodd ei fod yn ei hystyried yn "orfodaeth" arno sgrifennu a rhoi'r hanes ar lwyfan "fel bo pobl Cymru yn deall beth a ddigwyddodd".
"Roeddwn i'n teimlo fy mod i eisiau bod yn llais i'r rhai wnaeth ddatgan eu poen i mi," meddai wrth gael ei holi gan Gwilym Owen ar y rhaglen radio, Wythnos Gwilym Owen ddydd Llun, 19 Tachwedd, 2007.
"Y ddawn sydd gen i yw sgrifennu dramâu felly felly sut allwn i ddefnyddio y ddawn sydd gen i, i unioni rhyw fath o gam," meddai.
Addasiad Cymraeg Er bod addasiad Cymraeg o Blink wedi ei baratoi gan y dramodydd, Gareth Miles, dywedodd Ian Rowlands ei fod o'n siomedig nad yw'r addasiad hwnnw yn cael ei lwyfannu hefyd.
"Mae addasiad Gareth Miles yn un hynod ac fe fyddai'r ddrama wedi atseinio mewn ffordd hollol wahanol gyda chynulleidfa Gymraeg," meddai Ian Rowlands.
"Nid yn [ddrama] gryfach [yn y Gymraeg] ond yn wahanol achos fe fyddai'r touchstones wedi bod yn wahanol ac fe fydden nhw wedi deall y cyd-destun Cymraeg dipyn bach mwy," meddai.
"Yn y ddrama bresennol does yna ddim lot o sôn am yr iaith er enghraifft," ychwanegodd.
Cytunodd ei bod yn anffodus nad oes neb wedi gafael yn y fersiwn Gymraeg a'i lwyfannu.
"Mae yn addasiad arbennig," meddai.
"Yr oedd yna fwriad i'w llwyfannu ac ar y funud olaf fe dynnwyd yn ôl," eglurodd.
"Fe welodd rhai o'r actorion y ddrama [Saesneg] yng Nghaernarfon ac fe ddywedson nhw, 'Pam nad ydym ni wedi gwneud y ddrama yma fe fuasem ni wedi bod wrth ein bodd cael ei gwneud yn y Gymraeg?'
"Ac fe fyddwn innau wrth fy modd hefyd," meddai Ian Rowlands.
'Bwli carismatig' Yn cymryd rhan yn y drafodaeth hefyd yr oedd un o actorion Blink, Lisa Palfrey, yr oedd John Owen yn 'athro dosbarth' iddi yn yr ysgol.
Dywedodd ei bod yn ei gofio fel "bwli" a "dyn pwerus iawn" ond ni chafodd hi yn bersonol ei thrin fel rhai o'r plant eraill a fu'n cwyno am ei ymddygiad.
"Fel plentyn bach roeddwn i wrth fy modd yn ei gwmni e. Yr oedd yn ddyn a charisma ffantastig. Roedd e'n gwneud pethau gwych gyda drama ac fel rhywun oedd wastad eisiau bod yn actores, wrth gwrs roeddwn i eisiau i'r dyn yma fy hoffi fi a rhoi rhan i mi yn y dramâu," meddai.
"Ond roeddwn i hefyd yn gweld ochr greulon iawn i'r dyn yma, hyd yn oed pan oeddwn i'r ferch fach [11 oed].
"Roedd e'n chwarae gyda meddyliau plant, eu emosiynau nhw.
"Roedd e'n fwli o'r radd eithaf ac er fy mod i ofn y dyn ac yr oedd hwnna wedi cario mlaen trwy gydol fy amser yn yr ysgol [ond] yr oedd yna rhyw reddf yna fy mod i'n dal eisiau iddo fy hoffi i," meddai.
Ychwanegodd ei fod "yn ddyn pwerus iawn" gyda'r "rhan fwyaf o blant yn byw mewn ofn o John Owen".
Meddai: "Yr oedd e naill ai'n eich hoffi chi neu ddim ac ef oedd yn penderfynu pryd oedd e yn gwneud hynny.
"Yr oedd hyd yn y oed y plant mwyaf caled yn yr ysgol ofn John Owen.
"Fel roeddwn i'n dweud, roedd e'n ddyn pwerus iawn ac mewn ffordd ef oedd yn rhedeg yr ysgol. Roedd e fel teyrn ar yr holl beth."
Ychwanegodd: "Mae'n anodd disgrifio. Ond fel plentyn 11 oed dyna'r unig brofiad oeddwn i'n wybod ac roeddwn i'n meddwl ei bod yn normal cael ein trin fel yna gan athro."
Dosbarth gweithiol Dywedodd yn ystod y sgwrs hefyd fod y bechgyn yr oedd John Owen yn eu "dewis" yn dod o gartrefi di Gymraeg, dosbarth gweithiol.
"A beth oedd e'n i wneud oedd 'grŵmio' y rhieni hefyd a dwi'n meddwl ei bod yn bwysig fod y ddrama yn yr iaith Saesneg achos plant o deuluoedd di-Gymraeg oedd gan amlaf yn cael eu cam-drin," meddai.
Ychwanegodd i'r profiad o actio yn Blink fod yn "un o'r gweithiau mwyaf pwysig rydw i erioed wedi wneud" ac iddo fod yn brofiad cartharthig iawn iddi fel person.
Cynhyrchwyd Blink gan gwmni theatr newydd FAB o Gaerdydd.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|