| |
|
Tri Rhan o Dair - Adolygiad Myfyrion Alan Bennett - tri yn un yn y Gymraeg.
Adolygiad Lowri Rees o Tri Rhan o Dair. Neuadd Buddug, Y Bala, 13 Tachwedd 2007.
Er imi fod yn gyfarwydd â gwaith Alan Bennett nid oeddwn wedi gweld perfformio y gyfres o fonologau Talking Heads o waith y meistr hwn o'r defnydd o'r iaith Saesneg.
A minnau wedi clywed ers tro fod Bara Caws yn ymarfer tair o'r monologau yn y Gymraeg ar gyfer y daith bresennol yr oeddwn wrth fy modd mai yn Neuadd Buddug Y Bala y byddai'r perfformiad cyntaf.
Gwahanol Roeddwn yn disgwyl perfformiad tra gwahanol nid yn unig o gymharu â pherfformiadau arferol Bara Caws ond o safbwynt y monologau eu hunain gan imi gael achlust y byddai'r cynhyrchydd, Betsan Llwyd, yn gwau'r tri monolog drwy'i gilydd yn hytrach na dilyn steil arferol Alan Bennett o actor yn perfformio monolog cyflawn yn syth i gamera.
Yn amlwg, bum yn dyfalu sut y byddai'r neidio o un cymeriad i'r llall a'r symud yn ôl a blaen rhwng 'straeon' yn gweithio.
Bu'n syniad gwych ac fe hoeliwyd diddordeb y gynulleidfa heb amharu ar yr hyn oedd gan yr unigolion ar y llwyfan i'w ddweud!
Ond rhybudd, mae angen canolbwyntio'n drylwyr ar y geiriau os am amsugno hanes y tri chymeriad.
Y tri monolog a ddewiswyd oedd: A Chip in The Sugar - Chipsan yn y Siwgr gan Owen Garmon.
Bed Among the Lentils - Gwely Mysg y Ffa Bach Coch gan Olwen Rees.
A Lady of Letters - Ledi Lythrennog gan Valmai Jones.
Tair cadair Erbyn imi gyrraedd Neuadd Buddug yr oeddwn yn falch o weld cynulleidfa eithaf teilwng yno'n barod a'r perfformiad newydd ddechrau gyda thair cadair wag wedi eu gosod yn ddestlus ar y llwyfan i wynebu'r gynulleidfa.
Set seml dywyll a disylw i efelychu cartrefi a bywydau'r tri chymeriad a fyddai'n hel meddyliau ger ein bron.
Daeth yr actorion i'r llwyfan, Valmai Jones, Olwen Rees ac Owen Garmon, i eistedd yn y cadeiriau ac yn fuan iawn gwelwyd defnydd effeithiol iawn o olau spot wrth symud o un cymeriad i'r llall a hynny'n ffordd heb ei hail o danlinellu geiriau'r cymeriadau - y tri wedi eu gosod mewn cefndiroedd Cymreig.
Roedd cymeriad Owen Garmon yn byw gyda'i fam a'i hanes yn cael ei ddatgelu ym manylder ei fywyd bob dydd.
Mae'n dioddef o salwch meddwl a chawn gyfeiriadau at gyfnod mewn hostel a'i gred fod pobl yn ei ddilyn ac yn ei wylio. Dywedai'n yn aml bod ei fam yn dweud wrtho am gymryd tablet, a hynny yn ein harwain i feddwl ei fod yn ddibynnol ar feddyginiaethau er mwyn cadw ei hunan yn sefydlog.
Nid yw'n hapus iawn gyda charwriaeth newydd ei fam a hwythau wedi treulio eu hamser ym mhocedi ei gilydd cyhyd cyn hynny a'r fam yn cyfeirio at ei mab fel ei 'chariad' a hwythau'n cerdded ym mreichiau ei gilydd.
Roedd wedi colli ei dad ddeugain mlynedd ynghynt ac roedd yn llythrennol wedi neidio i'w esgidiau. Ni allai rhywun ond teimlo tosturi.
Mae cymeriad Olwen Rees yn wraig i'r ficer yn byw yng nghysgod ei gŵr, Iestyn, a'r ffaith iddo ei chymryd yn ganiataol, gan gynnwys ei chred yn Iesu Grist a'i mwynhad o fod yn wraig i ficer.
Ond mae hithau hefyd yn wynebu gwallgofrwydd ac o'i chael hi'n anodd delio â bywyd bob dydd mae'n troi at y ddiod - gan gynnwys y gwin cymun - ac yn cael carwriaeth nwydus gyda gŵr Asiaidd sy'n rhedeg siop yng Nghonwy.
Myfyrion dynes fusneslyd (Valmai Jones) sy'n cael pleser o gwyno drwy lythyrau a bod yn niwsans i'r gymdeithas gyfan yw'r trydydd monolog.
Gwêl ddrwg ym mhawb! Ond mae'r monolog er yn llawn tristwch am fywyd y cymeriad, yn andros o ddoniol hefyd tra bo'r geiriau a'r ymadroddion yn adlewyrchu bywyd caeth.
Treuliodd ei bywyd yng nghysgod ei mam yn gofalu ac yn edrych ar ei hôl am flynyddoedd.
Trist Mae'r tri monolog fel ei gilydd yn datgelu unigolion trist. Tri sydd mewn gwahanol ffyrdd wedi gofalu am a bod yng nghysgod eraill a hynny wedi effeithio yn fawr ar eu bywydau unig eu hunain.
Camp Bennett yw ei fod yn gallu cyfleu hyn mewn ffordd mor arbennig sy'n hoelio cynulleidfa mewn cynhyrchiad arbennig a chlyfar iawn gyda chastio gwych a thri actor yn rhagorol!
Yn bendant byddwn yn annog pawb fanteisio ar ymweliad y cynhyrchiad a'u theatr leol gan fod yma chwerthin a thristwch a dwys fyfyrio a gwledd o eiriau wedi eu gwau yn gywrain.
Cynhyrchiad fydd yn aros yn y cof am yn hir. Gwych!
Rhagor am y cynhyrchiad a manylion y daith
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Glyn Jones
|
|
|
|