Sioe gerdd Coleg y Drindod ar y ffordd i Broadway
Bydd sioe gerdd am Siwan - gwraig Llywelyn Fawr - gan fyfyrwyr o Gymru yn cael ei pherfformio ar Broadway, Efrog Newydd, yn dilyn taith o amgylch Cymru.
Llys Llywelyn Fawr yw cefndir sioe gerdd newydd gan Eilir Owen Griffiths a Ceri Elen a fydd yn cael ei pherfformio gan fyfyrwyr blwyddyn tri Ysgol Theatr Cerdd a'r Cyfryngau Coleg y Drindod, Caerfyrddin.
Cariad ifanc hen Dywysog
.
Hanes Siwan, merch anghyfreithlon y Brenin Ioan a roddwyd y wraig i'r hen dywysog, Llywelyn Fawr, yw cnewyllyn Clymau a hynny'n arwain at berthynas odinebus rhwng y Siwan ifanc â'r arglwydd Normanaidd, Gwilym Brewys.
Cyflwynir yr hanes drwy lygaid ei morwyn, Megan, a'i chariad Ceiron sy'n dystion i gyfres o ddigwyddiadau trychinebus fel y maent yn datblygu yn llys Llywelyn.
Comisiynwyd y sioe yn arbennig ar gyfer y myfyrwyr ond pwysleisiodd y cyfansoddwr, Eilir Owen Griffiths, er bod hon yn hen stori mae'r cynhyrchiad yn un modern iawn.
Nid dyma'r tro cyntaf i Ceri Elen, sydd wedi ennill medalau drama a llenyddiaeth yr Urdd, ac Eilir, a enillodd Dlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, gydweithio.
"Bu'r gerddoriaeth yn hawdd ei chyfansoddi oherwydd patrwm a llif rhythmig geiriau Ceri Elen," meddai Eilir sy'n ddarlithydd Cerdd yng Ngholeg y Drindod ac yn Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl y Drindod.
Ychwanegodd i'r myfyrwyr ymateb "yn bositif iawn" i'r sioe.
Sondheim a Sheik
Cyfeiriodd Eilir at ddylanwadau cyfansoddwyr fel Jason Robert Brown a Steven Sondheim ar y gwaith ac yn arbennig Spring Awakening gan Duncan Sheik.
"Mae popeth yn y sioe byddai pobl yn ei ddisgwyl yn ogystal ag ambell syndod - dawnsio, canu, brwydrau â chleddyfau, gwleddoedd meddw, cyfnodau trist a rhai yn llawn hiwmor," meddai.
Ychwanegodd bod elfennau ysgafn a thywyll i'r sioe gan addo 'aith emosiynol' i'r gynulleidfa.
Y daith
Bydd taith Clymau rhwng Chwefror 8 a 13 gyda pherfformiad yn Efrog Newydd fel rhan o Wythnos Cymru ddechrau Mawrth dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Dyma'r perfformiadau yng Nghymru:
Theatr Ardudwy, Harlech Chwefror 8
Theatr Colwyn , Bae Colwyn Chwefror 9 a pherfformiad prynhawn Chwefror 10
Theatr Felinfach, Felinfach Chwefror 12
Canolfan Gartholwg, Pontypridd Chwefror 13
Mae tocynnau ar gael am £8 neu £6 drwy'r theatrau neu o Goleg y Drindod Caerfyrddin - 01267 676685.
Dywedir mai sioe ar gyfer rhai dros 12 oed yw hon.