|
Cyfres Dymuniadau Da a Barddoniaeth Boced-din Adolygiad o Limrigau Prysor gan Dewi Prysor a Geiriau Doeth ac I Godi'r Galon gan Tegwyn Jones.
Limrigau Prysor gan Dewi Prysor, Cyfres Barddoniaeth Boced-din. Gwasg Carreg Gwalch 拢3.50. Geiriau Doeth ac I Godi'r Galon gan Tegwyn Jones. Cyfres Dymuniadau da. Gwasg Carreg Gwalch. 拢2.99 yr un.
"Mae'n wirion, mae'n waci, mae'n wych!" Anodd iawn ymwrthod 芒 chyfrol sy'n cael ei disgrifio fel yna. Bydd y rhai hynny sy'n gyfarwydd 芒 darlleniadau cyhoeddus Dewi Prysor o'i limrigau niferus yn ei chael yn anos fyth gan iddo ennill cryn enw da yn y Sesiwn Fawr yn Nolgellau ac ar Dalwrn y radio.
"Mae Dewi Prysor wedi rhoi'i stamp ei hun ar y mesur. Does fawr neb yn cael deg marc amdanyn nhw ar y Talwrn ond mae hwn," meddai'r broliant ar gefn y gyfrol hon mewn cyfres sy'n cael ei galw yn Barddoniaeth boced-din a llawn cystal bod y gair boced yna rhwng y ddau arall gan y gall limrigau fod y llall hefyd!.
Mesur hwylus Llyfryn bach 64 tudalen yn mesur rhyw bedair modfedd efo chwech ydi Limrigau Poced ac yn cynnwys rhyw 170 o limrigau i gyd.
Mae'r limrig yn fesur hwylus ar gyfer tipyn o hwyl ond er mor hawdd a rhwydd y gall ymddangos dydi creu limrig da ddim yn gamp cwbl ddiymdrech.
Yn aml, daw'r pedair llinell gyntaf yn gymharol rwydd - rhoi pen ar y mwdwl ydi'r gamp gan fod y llinell glo yn aml iawn yn gadael y 'bardd' i lawr!
Yn ffodus iawn, prin yn y gyfrol hon yw'r enghreifftiau o hynny'n digwydd ac mae Dewi Prysor yn gallu clymu'r rhan fwyaf o'i ymdrechion yn barseli bach digon taclus.
Eithriad yw un sy'n cychwyn mor addawol a hon Mi es i fin nos i bysgota Ar lannau Llyn Tegid ger Bala; Wrth obeithio dal wopyr Gesi'r stori'm y monstyr
ond yn gorffen gyda'r llinell siomedig A bachais y bws cyntaf adra.
Gyda'r un llinell gyntaf, mae'r nesaf 'ma'n plesio'n well: Mi es i fin nos i bysgota Peth anodd os gin ti'm penglinia, 'Chos mae'n anodd iawn castio Heb rheini'th syportio, Ond mae'n llawer anoddach heb freichiau.
Weithiau, mae'r darlun yn gwbl swreal er efallai nad yw'r gafael ar y mesur gant y cant yn achos y ffermwr o'r Traws a'i iar ryfeddol: Mae ffarmwr o Traws wedi bridio I芒r ddodwy wya 'di cwcio, Sganddi'm plu, mae hi'n noeth, A mae'i thin hi mor boeth Mae hefyd 'nei hiwsio i weldio.
Y cyfuniad perffaith o'r afreal a'r dichwaeth y byddai rhywun yn ei ddymuno mewn limrig!
A lle, yn wir, fyddai unrhyw limrigwr heb Gymreigiadau o eiriau Saesneg i'w helpu gyda'r odl?
Ac, wrth gwrs, mwya'n byd yr amwyster rhywiol, gorau'n byd y limrig yng ngolwg llawer: Mi oedd gan Elliw wiwer, Un ufudd ac addfwyn ei thymer, Roedd y wiwer yn hoffi, Ffeindio llefydd i'w chosi, Ac roedd Elliw yn gwenu bob amser.
Ond rhaid imi gyfaddef mai'r limrigau hynny sy'n hongian ar fachyn yr afreal sy'n apelio fwyaf ataf i: Roedd gan Christine Gwyther gwningan Ond fe'i collodd yng ngwallt Rhodri Morgan A cyn cyfri i dri Roedd y bwni fach ffri Di lluosi i ddwy fil ar hugain.
Cyfres Dymuniadau da Yn y ddwy gyfrol ddiweddaraf yng Nghyfres Dymuniadau Da o lyfrau - sydd yr un maint a llyfryn Dewi Prysor - yr ydych debycach o ddod o hyd i englynion neu epigramau taclus na limrigau beiddgar gan fod y llyfrynnau hyn yn fwy syber na'r llall.
Nid bod yn feirniadol yw dweud hynny gan fod y gyfres hon yn un hynod o ddymunol ac yn un yr awgrymais o'r blaen yr hoffwn ei gweld yn cael ei chasglu ynghyd mewn cyfrol foethusach ei diwyg maes o law.
Cyhoeddwyd dau deitl yn barod, Lle i Enaid Gael Llonydd a Serch ac mae I Godi'r Galon a Geiriau Doeth yn ychwanegiadau na ellir ond eu croesawu - er gwaethaf gweld peth o'i gynnyrch ei hun yn cael ei ddyfynnu!
I gyfleu eu natur nid oes angen ond dyrnaid o ddyfyniadau o'r ddwy:
Geiriau Doeth: Beth yw bod yn genedl? Dawn yn nwfn y galon. Beth yw gwladgarwch? Cadw ty Mewn cwmwl tystion. Waldo Williams.
Beth yw gobaith? Y gwybod - O dan y bai fod da'n bod. T. James Jones
Sosialaeth 'Run cyfle i bawb 'Run faint i bob un A thipyn bach ecstra I mi fy hun. Iwan Griffiths
Pan fo dyn yn dwyn o un llyfr, fe elwir hynny'n ll锚n-ladrad: ond pan fo'n dwyn o lawer o lyfrau, fe elwir hynny'n ymchwil. T. H. Parry-Williams.
Cadw dy droed allan o dy dy gymydog rhag iddo flino arnat a'th gas谩u. Llyfr y Diarhebion
I Godi'r galon: Os wyt am fynd yn hen Dos yn Gynghorydd Sir, Ni fyddi fyw am byth Ond byddi fyw yn hir. Arfon Huws, Llanengan.
Er serchus gof am y Warden Ianto Fu farw'n sydyn a'i gremeto, Gwasgaewyd ei lwch ar y stryd yn y Bermo Er mwyn i bawb gael parco arno. Alun Jenkins, Pontarfynach.
Fe gredai bardd o Gwm Pen Anner Fod limrigau yn rhy hir o'r han... Wynne Ellis
Buddiol ar ddiwedd y cyfrolau yw'r mynegai i'r gwahanol ffynonellau. gan Glyn Evans
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆社 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|