Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹Éç Homepage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Maes TerfynMaes Terfyn - adolygiad
Drama newydd i gwmni newydd gan Gwyneth Glyn

  • Adolygiad Kate Crockett o Maes Terfyn gan Gwyneth Glyn. Theatr y Sherman, Caerdydd, nos Iau, 20 Medi 2007. Cwmni Sherman Cymru.
  • Cwmni newydd yw Sherman Cymru a ffurfiwyd drwy uno Sgript Cymru a Theatr y Sherman, a drama newydd gan Gwyneth Glyn, Maes Terfyn, yw eu cynhyrchiad cyntaf, wedi'i chyfarwyddo gan Arwel Gruffydd.

    Cegin fferm
    Mae Dwynwen (Sara Cracroft) ac Emyr (Huw Garmon), yn gwpwl priod o gwmpas y deugain oed, yn byw ar fferm yn ardal Cricieth, gyda Dwynwen yn ffermio ac Emyr yn potsian cyfieithu, ac yn penderfynu ceisio ennill mwy o arian drwy roi gwersi Cymraeg unigol yn y cartref.

    Cegin y ffermdy yw canolbwynt y set - ac oni bai am y gliniadur a Geiriadur Bruce ar y ford, go brin fod y gegin wedi newid llawer ers hanner canrif a mwy.

    Mae caeau'r fferm - Maes Terfyn - yn ffinio â'r môr ac mae'r set, y goleuo a'r effeithiau sain yn llwyddo i gyfleu'r lleoliad i'r dim.

    Jo yw disgybl cyntaf Emyr - ac nid y Jo(seff) yr oedd e wedi'i ddisgwyl sy'n dod i aros yn eu cartref, ond Jo(celyn)- swyddog PR o Lundain sydd am ail-afael yn y Gymraeg a ddysgodd yn blentyn yn Llandudno.

    Mae hi'n deall yr iaith ond heb allu siarad fawr ddim ("fatha Shep ni" meddai Dwynwen) - dyfais sy'n golygu y gall y ddeialog lifo heb ormod o dalpiau o Saesneg.

    Does fawr o groeso i'r disgybl gan Dwynwen.
    Mae'n ddilornus o ymdrechion ei gŵr fel athro ac mae'r cyferbyniad corfforol rhwng Dwynwen (bychan, di-siâp, di-raen) a Jo (tal, tenau, trwsiadus) yn boenus o amlwg o'r cychwyn cyntaf.
    Maen nhw'n ddau begwn eithaf hefyd o ran agwedd at fywyd.

    Cychwyn y fachog a ffraeth
    Yn y golygfeydd agoriadol hyn cawsom linellau bachog, ffraeth, gydag amseru gwych gan yr actorion yn codi hwyl y gynulleidfa ac yn cychwyn y ddrama ar nodyn uchel.

    Roedd hi'n braf gweld Lauren Phillips yn cael hwyl ar bortreadu cymeriad cwbl wahanol i'w rhan fel Kelly ar Pobol y Cwm.

    Fodd bynnag nid oedd Jo yn codi uwchlaw'r stereoteip o'r Lundeinrwaig ddinesig yn aml iawn. Roedd ei sylwadau am fod yn lactose intolerant ac yn gluten free yn ddoniol ar y cychwyn; ond dyfais o gymeriad yw Jo mewn gwirionedd sydd yno er mwyn amlygu'r hollt enfawr ym mherthynas Dwynwen ac Emyr.

    Disgwyl i rywbeth ddigwydd
    Ond ar ôl y dechrau cryf a lwyddodd i sefydlu'r cymeriadau a'r sefyllfa, cefais fy hun yn dyheu am i rywbeth ddigwydd.

    Cawsom olygfeydd hirion gyda'r tri yn cecru ac yn arthio ar ei gilydd, yn bennaf ynglŷn â'r bwriad i ddatblygu marina yn yr ardal, ond troi yn eu hunfan wnaeth y trafodaethau.

    I mi, dyma oedd man gwan y ddrama.
    Codwyd fy ngobeithion gyda dyfodiad pedwerydd cymeriad - ond prin oedd golygfeydd Dora Jones fel mam Dwynwen.

    Ysbryd yn taro heibio yw'r fam, weithiau'n siarad â'i merch, weithiau'n symud yn ddisylw drwy'r tŷ. Byddwn wedi hoffi gweld yr elfen hon yn cael ei datblygu'n fwy. Eto roedd digon o awgrym ym mherfformiad Dora Jones i ni ddeall bod natur glwyfedig Dwynwen yn ymwneud rywsut â hanes ei mam.

    Cyfrinachau
    Fodd bynnag, o'r diwedd cafwyd datblygiadau yn y stori. Roedd y ffaith bod Jo yn gweithio ym maes PR yn awgrym cryf y byddai ganddi gymhellion cudd dros ddysgu Cymraeg.

    Mae gan Dwynwen hithau ei chyfrinachau sydd yn cael eu gorfodi i'r wyneb, ac mae Emyr a Dwynwen yn gorfod penderfynu a oes dyfodol i'w priodas.

    Daeth uchafbwynt y ddrama yn y golygfeydd dirdynnol hyn tua'r diwedd, a rhaid cyfeirio yn benodol at berfformiad grymus Sara Cracroft.

    Fel kate Roberts
    Gallai Dwynwen yn hawdd fod wedi'i benthyg o un o straeon Kate Roberts - ei nod yw cadw'r fferm i fynd er gwaethaf popeth ac nid oes lle i joio byw yn ei hagwedd biwritanaidd.

    Tasg anodd yw portreadu cymeriad mor anghynnes heb golli cydymdeimlad y gynulleidfa'n llwyr ond ym munudau olaf y ddrama, mae'r argae'n torri a chawn ddeall pam ei bod mor galon-galed.

    Mae portread Huw Garmon o'r llipryn di-liw Emyr hefyd yn argyhoeddi.

    Ym Maes Terfyn cawn ddarlun poenus o gofiadwy o berthynas ar chwâl, ac mae'r ddrama'n brawf arall o ddawn arbennig Gwyneth Glyn.

    Efallai y byddai'r ddrama ar ei hennill o docio ar rai o'r golygfeydd tua'r canol ond mae'r cynhyrchiad caboledig hwn yn ddechrau addawol tu hwnt i gwmni newydd Sherman Cymru.

  • Adolygiad gan Glyn Jones
  • Taith y ddrama

  • Felinfach: Theatr Felinfach 25 - 26 Medi 01570 470697
  • Bangor: Theatr Gwynedd 28 - 29 Medi 01248 351708
  • Pwllheli: Neuadd Dwyfor 2 - 3 Hydref 01758 704088
  • Harlech: Theatr Harlech 5 Hydref 01766 780667
  • Abertawe: Theatr Y Grand 9 - 10 Hydref 01792 475715
  • Aberystwyth: Canolfan Y Celfyddydau 13 Hydref 01970 623232/p>

  • Cysylltiadau Perthnasol


    cyfannwch

    Catrin Alun, Abertawe
    Fe wnes innau fwynhau'r ddrama'n fawr iawn. Un sylw - fyddai geiriadur Bruce byth mewn cystal cyflwr gan gyfieithydd go iawn!!

    Lea o Bwllheli
    Wedi mwynhau'r ddrama yn fawr iawn, actio gwych gan bawb.

    Ceri Lewis o Bwllheli.
    Maes terfyn yn ddrama dda.Mwynhau hi lot.



    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý