|
Alan Bennett yn Gymraeg Addasiad newydd o dair o monolog gan y meistr Saesneg
Adolygiad o Tri Rhan o Dair
Mae monologau y dramodydd Saesneg Alan Bennett yn cael eu cydnabod yn eang fel campweithiau ymhlith llenyddiaeth Saesneg.
A pherfformiad Cymraeg o dair o'r monologau hynny yw cynhyrchiad Theatr Bara Caws, Tri Rhan o dair sy'n cychwyn ar daith yn Y Bala nos Fawrth 13 Tachwedd 2007.
Gwau drwy'i gilydd Ond nid cyflwyniad syml o dair monolog fydd hwn gan i Betsan Llwyd y cyfarwyddwr a'r tri actor, Valmai Jones, Olwen Rees ac Owen Garmon benderfynu gwau'r monologau drwy'i gilydd gan symud yn ôl a blaen rhwng y cymeriadau.
Mae hynny'n wahanol iawn i'r cyflwyniad gwreiddiol o'r myfyrion gydag actor yn syllu'n syth i gamera tra'n dweud y geiriau.
Yn wir, dywedodd Bennett ei hun mai gyda'r lleiaf o symudiadau yr oedd ei eiriau yn gweithio orau.
Dywedodd Betsan Llwyd wrth Â鶹Éç Cymru'r Byd ei bod yn ymwybodol o'r her ac nad yn ddifeddwl y penderfynodd newid y dull o gyflwyno ar gyfer y cynhyrchiad llwyfan Cymraeg.
"Fe wnaethon ni arbrofi cyn penderfynu ar yr hyn ydym ni yn ystyried y dewis gorau," meddai.
Dewis yr actorion Rhywbeth arall sy'n gwneud y cynhyrchiad hwn yn wahanol yw mai'r actorion eu hunain gyfieithodd eu monolog eu hunain.
"Fe gafodd yr actorion ddewis pa fonolog oedd pob un eisiau'i gyfieithu a nhw gyfieithodd eu monolog eu hunain felly yr oedd ganddyn nhw eu hunain lawer o 'input'," meddai Betsan Llwyd a ddywedodd hefyd i'r monologau gael eu Cymreigio ar gyfer y cynhyrchiad Cymraeg.
O Leeds i Gymru Ond dywedodd nad yw'n bryderus y bydd y Cymreigio, a symud y cymeriadau gwreiddiol o gynefin Bennett yn Leeds, yn mennu ar y gwaith gan mai teimladau a syniadau'r cymeriadau yw cyfoeth y gwaith nid eu lleoliad.
Dydi gwaith Bennett ddim yn ddieithr i BeBetsan Llwyd gan iddi hi ei hun berfformio un ohonyn nhw pan ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Wyddgrug yn 1991.
Dywedodd ei bod yn cofio i ddefnydd Bennett o iaith yn Talking Heads "daro tant" gyda hi pan ymddangoson nhw ar y teledu gyntaf yn 1984.
"Mae'r sgrifennu yn ymddangos ei fod yn hawdd a ffwrdd a hi," meddai, "ond mae pob gair ac ymadrodd wedi ei ddewis yn ofalus iawn; mae yna ddewis gofalus iawn o eiriau a brawddegau," meddai.
Y tair monolog a ddewiswyd gan yr actorion i'w perffotrmio yw:
A Chip in The Sugar - Chipsan yn y Siwgr gan Owen Garmon.
Bed Among the Lentils - Gwely Mysg y Ffa Bach Coch gan Olwen Rees.
A Lady of Letters - Ledi Lythrennog gan Valmai Jones.
gyda Owen Garmon, Valmai Jones ac Olwen Rees
Bydd y perfformiad cyfan yn parhau am awr a hanner.
Dyma Alan Bennett Daeth Alan Bennett i amlygrwydd gyntaf Yng Ngwyl Caeredin yn 1960 pan ymddangosodd yn y sioe Beyond the Fringe gyda Dudley Moore, Peter Cooke a Jonathan Miller ond er i'r lleill hefyd wneud enw iddynt eu hunain Bennett a dyfodd fel llenor a dramodydd ac y mae ei lyfrau yn parhau ymhlith gwerthwyr gorau y farchnad lyfrau Saesneg.
Heb os, ei gyfraniad mawr fu ei fonologau, yn cael eu perfformio nid yn unig gan actorion blaenllaw ond ganddo ef ei hun hefyd mewn llais hytrach yn undonog ond cyfareddol serch hynny.
Pobl gyffredin yn hel meddyliau oedd ei ddeunydd gyda'i ddefnydd gofalus o iaith a'i sylwgarwch anhygoel yn troi yr hyn all ymddangos ar yr olwg gyntaf yn syniadau crwydrol yn llenyddiaeth dreiddgar.
Ganwyd Bennett yn Armley, Leeds, 1939, yn fab i gigydd ac wedi gwasanaeth milwrol, pryd y dysgodd Rwsieg, graddiodd mewn Hanes yn Rhydychen gan aros yno am rai blynyddoedd cyn troi cefn ar ysgolheictod a dechrau llenydda.
Y daith Nos Fawrth Tachwedd l3 Neuadd Buddug, Y Bala Siop Awen Meirion (01678) 520658
Nos Fercher Tachwedd 14 Neaudd Talybont, Talybont, Aberystwyth, Falyri Jenkins (01970) 832560
Nos Iau Tachwedd l5 Theatr y Gromlech, Crymych Kevin Davies (01239) 831455
Nos Wener Tachwedd 16 Neuadd Llangadog, Menter Iaith Dinefwr 01558 825336
Nos Lun Tachwedd 19 Neuadd Dwyfor, Pwllheli Swyddfa Docynau 01758 704088
Nos Fawrth Tachwedd 20 Neuadd Dwyfor, Pwllheli Swyddfa Docynnau 01758 704088
Nos Fercher Tachwedd 21 Neuadd Dwyfor, Pwllheli Swyddfa Docynnau 01758 704088
Nos Iau Tachwedd 22 Pafiliwn Corwen (01490 412305)
Nos Wener Tachwedd 23 Theatr John Ambrose, Rhuthun Ffion Clwyd 07702048184
Nos Sadwrn Tachwedd 24 Theatr Twm o'r Nant, Dinbych Siop Clwyd: 01745 813431 neu 01745 812349
Nos Fawrth Tachwedd 27 Theatr Gwynedd, Bangor Swyddfa Docynnau: 01248 351708
Nos Fercher Tachwedd 28 Theatr Gwynedd, Bangor Swyddfa Docynnau: 01248 351708
Nos Iau Tachwedd 29 Ysgol y Moelwyn Blaenau Ffestiniog Gwen Edwards 01766 830435
Nos Wener Tachwedd 30 Canolfan Gymuned Llanrwst Menter Iaith Conwy 01492 642357 neu Siop Bys a Bawd
Nos Sadwrn Rhagfyr 1 Neuadd Oliver Jones, Glynceiriog Menter Maelor 01978 363791
Nos Fawrth Rhagfyr 4 Canolfan Bro Aled, Llansannan Delyth 01745 870513 neu Eilir 01745 870415
Nos Fercher Rhagfyr 5 Neuadd Goffa Amlwch, Amlwch Ian 076919) 205217 neu Corwas 01407 830277
Nos Iau Rhagfyr 6 Ysgol Gyfun Llangefni, Llangefni Gareth: 01248 421660 neu 07969456202
Nos Wener Rhagfyr 7 Galeri, Caernarfon Swyddfa Docynnau: 01286 685222
Nos Sadwrn Rhagfyr 8 Galeri, Caernarfon Swyddfa Docynnau: 01286 685222
|
|
|