Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹Éç Homepage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Aled Jones Williams pan enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol TyddewiIesu! - drama newydd
Iesu Grist yn ddynes . . .
Dynes fydd Iesu Grist yn nrama ddiweddaraf Aled Jones Williams!

Ond dywedodd y dramodydd nad rhoi sioc i bobl ond eu cael i feddwl yw ei fwriad gyda Iesu! a fydd yn cael ei llwyfannu gyntaf yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd gan Theatr Genedlaethol Cymru.

"Dwi'n gobeithio; fwy na siocio, gwneud i rywun feddwl ac mae gwneud i rywun feddwl yn bwysicach na rhoi sioc iddyn nhw," meddai ar y rhaglen Wythnos Gwilym Owen ar Â鶹Éç Radio Cymru ddydd Llun, Mai 19, 2008.

Pam yn ferch
Eglurodd yr offeiriad o Borthmadog, sydd hefyd yn un o ddramodwyr mwyaf blaenllaw Cymru, pam y dewisodd wneud Iesu yn ferch ar gyfer y ddrama:


"Yn gyntaf y llun o Iesu sydd ganddo chi ydi rhyw Ayrian Blonde . . . y gwallt hir melyn, y llygaid glas, tal - ond mae yna rywbeth yn ferchetaidd iawn am hwnna.

"Ac roeddwn i eisiau dilyn y trywydd yna a symud o'r syniad yma o ddyn - er mai dyn ydi Iesu wrth reswm, nid ei ryw o sy'n bwysig ond y cnawd ac felly fe benderfynais ddilyn y trywydd benywaidd sydd yn glir yna.

"A hefyd, mae hwnna yn rhan o symud pobl, eu taflu nhw oddi ar eu hechel - dyn ydych chi'n ddisgwyl, dynes ydych chi'n gael," meddai.

A honno'n ddynes wedi siafio'i phen hefyd o bosib er nad yw'r elfen honno yn y cynhyrchiad wedi ei benderfynu eto.

Person cymhleth
"Mae'n berson cymhleth iawn dwi'n meddwl yn yr ystyr beth sydd yn cyflyrru'r Iesu yma.

"Rydan ni'n meddwl am yr Iesu tyner , am yr Iesu llawn cariad - ie, ond dwi'n meddwl bod yna Iesu hefyd sydd yn ymwneud â grym ac am ddisodli un math o rym efo grym arall.

"Dwi'n meddwl ei fod yn berson mwy cymhleth ac ar ôl y dyn - neu'r ddynes - rydw i wedi mynd a be di'r cymhelliad a hwnna ydi'r peth mawr yn y ddrama yma."

Anodd i'w sgrifennu
Dywedodd na fu'n ddrama hawdd ei sgrifennu.
"Oherwydd pan ydych chi'n mynd i'r efengylau mae gennych chi bedair stori a'r cwestiwn mawr oedd, a oeddwn i'n mynd i ddefnyddio'r geiriau oedd yna ynteu oeddwn i'n mynd i greu rhywbeth arall ac mi benderfynais ddilyn beth sydd yna ac ar un wedd trio creu efengyl arall.

"[A] beth sydd ganddo chi yn y diwedd ydi dehongliad [ond] fuaswn i ddim mor rhyfygus a dweud 'Yr Efengyl yn ôl Aled ' - ond i fod yn berffaith onest y dehongliad yma o sut yr ydw i yn ymateb felly fy ymateb i ydi hwn," meddai.

"Ar un wedd, drama wleidyddol nid un grefyddol ydi hi," meddai.

Oddi ar eu hechel
Ac yn un fydd yn taflu pobl oddi ar eu hechel meddai a dyna pam bod ebychnod ar ôl yr enw Iesu yn y teitl: "Y syniad oedd, pan ydych chi'n dweud Iesu fel yna mai rheg ydi o ac roeddwn i eisiau efallai taflu pobl oddi ar eu hechel er mwyn gwneud iddyn nhw feddwl dipyn bach . . .," meddai.

"Oherwydd bod Iesu yn ffigwr crefyddol a bod yna rywbeth yn gwbl farwaidd yn y byd crefyddol Cymraeg a hefyd, yn yr ystod ehangach yn Ewrop ac yn y byd, fod crefydd yn rhywbeth treisgar ac yn rhywbeth sydd yn erbyn bywyd ac yn symud o hunan fomwyr i bobl grefyddol sydd yn erbyn pobl hoyw roeddwn i eisiau rhoi rhyw syniad arall nad fel yna mae hi," ychwanegodd.

Dim iod o ddiddordeb
Wrth ei sgrifennu dywedodd nad oedd ganddo "iod o ddiddordeb" yn yr eglwysi ond y gymdeithas y tu allan i'r eglwysi ac eisiau iddyn nhw ystyried Iesu fel rhywun gwerth ei ystyried.

"Ac i fod yn berffaith onest naw wfft i'r eglwysi a'r capeli sy gen i ddim iod o ddiddordeb yn fanno ar bobl y tu allan i fanno rydw i eisiau i'r ddrama ddigwydd a bod," meddai.

  • I brif ddalen 'Iesu'


  • Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý