|
Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir' Mae un o brif sylwebwyr y theatr Gymraeg wedi disgrifio Romeo a Juliet fel y cynhyrchiad anghywir gan Gwmni Theatr Genedlaethol Cymru.
Mae hefyd wedi galw am newid yn ffordd y cwmni o weithredu.
Yn siarad ar Wythnos Gwilym Owen ddydd Llun, Tachwedd 1, dywedodd Ceri Sherlock nad yw'r cynhyrchiad o safon theatr genedlaethol ac i'r ddrama anghywir gael ei dewis.
Fodd bynnag achubwyd cam y cynhyrchiad a'r ddrama gan , cadeirydd Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru yn siarad ar yr un rhaglen.
Yr oedd Ceri Sherlock wedi dweud na fu ef yn gefnogol o'r cychwyn i'r syniad o gwmni theatr cenedlaethol fel yr un presennol.
Yn hytrach, mae o'n ffafrio clwstwr o gwmnïau bychain.
Angen cwmnïau byrlymus ac arloesgar "Rhaid imi ddweud, faswn i ddim - dydw i ddim - yn gefnogwr o'r Theatr Genedlaethol fel yr unig ddarpariaeth o theatr yn yr iaith Gymraeg," meddai.
"Mae llawer mwy o ddiddordeb gennyf fi mewn nifer o gwmnïau byrlymus, arloesgar, yn cynhyrchu yn yr iaith Gymraeg.
"Mae hynny yn mynd i roi llawer mwy inni yn y theatr Gymraeg yn y dyfodol ac yn y cyd-destun yna mae'r bobol sydd wedi mynd ati - yn erbyn yr ymholiad oedd wedi digwydd 2001 a'r cyngor na ddylid creu theatr genedlaethol Gymraeg - maen nhw wedyn yn trio creu rhywbeth sydd yn efelychu theatr genedlaethol yn Lloegr neu leoedd eraill ac wrth wneud hynny maen nhw wedi gosod cynsail o ddisgwyliadau sydd yn anodd iawn eu cyflawni efo rhywun heb ddigon o brofiad," meddai.
Ychwanegodd: "O edrych ar y disgwyliadau sydd wedi'u rhoi ar ysgwyddau'r cyfarwyddwr artistig a disgwyliadau post colonial fel petai y Theatr Genedlaethol sydd ohoni ar hyn o bryd dwi'n meddwl fod yn rhaid gofyn eto ai dyma'r ffordd orau ar gyfer darpariaeth o'r safon uchaf, theatr yn yr iaith Gymraeg."
Nid chwalu Ond dywedodd nad oedd yn galw am chwalu Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru a chychwyn eto ond yn hytrach am i reolwyr y Theatr Genedlaethol edrych yn ehangach am bobl "sydd wedi cael profiad helaeth yn y maes . . . sydd wedyn yn gallu cyrraedd y disgwyliadau sydd o anghenraid wedi'u gosod arnyn nhw oherwydd y tag, theatr genedlaethol.
"Fe fyddwn i'n sicr yn ailystyried y drefn bresennol a'r disgwyliadau a osodwyd gan y Theatr Genedlaethol," meddai.
Ymhelaethu yr oedd Ceri Sherlock ar sylwadau hynod o feirniadol a wnaeth am y cynhyrchiad o Romeo a Juliet yn y cylchgrawn Golwg.
Nid yn unig dywedodd wrth Gwilym Owen fod dewis y ddrama hynod o anodd hon yn gamgymeriad ond awgrymodd hefyd nad cyfarwyddwr artisitg Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru oedd yr un i'w chyfarwyddo.
Gwneud sioe Meddai wrth Gwilym Owen: "Mae Cefin Roberts yn gyfarwyddwr o showman ac yn medru rhoi sioe arno yn dda - miwsicals ac ati - ac mewn ffordd yn pontio'r byd amatur ac addysg yn arbennig o dda ond ryda ni'n sôn am theatr genedlaethol yn y cyd-destun yma ac felly roeddwn i'n gorfod edrych, fel petai, ar pa fath o ddisgwyliadau sydd yna i gyfarwyddwr sydd yn gyfarwyddwr artistig theatr genedlaethol a lle oedd e'n arwain y cwmni fel petai a'r actorion crai ac hefyd yr actorion gwadd," meddai.
Pan ofynnodd Gwilym Owen iddo ai dweud yr oedd o nad oedd gan Cefin Roberts "yr adnoddau proffesiynol" i fod yn gyfarwyddwr artistig cwmni theatr cenedlaethol dywedodd: "Mae'n rhaid datblygu'r adnoddau yna trwy yrfa broffesiynol - ac mae'n dipyn o gamp i gael eich parasiwtio i mewn a chael eich landio ar y lefel broffesiynol aruchel - sef disgwyliadau y theatr genedlaethol a dydw i ddim yn siŵr ond faswn i'n meddwl mai dysgu ar y pryd ydi'r peth," meddai.
Dewis arall Wrth feirniadu'r penderfyniad i ddewis y ddrama ond am ei bod yn llyfr gosod yn yr ysgolion dywedodd: "Buaswn i wedi lecio gweld actorion profiadol Cymraeg yn cael go ar rywbeth fel Y Dymestl neu Brenin Llŷr efo rhywun fel John Ogwen . . . achos rwy'n meddwl y byddem wedi cyrraedd safon ychydig yn well."
Dywedodd iddo ef, oherwydd ei brofiad personol, edrych ar y cynhyrchiad drwy lygaid cyfarwyddwr pan aeth i weld y ddrama."Cyfrifoldeb y cyfarwyddwr ydi'r dadansoddiad a'r dehongliad a'r cynhyrchu fel petae ac mae pob elfen o'r llwyfaniad yn deillio o hynny a doeddwn i ddim, yn y cyd-destun yna, yn gweld beth oedd bwriad y cyfarwyddwr ar y gwahanol lefelau yna.
"Mae'n dipyn o her ac yn dipyn o gamp i lwyddo - ac rwy'n siŵr nad ydw i wedi llwyddo yn y gorffennol wrth wneud Hamlet yn y Gymraeg," meddai.
Beth ddywedwyd yn Golwg? Yn ei adolygiad yn Golwg yr oedd Ceri Sherlock wedi dweud: "Yn anffodus, methais â gweld beth oedd y prif reswm dros lwyfannu Romeo a Juliet gan y Theatr Genedlaethol, a doedd y cynhyrchiad ddim yn cynnig rhywbeth ffres na newydd i mi.
"Ro'n i hefyd yn disgwyl safon theatr genedlaethol ond, yn anffodus, mi weles i gynhyrchiad oedd yn fwy addas i goleg neu, i fod yn garedig, yr hen weekly rep
"Roedd yna or-ymadroddi cas, gorystumio pantomeim, comedi tebyg i Ma' Ifan 'Ma, set a gwisgoedd retro o'r 1970au. Beth oedd arwyddocad y set bwrdd gwyddbwyll, y miwsig a'r goleuo diystyr ac anghyson?"A beth am y simsanu rhwng Cymraeg a Saesneg? Yn yr ystafell ymarfer, plis, nid yn y cynhyrchiad terfynol."
Gan ddweud ei bod yn her y dylai'r "Theatr Genedlaethol honedig" fynd i'r afael â hi ychwanegodd y dylai hynny fod "at bwrpas ac o safon eithriadol sy'n gweddu i'r statws y mae'r cwmni'n ymgyrraedd ato".
Ychwanegodd y byddai'n llawer gwell ganddo ef weld trosiadau o'r Tempest a Lear " gyda'n prif actorion mwya' profiadol yn gadarn wrth y llyw."
Dywedodd Cefin Roberts na ddymunai ef gymryd rhan yn Wythnos Gwilym Owen
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|