|
Diweddgan Pwdin Dolig o ddifyrrwch uwch.
Ar daith yn awr o amgylch Cymru
Adolygiad Iwan Edgar o Diweddgan gan Samuel Beckett - cyfieithiad Gwyn Thomas. Theatr Genedlaethol Cymru. Theatr Gwynedd, nos Iau, Hydref 5, 2006.
Ia trwm, disgwyliadwy drwm.
Ailadroddus dindroi, beichus - dyna'r math o ddrama ydyw hon.
Llathenni o fregliach a llifeiriant o eto, eto, eto.
Darlunio diddymdra yn ei holl ogoniant gwag. Dyna oedd y bwriad a dyna oedd yn ei wneud, gyda Threfor Selway a Lisabeth Miles yn codi fel Bill a Ben gynt (er parchus goffadwriaeth) o ddau fin lludw yn yr ochr i rwdl athronyddu.
Yntau, y cymeriad canolog , Hamm (Arwel Gruffydd) - mab y ddau sydd yn y biniau - yn ddall ac ynghlwm wrth gadair olwyn yn traethu am y gwegi a Clov (Owen Arwyn) yn anfoddog weini arno.
Marw yn y bun Am wn i mai'r unig ddatblygiad sydd i'r ddrama yw bod Lisabeth Miles (neu'n hytrach, Mamm Hamm) yn marw yn y bin (er mai wrth fynd heibio y mae hynny).
Hamm yn chwilio am ryw gysur cariad tua'r diwedd, a Clov o'r diwedd, ar ôl bygwth drwy'r ddrama, yn mynd a gadael y lle.
I lle mae'n mynd ac i beth nid oes wybod. Dyna pam mai diwedd - gân ydyw. Am wn i.
Cael ei fowlio hyd y lle Cyn hynny, ymhlith nifer o bethau diflas eraill, mae Hamm yn cael ei fowlio hyd y lle rownd a rownd gan Clov, gan fwydro a yw'n y canol pan fo yn y canol ynteu a yw ormod i'r dde ynteu ormod i'r chwith; ormod yn ôl ormod ymlaen, a phethau felly, ac mae llygoden fawr yn y gegin drwodd meddai Clov a rywbeth arall a rhywbeth arall, a Hamm i gael ryw hyn a'r llall wrth iddo chwythu ei bib yn ddiddiwedd i dynnu Clov i wneud rhywbeth neu'i gilydd.
Mae'r holl drefn erbyn hyn wedi troi'n slwj ym mhen rhywun wrth geisio cofio'n ôl; yn gyforiog o symbolaeth a gwir a gau bosibiliadau dehongli.
Mae'r set yn llwm: dau fin, dwy ffenestr, un drws, waliau pyg a chadair efo olwynion bach arni, ac ar y dechrau gorchudd gwyn dros y buniau a'r gadair olwynog. Lle digalon a phrudd.
Piffian a lled chwerthin Lladdfa o ddrama i'w gwneud debygwn i, ond fyddai neb yn gwybod petai'r actorion yn ad-libio gwamalrwydd yn un scoth, gan gymryd na fyddai hynny'n mennu dim ar ysbryd a bwriad y genadwri waelodol.
Mi oedd yna biffian a lled chwerthin gydol y perfformiad y noson gyntaf yn Theatr Gwynedd, drwy fod abswrdrwydd gogleisiol i'r cyboli ar brydiau a'r modd yr oedd y cymeriadau yn ymroi i ryw fanion truenus - er enghraifft, cafwyd cysur o'r ci clwt a wnaed gan Clov i Hamm ac a ddaeth yn rhan o'r props ayyb.
Lled lafar lled lenyddol Rhyw ieithwedd lled lafar a lled lenyddol oedd i'r cyfieithiad gydag ynganu llenyddol braidd ar brydiau - wn i ddim a oedd hynny'n fwriadol ac wn i ddim a oedd hynny o ots.
Mae'n debyg fod Arwel Gruffydd drwy fethu a symud o'i sêt a'r ddau arall yn eu biniau yn gwneud actio arferol yn anodd - ond maent yn llwyddo.
Leciwn i ddim 'mo'r dasg o orfod cofio y ffasiwn druth ag un Arwel Gruffydd oni bai ei fod, fel y dywedais, yn ddigon 'tebol i ddyfeisio o'r newydd wrth ruo a rhefru ymlaen ac ymlaen.
Cadw eu cynulleidfa Yr oedd profiad a hyder yr actorion yn eglur ac yn llwyddo i gadw eu cynulleidfa.
Ond faint o gynulleidfa fydd honno drwy'r daith - wn i ddim.
Drama i bobl ddrama go iawn ydyw hon. Fel y gallai bwytwyr mawr sglaffio dau neu dri pwdin Dolig yn olynol heb ddim menyn melys, rhaid cael dramagarwyr mawr i deimlo y gallant iawn stumogi hon.
Ond 'dydw i ddim yn awgrymu na wyddai'r Theatr Genedlaethol hynny ac mai fi yw'r cyntaf i sylwi ar y peth (neu fyddai fy sylw fawr amgen i rai o sylwadau cwbl ynfyd amlwg y cymeriadau'r ddrama ei hun).
Difyrrwch difyr a Difyrrwch uwch Ond o dderbyn hynny, wrth gwrs, mae yma'r glorian barhaol sydd yn pwyso rhwng difyrrwch "difyr" a difyrrwch "uwch" i'w hystyried.
Ac mae'n siŵr, os caf ateb ar eu rhan, fod y Theatr Genedlaethol wedi penderfynu ein bod yn haeddu dogn o'r difyrrwch "uwch" ar brydiau ac nad ydynt mor wirion a meddwl y bydd y lluoedd yn ciwio tu allan cyn pob perfformiad.
Mae'n debyg nad llawer ceiniog fydd diwedd y gân hon o ran arian wrth y drysau - ond dyna fo, dyna yw'r penderfyniad polisi mae'n debyg.
Aled Jones Williams yn anghytuno Cliciwch
Beth yw eich barn chi - cyfle i ymateb isod . . .
Taith Diweddgan
Dyma fanylion y daith gyda phob perfformiad yn dechrau am 7.30: * - isdeitlo.
Theatr Gwynedd, Bangor. Hydref 5-7*.
Theatr Sherman, Caerdydd. Hydref 11-12*.
Theatr Hafren, Y Drenewydd. Hydref 19*.
Canolfan Gelfyddydau, Aberystwyth. Hydref 24.
Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug. Hydref 27-28*.
Theatr Lyric, Caerfyrddin. Hydref 31.
Theatr Mwldan, Aberteifi. Tachwedd 3 Tachwedd.
Mae'r daith yn cynnwys gweithdai arbennig ar gyfer myfyrwyr drama a dysgwyr y Gymraeg, yn ogystal â'r is-deitlo yn Theatr Gwynedd, Bangor; Theatr Sherman, Caerdydd; Theatr Hafren, Y Drenewydd a Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug.
Cysylltiadau Perthnasol
Taith Diweddgan
|
John Owen, Rhuthun Gwerthfawrogais y perfformiad o "Diweddgan" yn Yr Wyddgrug (y cyntaf o`r ddau). Nid yw`n ddrama i`w mwynhau yn yr ystyr arferol er bod iddi ei hiwmor du.
Mae gen i ddau beth i`w ddweud am y cynhyrchiad:
1.Roedd y ffenestri yn isel ac yn rhy gonfensiynol, ac o ganlyniad ni chafwyd yr esgyn a`r disgyn syrffedus i fyny ac i lawr yr ystol. A mae syrffed wrth hanfod ei ddramâu!
2. Mae seibiau yn bwysig yn nramâu Beckett, ac nid yw hon yn eithriad. Ni chafwyd y seibiau sy`n syfrdanu ac yn tanlinellu rhediad syrffedus amser.
Roedd y cynhyrchiad fel cyfanwaith a`r actio unigol yn effeithiol iawn.
Sian Roberts, Trefor Dw i mor falch i ddarllen hyn - dw i'n gwbod bod cwyno bod drama abswrd yn abswrd fel cwyno bod madarch mewn steak & mushroom pie ond a oedd angen iddi fod cweit mor abswrd?
Mae Iwan Edgar wedi dweud yn union beth oeddwn i'n ei deimlo - a'i ddweud yn llawer gwell. ±á·É°ùê!
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|