|
Actus Reus Yr union beth - digri gyda phlot cyffrous
Adolygiad Glyn Jones o Actus Reus gan Valmai Jones. Theatr Bara Caws gyda Maldwyn John, Eilir Jones, Valmai Jones, Jonathan Nefydd, Dyfan Roberts a Sue Rodderick. Cyfarwyddwr, Tony Llewelyn.
Wel o'r diwedd! Drama gall gan ddramodydd call - ac mae hynny'n beth prin.
Fel rheol, creadur rhyfedd yw'r dramodydd gyda rhyw syniad ffôl fod yn rhaid i ddrama dda fod yn gymhleth gyda chymeriadau deg dimensiwn yn athrawiaethu a siarad yn symbolaidd.
Nid felly'r ddramodwraig hon. Aeth ati i ysgrifennu gydag un bwriad yn unig - gwneud i'r gynulleidfa chwerthin. A chwerthin a gafwyd. Roedd Theatr Gwynedd bron yn llawn a'r chwerthin yn codi'r to. Dyna i chi brofi llwyddiant y ddrama.
Actorion ecsentrig Ond nid rhyw bantomeim di-chwaeth mo hon chwaith. I'r gwrthwyneb, dychymyg soffistigedig sydd ar waith yma.
Stori yw am griw o actorion ecsentrig yn cyrraedd gwesty anghysbell jest cyn y Nadolig i berfformio 'murder mystery'.
Yn anffodus, oherwydd eira trwm ni all y gynulleidfa gyrraedd, ac yma mae'r hwyl go iawn yn dechrau - tra'n ymarfer mae un o'r actorion yn cael gwenwyno ac yn marw yn y fan a'r lle, a does neb yn gwybod pwy sy'n gyfrifol.
Cynnwys y gynulleidfa Iawn, medda chi, be sy'n soffistigedig am hyn?
Wel, mi ddeudai wrthych. Dyma un o'r ychydig ddramâu a welais sy'n cynnwys y gynulleidfa yn y perfformiad.
Cawn ein hunain yn ceisio'n gorau glas i ddatrys y llofruddiaeth ac, os fel fi, yn methu'n lân a gwneud.
Pedwar posibl Pedwar llofrudd posib, pob un a rheswm a chyfle i ladd y Dame Elenora, y ddynes ryfedda a welais ar lwyfan erioed.
Un eisiau ysgariad, un eisiau arian, un oherwydd cyfrinach a'r llall oherwydd casineb pur.
Dyma'r actus reus - y 'weithred euog' os leiciwch.
Fesul un, mae'r cymeriadau parchus, diniwed, yn cael eu rhoi dan y chwyddwydr a chyfrinachau o'r gorffennol yn dod i'r wyneb ac o fewn ychydig mae coelcerth casineb yn fflamio'n braf.
Mae'r emosiynau sy'n medru ein troi o fod yn bobl neis, neis, i fod yn llofruddion gwaed oer i'w gweld yn glir, ac mae rhywbeth reit arswydus yn hyn.
Ac oes, fel ym mhob drama dda mae is blot hefyd gyda thad a mab yn cyfarfod am y tro cyntaf, a hynny yng nghanol yr holl chwerthin.
Mae'r plot yn wirioneddol grefftus ac yn ein cadw'n dyfalu tan y munud olaf un - ac hyd yn oed wedyn mae tro bach neis yn y gynffon.
A hyn oll yn digwydd o fewn set seml - ystafell mewn gwesty. Drama yng ngwir ystyr y gair.
Dros ben llestri Er hyn oll, credaf i'r ddramodwraig fynd dros ben llestri braidd gan anghofio weithiau fod y ffin rhwng y digri a'r hurt yn denau iawn a'r ddrama, gwaetha'r modd, yn croesi'r ffin sawl gwaith.
Nid yw malu iwcaleliwm (feiolin bach) a phoeri brechdan dros y llwyfan yn ddigri o gwbl.
Yr un modd, cymeriadau yn galw enwau ar ei gilydd - plant Dosbarth Derbyn sy'n gwneud pethau felly nid pobl mewn oed.
Trio'n rhy galed oedd y bai mawr ac o ganlyniad collwyd naturioldeb y sefyllfa ac ar adegau fel hyn roedd yr hiwmor yn troi'n syrffed ac yn flinder.
Pam Saesneg? Saesneg wedyn. Nid oedd gofyn amdani o gwbl yn y ddrama hon felly pam ei chynnwys?
Os am gynnwys Saesneg mewn drama waeth ei sgwennu yn Saesneg ddim. Yn lle cân Saesneg i ddechrau, beth am gân Gymraeg? Siawns na all Cymru wneud rhywbeth heb Loegr!
Pobl go iawn? Ac yna'r cymeriadau. Er yn ddigri o ecsentrig, doedd yna fawr mwy iddynt na hyn. Teimlwn weithiau nad bobol go iawn oeddent ond rhyw ddyfeisiadau i'r gynulleidfa chwerthin am eu pennau ac o'r herwydd roedd yr hyn a allai fod yn sefyllfa go iawn yn cael ei throi'n ffars.
Credaf hefyd i'r actio fynd dros ben llestri braidd.
Cymeriadau yn ymladd ar y llwyfan, a'r cwnstabl yn ymddangos fel Sïon Corn ar y diwedd!
O gofio mai holl hanfod drama yw'r cymeriadau, nid oeddwn yn rhy hapus!
Heblaw am y manion hyn, ni allaf ond canmol, canmol a chanmol.
Dyma'r union fath o ddramâu y mae Cymru eu hangen. Dramâu digri â phlot cyffrous i chwalu'r ddelwedd o theatr fel rhywbeth i'r crachach ac i ddod a'n pobol ifainc yn ffrydio drwy'r drysau.
Wedi'r cyfan, fanna mae'r dyfodol, ynte.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Rhodri Ll Evans
|
|
|