Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹Éç Homepage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Manon Eames a Tim BakerWrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
Addo cynhyrchiad fydd yn dweud y gwir am Dryweryn. . .
Bu darogan mai yn Lerpwl y byddai Eisteddfod Genedlaethol 2007 - ond er na ddigwydd hynny fe fydd lle amlwg iawn i Lerpwl yn yr Eisteddfod sy'n cael ei chynnal yn Yr Wyddgrug.

Ond nid Lerpwl ar ei gwedd orau - gan mai un o ddigwyddiadau mwyaf diddorol Prifwyl 2007 fydd y perfformiad cyntaf o ddrama Manon Eames am foddi Cwm Tryweryn i greu cronfa ddŵr ar gyfer y ddinas.

Mor arwyddocaol yw Tryweryn yn hanes Cymru, diau y bydd mwy o edrych ymlaen at y cynhyrchiad hwn nag a fu at unrhyw un arall o gynyrchiadau Theatr Genedlaethol Cymru.

Ond wrth siarad â Â鶹Éç Cymru'r Byd mewn cyfarfod ar lan Llyn Celyn i dynnu sylw'n swyddogol at y cynhyrchiad rhybuddiodd yr awdur nad darlun unochrog, du a gwyn a sentimental, o'r digwyddiad hwn fydd ei hun hi.

Tramgwyddo?
A phan ofynnwyd iddi a fydd yr hyn a welir ar lwyfan yn tramgwyddo rhai pobl dywedodd:
"Dwi'n meddwl falle bydd. Bydd.

"Mae yna rai pethau yn cael eu datgelu nad yw pobl ddim yn eu gwybod," meddai.

"Mae yna elfennau o'r hyn a ddigwyddodd yng Nghymru sydd yn . . . wel ddim yn ddu a gwyn. Dydi hi ddim yn stori ddu a gwyn fel sy'n wir yn aml gyda straeon â chefndir gwleidyddol. Mae yna lot o warth ar sawl ochr," meddai.

Pam a sut
Dywedodd y bydd y ddrama, sy'n gyfuniad o ffaith a ffuglen, yn datgelu'r ffeithiau hyn "yn gywir".

"Rydw i wedi teimlo ei bod yn fater o raid dweud y stori yma," meddai.

Manon Eames "Mae pawb yn gwybod beth ddigwyddodd ond mae lot o bobl nad ydyn nhw yn gwybod pam y digwyddodd o a sut y digwyddodd o a dwi'n meddwl pan fo rhywun yn dechrau darganfod hynny mae rhywun yn gwylltio cymaint mae rhywun yn teimlo ei bod yn fater o raid i ddweud y stori," meddai.

"Ac i ddweud y stori yn y ffordd yma hefyd. I beidio a thynnu nôl ar y ffeithiau, i beidio a gwenieithu ac i beidio seboni gormod a bod yn rhy sentimental ond i ddweud y stori fel y digwyddodd hi," meddai.

Ar y cyd
Am y tro cyntaf yn hanes Theatr Genedlaethol Cymru bydd y cynhyrchiad hwn yn un ar y cyd a chwmni arall, Clwyd Theatr Cymru, gyda Tim Baker yn cyfarwyddo.

"Mae'n gyfle am y tro cyntaf erioed i ddau sefydliad cenedlaethol gydweithio sef Theatr Genedlaethol Cymru a Clwyd Theatr Cymru sydd mewn un ystyr yn sefydliad cenedlaethol Saesneg.

"Mae'n anhygoel fod y ddau wedi dod at ei gilydd nid yn unig oherwydd y pwnc ond oherwydd bod yr Eisteddfod yn yr Wyddgrug felly mae'n gartref i ni o ran daearyddiaeth ac mae'n gartref i'r Genedlaethol o ran iaith."

Pwysleisiodd yntau y bydd y ddrama yn fodd i ddod â'r gwir ffeithiau am foddi Tryweryn i'r amlwg.

"Mae hi'n ddrama fodern iawn o ran steil," meddai. "Mae hi'n gryf, mae ganddi rywbeth i'w ddweud. Mewn un ystyr mae'n wleidyddol gan fod ganddi rywbeth i'w wneud â'n hanes ni ond ar y llaw arall mae'n drist, yn emosiynol ac yn sentimental mewn ffordd bositif iawn."

Yn ogystal ag edrych yn ôl dywedodd fod y ddrama "yn edrych i'r dyfodol" hefyd.

'Meddwl eu bod yn gwybod'
"Mae lot o Gymry yn meddwl eu bod yn gwybod yr hanes ond gyda phob parch dydyn nhw ddim, yn enwedig y to ifanc sydd angen gwybod beth ddigwyddodd er mwyn inni sicrhau na fydd y fath beth yn digwydd yn y dyfodol," meddai.

Ar lan y llyn "Mae rhai yn dweud fod y llwybr i'r Cynulliad wedi dechrau yn Nhryweryn ac mae sôn am hynny yn y ddrama," ychwanegodd.

"Dydi hi ddim yn bendant na all y fath beth ddigwydd eto, dim ond oherwydd bod gennym ni rhyw fath o lais mwy o ran democratiaeth," rhybuddiodd.

Yn sefyll yng nghysgod y capel coffa a godwyd ar lan y llyn dywedodd ei fod ef yn gofidio y gallai ymwelwyr - "gan gynnwys rhai o Lerpwl" - fod yn mynd heibio Llyn Celyn heddiw heb sylweddoli ei arwyddocad.

"Felly rydym yn awyddus iawn i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â hyn a gobeithio wneud cyfraniad tuag at y posibilrwydd o greu rhyw fath o ganolfan fan hyn gan ei fod yn symbol o'n hanes ni," meddai.

Dal yn berthnasol
Dywedodd Manon Eames, er bod hanner can mlynedd union ers y penderfyniad i foddi Tryweryn fod y digwyddiad yn dal yn berthnasol heddiw .

"Ac rydw i'n teimlo pan ddechreuais i edrych ar y stori - ac mae'n stori stori gymhleth - ei bod yn symbol i lot fawr ohonom.

"Ond mae yna lot ohonom sydd ddim cweit yn gwybod beth wnaeth ddigwydd ac mae yna lot o gamddealltwriaeth hefyd - yr oeddwn i wedi camddeall llawer iawn - yn enwedig yn ystod y dyddiau cyntaf ac roeddwn i'n teimlo fod eisiau dweud y stori yma yn enwedig wrth y to ifanc achos mae'n berthnasol iawn iddyn nhw fel un o'r digwyddiadau pwysicaf ddigwyddodd i ni fel cenedl yn ystod y ganrif ddiwethaf," meddai.

Ond addawodd, er y pwnc, na fydd hon yn ddrama heb ei hiwmor.

"Dydw i ddim yn y busnes o orfodi pobl i eistedd mewn theatr i gael eu digalonni yn llwyr. Mae yna obaith ac mae yna adloniant a hiwmor ac agosatrwydd a chariad yn y cynhyrchiad hefyd," meddai.

Cysylltiadau Perthnasol
  • Rhagor am y cynhyrchiad

  • Cofio Tryweryn


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý