|
Dominos Cydweithio - er mwyn yr ifanc
Rhybuddiwyd na fydd cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru - Dominos - yn addas ar gyfer rhai dan 16 oed ac y bydd yna olygfa rywiol a llawer o regi.
Mae'r cynhyrchiad wedi ei anelu yn benodol at bobl ifainc a chyda hynny mewn golwg daethpwyd a phedair awdures newydd cymharol ddibrofiad at ei gilydd i sgrifennu.
Bydd cyfle cyntaf i weld sut y daetho nhw drwyddi yn Clwyd Theatr Cymru Yr Wyddgrug nos Iau, Ionawr 26, 2006.
"Daeth pedair dramodwraig ifanc at ei gilydd i ysgrifennu drama o'i chwr gan dorri tir newydd fydd yn apelio'n bennaf ar gyfer pobl ifanc," meddai llefarydd ar ran y cwmni am Dominos.
Ond ychwanegwyd: "Mae 'Dominos' yn anaddas i rai dan 16 oed. Defnyddir iaith gref a golygfeydd o natur rhywiol," meddir.
Hwrli bwrli "Roedd y broses fel hwrli bwrli o'r dechrau i'r diwedd," meddai Mared Swain, 24 oed o Lantrisant ger Caerdydd a chydysgrifennydd Dominos gyda Manon Wyn o Landwrog ger Caernarfon, Branwen Davies o Landegfan, Ynys Môn, ac Angharad Llwyd o Brion ger Dinbych.
"Fy ngobaith yw y bydd y ddrama'n denu cynulleidfaoedd o bob oed ond os gallwn ddenu cenhedlaeth newydd i'r theatr byddaf wrth fy modd," ychwanegodd.
Cymerwyd bron i flwyddyn i gwblhau'r gwaith gyda phob un yn cyfrannu tuag at y cyfanwaith ac yn cydweithio wedyn gydag actorion a roddodd gig a gwaed i'r cymeriadau a ddarparwyd ar eu cyfer.
Bydd Dominos yn mynd ar daith chwe wythnos wedyn.
Mewn dinas "Gyda'n gilydd datblygwyd drama, sydd wedi'i lleoli mewn dinas, gyda saith cymeriad o gefndiroedd a natur wahanol i'w gilydd," meddi Manon Wyn a fydd yn 24 oed ddiwrnod perfformiad cyntaf Dominos.
"Mae'r adegau clasurol ddramatig ynghyd â chyfnodau o gomedi du'n cyfuno i greu profiad theatrig sy'n hwyl yn ogystal â bod yn ysgogiad," meddai.
Dilyn y ddrama ddiwrnod ym mywyd y saith cymeriad - bywydau sy'n cyd-daro yn dilyn un digwyddiad ar hap.
Fel rhes o ddominos "Mae'r cwbl yn digwydd megis cwymp rhes o ddominos a dyna sy'n rhoi'r teitl i'r ddrama," meddai Branwen Davies, 25 oed.
"A dweud y gwir dyna fu hanes y broses ysgrifennu hefyd wrth i syniadau ddeilio ar syniadau eraill," ychwanegodd.
Cyfansoddwyd cerddoriaeth ar gyfer Dominos gan Osian Gwynedd gynt o Big Leaves ond yn awr gyda Sibrydion.
"Mae'r cynhyrchiad terfynol yn gyfuniad o dalent a ddeilliodd o broses gynhyrchu gynhyrfus, buddiol ac arbrofol," ychwanegodd Angharad Llwyd, 26 oed.
"Mwynheais y profiad yn fawr ac rwy'n siŵr y bydd cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru'n rhannu'r boddhad hwnnw," meddai.
"Mae Dominos yn torri'r mowld artistig yn ogystal ag o ran y mannau y bydd y ddrama'n ymweld â hwy," meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elwyn Williams.
"Bydd y cynhyrchiad hwn, heb os, yn cynnig cyfleon newydd i Theatr Genedlaethol Cymru fydd yn sail i drafodaeth ac yn ysbrydoliaeth i'r gynulleidfa."
Yr actorion fydd: Cast - Melisa Annis, Owen Arwyn, Rhian Blythe, Carys Eleri, Angharad Lee, Dave Taylor a Trystan Wyn.
GweithdaiBydd sesiwn cyn un perfformiad ym mhob theatr ar gyfer dysgwyr y Gymraeg.
"Y tro yma rydan ni'n anelu'n arbennig ar gyfer y rhai sydd newydd ddechrau dysgu," ychwanegodd Elwyn Williams.
"Rydan ni hefyd yn cynnig gweithdai ysgrifennu ar gyfer myfyrwyr drama lefel "A" neu mewn coleg o dan arweiniad profiadol ein Cyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol, Judith Roberts," meddai.
Dylai'r rhai sydd â diddordeb yn y gweithgareddau ychwanegol hyn gysylltu â'u theatr leol neu ffonio Judith Roberts ar 01554 780650 (e-bost: judith@theatr.com) neu drwy ymweld â gwefan Dominos
Y daith Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug ar nos Iau a nos Wener, Ionawr 26-27, 2006.Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Nos Fawrth a nos Fercher, Ionawr 31 a Chwefror 1. Galeri Caernarfon. Nosweithiau Mawrth, Mercher ac Iau, Chwefror 7-9.Theatr Sherman Caerdydd. Nosweithiau Mawrth, Mercher, Iau a Gwener, Chwefror 14-17.Theatr Brycheiniog, Aberhonddu. Nos Lun a nos Fawrth, Chwefror 20 - 21.Theatr y Grand, Abertawe. Nos Iau a nos Wener, Chwefror 23 - 24.Theatr y Gromlech, Crymych. Nos Lun a nos Fawrth, Chwefror 27-28. Pob perfformiad yn dechrau am 7.30pm.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|