|
Esther Daniel Evans yn cyfarwyddo
Mae rhai o enwau amlycaf y theatr yng Nghymru yn gysylltiedig â chynhyrchiad newydd Theatr Genedlaethol Cymru o Esther gan Saunders Lewis.
Chwaraeir rhan Esther ei hun gan Nia Roberts a bydd Daniel Evans, enillydd Gwobr Richard Burton yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn cyfarwyddo.
O'r Beibl Seiliodd Saunders Lewis ei ddrama ar hanes yr Iddewes, Esther, a geir yn y Beibl - stori llawn hunan aberth a chynllwyn.
Bydd yn cychwyn ar ei thaith o amgylch Cymru yng Nghlwyd Theatr Cymru, Ebrill 20.
Comisiynwyd Esther yn wreiddiol gan y Â鶹Éç ym 1958 ac fe'i llwyfannwyd am y tro cyntaf mewn gŵyl drama flynyddol yn Llangefni.
Ar gyfer y cynhyrchiad newydd hwn Nia Roberts, seren y ffilm Solomon and Gaenor a enwebwyd ar gyfer Oscar, fydd yn chwarae rhan Esther.
Cymerir rhan hefyd gan Rhys Richards, enillydd BAFTA am ei ran fel paffiwr yn y ffilm, Cylch Gwaed.
'Gweledigaeth fawr' Cyfarwyddwr Esther yw cyn-enillydd Gwobr Richard Burton, Daniel Evans actor a gafodd brofiad helaeth o weithio gyda Chwmni Drama Shakespeare a'r Theatr Genedlaethol yn Llundain.
Hwn, fodd bynnag, yw ei gyfle cyntaf i gyfarwyddo yn ôl yma yng Nghymru.
"Rwy'n ei hystyried hi'n fraint cyfarwyddo actorion mor amlwg mewn gwaith clasurol dramodydd sydd o bwys ac enwogrwydd Ewropeaidd," meddai.
"Heb os, roedd y Dr Saunders Lewis yn ŵr o weledigaeth fawr ac erys ei ddramâu'n dystiolaeth i'w egwyddorion gwleidyddol, cymdeithasol ac ysbrydol," ychwanegodd.
Amddiffyn ei theulu Yn ôl traddodiad roedd Esther - enw sy'n golygu seren, hapusrwydd, yn yr Hebraeg - yn Iddewes ac yn wraig i Ahasferus, Brenin Persia (485-465 C.C.).
Fodd bynnag, rhoddodd y cyfan yn y fantol, gan gynnwys ei bywyd ei hun, er mwyn amddiffyn ei theulu, ei ffydd a'i phobl,
"Mae'r dewis o gymryd y llwybr cyfiawn tuag at hunan aberth yn amlwg yng ngwaith Saunders Lewis," meddai Daniel Evans.
"Buasai rhai'n dweud bod y nodwedd yma'n adlewyrchiad o fywyd Saunders Lewis ei hun," ychwanegodd.
Actorion eraill Mae aelodau eraill o gast Esther yn cynnwys Julian Lewis Jones, sy'n chwarae rhan Moz yn nrama gyfres boblogaidd Â鶹Éç Cymru, Belonging; Rhys Parry Jones (Llew yn Pobol y Cwm); a'r actor ifanc o Fôn gafodd ei hyfforddi yn y Guildhall yn Llundain, Carwyn Jones.
"Rydan ni'n eithriadol ffodus o allu denu cyfarwyddwr a chast mor brofiadol i ymuno â Theatr Genedlaethol Cymru er mwyn llwyfannu un o ddramâu mwyaf Saunders Lewis," meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elwyn Williams.
Addawodd ef y bydd Esther "yn sicr o greu profiad theatrig na â'n angof am flynyddoedd i ddod.".
Y daith Bydd taith chwe wythnos Esther yn cychwyn yng Nghlwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug am 7.45 o'r gloch nosweithiau Iau, Gwener a Sadwrn, Ebrill 20-22, 2006, cyn mynd ymlaen i:
Theatr y Lyric, Caerfyrddin, nos Fawrth, Ebrill 25, 2006;
Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Mercher a Iau, Mai 3-4.
Theatr y Sherman, Caerdydd, Iau a Gwener, Mai 11-12.
Theatr Mwldan, Aberteifi, Mawrth a Mercher, Mai 16-17.
Theatr Taliesin, Abertawe, Sadwrn, Mai 20.
Theatr Gwynedd, Bangor, Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn, Mai 24-27. Pob perfformiad yn dechrau am 7.30 y nos.
Cysylltiadau Perthnasol
'Grym y theatr' - Daniel Evans
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|