|
A Toy Epic Rhagori ym mhob ffordd
Adolygiad Glyn Jones o A Toy Epic gan
Emyr Humphreys. Addasiad llwyfan gan Manon Eames. Cyfarwyddwr, Tim Baker.
Aelodau'r Cast: Catrin Aaron, LlÅ·r Evans, Gareth Milton, Jonathan Nefydd, Dyfed Potter, Alys Thomas, Dylan Williams.
Roedd Theatr Gwynedd bron yn llawn ar gyfer cynhyrchiad Clwyd Theatr Cymru o nofel fawr gyntaf Emyr Humphreys wedi ei haddasu ar gyfer y llwyfan gan Manon Eames a hynny'n dyst i'r broliant a gafodd y ddrama yn llyfryn y theatr.
"A moving evocation of lost innocence and destiny in a Welsh community where the future seems suddenly fragile and uncertain."
Tri phlentyn Drama am dri phlentyn yn tyfu a lledu eu hadenydd sydd yma. Stori gyfarwydd a gaiff ei dweud a'i hailddweud mewn nofelau a dramâu fel ei gilydd.
Er hyn, nid yw'r stori'n ddiflas, hynny'n bennaf oherwydd y ffordd y'i dywedwyd.
Goleuir y llwyfan i ddangos hen ŵr yn edrych yn hiraethus dros drefi yr hen Sir Fflint. Gorwedd, cysga, cofia.
Ar ddiwedd y ddrama fe ddeffry ac edrych dros y gwastadeddau yn hiraethus unwaith eto. Ymddengys mai breuddwyd yw corff y ddrama. Gwelwn yr atgofion hyn mewn cyfres o vignettes - fflachiadau o fywyd y tri bachgen wrth iddynt dyfu yn ddynion ifanc.
Mae dweud y stori yn y ffordd hon yn cadw diddordeb y gynulleidfa ac yn fodd i ganolbwyntio ar bob un o'r tri bachgen yn eu tro, a hynny mewn ffordd nad yw'n tynnu sylw at ei hun.
Fodd bynnag, credaf i'r ddrama lusgo braidd yn rhy hir. Disgwyliais iddi orffen gyda'r chwarae cuddio, yna gyda sgwrs Iorwerth a Michael, yna gyda'r llun, ac yna gyda'r ddamwain.
Actiwyd y tri phrif gymeriad, Albie, Michael ac Iorwerth gan Dyfed Potter, Gareth Milton a Dylan Williams - y tri yn gwbl gredadwy.
Adlewyrchwyd diniweidrwydd cefn gwlad Iorwerth yn ei acen, ac yn enwedig yn y ffordd y cynhyrfid ef gan bethau fel golau trydan a chael ei symud i flaen y dosbarth am gael ei sỳms yn gywir bob un.
Yn yr un modd, Albie a Michael. Ar ddechrau'r ddrama roedd y ddau yn falch gydag ysgwyddau llydain ond fel y deuai siomedigaethau bywyd i'w blino maent yn troi'n fwy mewnblyg a phenisel.
O un i'r llall Roedd y pedwar actor arall yn actio oddeutu 15 cymeriad rhyngddynt gan newid o un i'r llall yn slic a di-lol.
Catrin Aaron, er enghraifft, yn feistres Maesgwyn, yn wraig y Mans, yn gariad Albie ac yn fersiwn dros ben llestri o athrawes Ladin. Pan newidiai gymeriad roedd ei hacen a'i goslef yn newid gyda hi.
Y llwyfan Roedd y set yn syml ond effeithiol. Dim ond ramp yn codi tuag ochr dde y llwyfan w hwnnw'n cyfleu y bryncyn y safai'r hen ŵr arno ar ddechrau ac ar ddiwedd y ddrama yn wych.
Yr un modd, y llecyn lle chwaraeai'r plant.
Defnyddid y llwyfan i'w lawn botensial. Galluogai i Wil Ifor, yr hogyn drwg, guddio a chwarae castiau ar ei gyfoedion. Galluogai i Iorwerth weld ei gariad a'i ffrind gorau yn cusanu, a hynny heb yn wybod iddynt. Mae hyn oll yn glod i gyfarwyddo effeithlon Tim Baker.
Darlun o fryniau gwyrdd yn null Kyffin Williams oedd y cefndir gan roi'r ymdeimlad o gefn gwlad a Chymreigrwydd.
Ar un achlysur trowyd y cefndir hwn yn las er mwyn ein symud yn drawiadol iawn o gefn gwlad Cymru i noson oer ar bromenâd y Rhyl.
Roedd y gerddoriaeth achlysurol yn cyfleu naws y cyfnod fel y dewis o wisgoedd.
Michael mab y Mans mewn trowsus a gwasgod. Iorwerth mewn trowsus blêr a siwmper dyllog, wladaidd. Albie mewn dillad syml, trefol.
Celfyddyd Roedd iaith y ddrama'n union yr hyn y dylai iaith y theatr fod. Yn wahanol i dalp go helaeth o'n dramodwyr cyfoes mae Manon Eames yn gwerthfawrogi mai darn o gelfyddyd yw drama lwyfan ac fe sicrhaodd fod y ddeialog yn adlewyrchu'r iaith lafar ond sicrhaodd fod ganddi'r rhywbeth bach ychwanegol hwnnw sy'n ei chodi uwchben iaith bob dydd.
Mae'r ddrama'n frith o wreiddioldeb ieithyddol megis y rhyfeddod hwnnw a welodd Iorwerth yn ffenest y siop;
'A pyramid of glistening bottles.'
Mae'r ddrama'n enghraifft berffaith o lenyddiaeth Eingl-Gymreig ar ei gorau. Dengys ddwy iaith a dau ddiwylliant Cymru yn cydfyw.
Mae'n deyrnged i'r oes a fu ac yn cofnodi digwyddiadau'r cyfnod megis y tlodi, y diweithdra, y streicio a'r Rhyfel.
Yn bwysicach, efallai, daw a gwên i'r wyneb gyda'i hiwmor, a thristwch i'n llygaid pan welwn pa mor hawdd y gall breuddwydion ieuenctid chwalu'n dipiau mân.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
|
|