Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Aelodau o'r clwb cerdded Clwb Cerdded
Tachwedd 2009
Mwynhaodd aelodau Clwb Cerdded Llanfairpwll deithiau difyr eto yn ystod mis Hydref.

Wedi torri eu dannedd ar y gwastadedd, ar y 10fed arweiniodd Gareth 'Edmund Hillary' Morgan, gyda chymorth Jean 'Tensing' Pleming y criw heibio Nant y Sebon ac o amgylch y llyn i ben Mynydd Bodafon.

Er mai ag Everest y cysylltir Hilary a Tensing, bu bron i ni feddwl mai yn yr Andes yr oeddem wrth basio y lamas ar y ffordd i lawr.

Roedd yr her wedi ei gosod a'r wythnos ganlynol John 'Bonnington' Gwilym oedd yr arweinydd i ben Moel Siabod o gyfeiriad Daear Ddu.

Roedd y golygfeydd am Gastell Dolwyddelan a thros fwlch y Crimea a Llyn Trawsfynydd yn odidog a'r tywydd cystal (os nad gwell) nag unrhyw ddiwrnod o haf.

Fodd bynnag, dysgodd un aelod wers bwysig, sef nad y ffordd fyraf yw'r un orau bob amser - 'dyw hi ddim yn braf cerdded efo sanau gwlyb!

Bu'n rhaid addasu'r daith ar y 24ain oherwydd y tywydd. Y bwriad gwreiddiol oedd mynd i ben Yr Eifl ac ymweld a Thre'r Ceiri.

Roedd gan fy nain ddywediad - 'Pan fydd Yr Eifl yn gwisgo'i chap, ni fydd fawr hap ar dywydd'.

Wel roedd Yr Eifl nid yn unig yn gwisgo'i chap, ond ei chôt hefyd; felly taith ar hyd yr arfordir o Nefyn draw i Borthdinllaen ac yn ôl trwy'r maes golff fu'r dewis.

A thra roedd Yr Eifl yn dal o'r golwg yn y niwl roedd yr haul yn tywynnu wrth i ni aros am ginio wrth gwt y Bad Achub enwog.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý