Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Y bws o'r Maes Awyr i Esquel Taith Patagonia - rhan 3
08 Hyfref 2003
Mwy o hanes y daith i Batagonia
Dydd Mercher
Mynd am dro i Chile heddiw, ond Mairwen methu dod hi'n sâl heddiw! Cychwyn reit fuan a'r tywydd yn braf iawn. Gweld estrys mewn cae ar y ffordd. Cyrraedd ffin Ariannin tua 11 o'r gloch, allan o'r bws i gael stampio'r passport.

Bws arall wedyn i ffin Chile, allan o'r bws a'r run fath gyda'r Passport a'r Visa ond dim gwên ar wynebau y milwyr.

Ar y ffordd at y ffin, roeddem yn mynd drwy Drefelin, Nant Fach a Cwm Hyfryd a hyfryd ydio hefyd a'r mynyddoedd o'i gwmpas, Gorsedd y Cwmwl yn eu mysg.
Nôl i'r bws ac ymlaen i Futalefu, pentref bach hyfryd ond dim siop yn agored yno!

Cawsom bryd o fwyd mewn caffi, a phawb yn gytun mai'r saLmon a gawsant i fwyta oedd yr un gorau oeddynt erioed wedi ei gael.

Yn ôl i'r bws, Elgar ac Aira hefyd ni ac roeddynt yn adnabod pob afon, fferm ar hyd y daith a phawb oedd yn byw ar y ffermydd. Ar y ffordd yn ôl dyma stopio yn Nant Fach, cartref y Bonheddwr, Vincent Evans (mae newydd fod ar raglen Dai Jones - Cefn Gwlad)

Dyma chi le bach tlws, nant fach yno ac olwyn ddwr fawr, amgueddfa fach o drysorau Cymraeg yno, ac yn cynhyrchu blawd yn y Felin. Cafodd bawb dynnu ei lun hefo Vincent Evans, y Gaucho Cymraeg! Hefyd bum yn ymweld â'r Ffatri Gaws yno, prynodd Meic gaws, reit flasus, a phawb ohonom yn mwynhau tamaid ohono i frecwast. Ie wir, ni wnawn anghofio y lle bach tlws yma, yn edrych i lawr am Gwm Hyfryd. Allan eto heno 'ma, pryd da o fwyd, ac Elgar ac Aira a Lizzie hefo ni.

Dydd Iau
Fy mab yn 40 oed heddiw, meddwl amdano. Cyfarfod ag Elgar y bore 'ma, aeth â ni o gwmpas y siopau a chael prynu matiau wedi eu gwneud gan yr Indiaid. Pawb arall wedi mynd yn y tacsi i ben y mynydd!!

Sylwi ar y sgwennu ar y strydoedd (na skeletons) dim sgerbydau!Gofyn i Elgar beth oedd ystyr hyn, dywedodd bod cwmni mawr eisiau cloddio am aur yn y mynyddoedd o gwmpas Esquel ac y buasent yn defnyddio Cyanide i 'llnau yr aur, a'r ofn mawr oedd i hwn fynd i'r afonydd ac yna i gyflenwad dwr Esquel. Bu referendwm am hyn, a dywedodd pobl Esquel 'Na' i'r cloddio er bod angen gwaith yno.

Yna Aeth Meic a fi i dy Elgar ac Aira am ginio. Pryd ardderchog eto a hen ddigon o siarad. Athrawes fyddai Aira ac Elgar yn ffermio defaid Merino ac ychydig o wartheg. Camp mae nhw yn galw fferm, y mab sydd yn edrych ar ôl y fferm rwan, sydd tua awr o Esquel ar ffordd y Paith, gyda Elgar yn mynd yno pob rhyw 3 diwrnod.

Ar ôl cinio, cychwyn am Drefelin 20 munud o Esquel. Ar ôl cyrraedd yno, mynd o gwmpas yr Amgueddfa, hwn eto yn llawn o drysorau y Cymry a ddaeth i'r Wladfa, Irene yn chwarae'r organ yno a phawb yn canu emyn.

Cerdded at fedd Malacara, y ceffyl enwog a gweld bwthyn Taid wedi ei adnewyddu fel yr oedd gan John Evans gan ei wyres. Achubodd Malacara fywyd John Evans wrth neidio dros ddibyn mawr wrth ddenig oddi wrth yr Indiaid. Lle bach tawel, tlws yn cael edrych ar ei ôl gyda pharch a chariad.

Ymweld wedyn â Chapel Bethel ac Ysgol Gymraeg yr Andes, popeth yn Gymraeg yno Yna i'r caffi, Caffi Galesa am de Cymraeg arall, llawer o Drefelin wedi dod i'n cwrdd a bu gryn dipyn o siarad a holi.

Cyfarfod â Iola, chwaer Vincent Evans, sydd wedi bod yn sgwennu at Mrs Olwen Jones o'r Gaerwen ers dros 20 mlynedd. Pobl diddorol iawn yn Nhrevelin a phawb yn tu hwnt o annwyl.

Nôl i'r gwesty a swper bach yn y gwesty heno 'ma, yna pacio, yn barod at ein taith yfory ar draws y Paith i'r Gaiman a Threlew

Bet Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý