Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Ceinwen Davies Pobl y Fro: Ceinwen Davies
09 Medi 2003
Y mis yma mae Edward yng nghwmni Ceinwen Davies yng Nghaeberllan, Lôn Las, Porthaethwy.

Ychydig ddyddiau yn ôl ar 31 Awst 2003 ymddeolodd un o gymwynaswyr pennaf byd addysg plant oed Meithrin yng Nghymru o'i swydd allweddol.

Gallwn ddadlau'n gryf mai'r Mudiad Ysgolion Meithrin fu mudiad pwysicaf Cymru dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf pan ystyriwch chi'n ymdrech lew a fu i ennill plant bach ac, yn eu sgîl hwy deuluoedd cyfan i ddod i ddefnyddio'r Gymraeg.

Un o'r personau dycnaf ynglyn â'r gwaith ers sefydlu'r Mudiad yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor ym 1971 ac yn wir cyn bod y Mudiad ei hun yn bod, fu'r ddiflino Ceinwen Davies

Bydd Ceinwen yn gadael bwlch mawr ar ei hôl fel Cyfarwyddwr(aig) gyntaf Talaith y Gogledd.

Gwn yn iawn yr un pryd iddi fod yn un o'r rhai cyntaf i longyfarch a dymuno'n dda i Cynthia Owen o Fangor, ei holynydd yn y swydd.

Ganwyd Ceinwen ym Mlaenau Ffestiniog, Meirionnydd ac mae ganddi un brawd, Cynan, sy'n iau na hi. Aeth y ddau i'r Ysgol Gynradd leol ac yna, yn y man, i Ysgol Sir Ffestiniog (Ysgol y Moelwyn heddiw).

Yno hefyd tua'r un pryd yr oedd hogyn ifanc glandeg a dawnus arall a oedd yr adeg honno, ac sy'n dal felly heddiw, yn golygu cymaint i Ceinwen! Ei enw John Meirion Davies.

Ydach, wrth gwrs, rydach chi'n iawn fe ddaeth John a Ceinwen, rai blynyddoedd yn ddiweddarach yn wr a gwraig ac i fagu eu pum plentyn. Dylan Gwyn, Rhys Meirion, Aled Meredydd, Gwion Tudur ac Elin Mared yma yn y Borth.

Gallwn yn hawdd lenwi Papur Menai â hanes y Cynghorydd Sirol John Meirion Davies, Golygydd Cyffredinol presennol ein Papur Bro, hanes y pum plentyn neu luniau'r saith o wyrion bach bywiog sy'n cadw taid a nain mor brysur y dyddiau hyn, ond na! tro Ceinwen y wraig, y fam, y nain, y gymwynaswraig a'r addysgwraig graff yw hwn.

Wedi cymhwyso fel athrawes bu Ceinwen am gyfnod yn addysgu yn Ysgol Ardudwy, Harlech. Ym 1964 priodwyd y ddau gariad o ddyddiau'r Ysgol Uwchradd yn 'Stiniog a daethant i fyw i'r Fro Dawel, nid nepell o Ysgol David Hughes yn y Borth.

Wel, fuodd hi ddim yn Fro Dawel yn hir!! Fel y tyfai'r plantos; teimlai Ceinwen a John yntau yr un mor gryf, bod angen Ysgol Feithrin Gymraeg yn y cylch, a chyda nifer fechan o famau ifanc brwd eraill sefydlwyd un, a'i hagor ym 1967.

Bu Ceinwen yn ei thro yn aelod o'r Pwyllgor Rheoli ac yn fuan yn Gadeirydd y Pwyllgor. Yna, am gyfnod pwysig yn y saithdegau bu hi ei hunan yn athrawes yn yr Ysgol Feithrin.

Gyda'r Mudiad Ysgolion Meithrin yn awr yn tyfu, roedd Ceinwen o ddechrau'r wythdegau ymlaen yn Swyddog Cyswllt Môn i'r Mudiad. Bob yn dipyn daeth i ysgwyddo cyfrifoldebau Cynghorydd i'r Mudiad yn y gogledd.

O'r dechrau'r nawdegau gwelid bod angen profiad mawr Ceinwen Davies ar y Mudiad yn Genedlaethol. Penodwyd hi'n Gyfarwyddwr y Gogledd ac o hynny ymlaen hi fu'n gyfrifol am lywio llawer o'r datblygiadau cyffrous y bu'r Mudiad yn ymhél â hwy.

Yng ngeiriau'r Prif Weithredwr presennol, Hywel Jones, "Sefydlodd Ceinwen Davies lawer iawn o safonau ac arfer dda ar gyfer ein 'Cylchoedd' (yr enw cyfoes am Ysgol Feithrin) a thyfodd hyfforddiant i athrawon ac arweinwyr yn faes arbenigedd ganddi. Bu Ceinwen yn anad neb yn gyfrifol am sicrhau proffil uchel i'r Mudiad yng nghoridorau'r asiantaethau addysgol cenedlaethol".

Lle bynnag yr ewch chi does 'na ddim ond gair da i'w glywed am Ceinwen, gan staff a gwirfoddolwyr y Mudiad, fel ei gilydd. Mae yna barch i'w barn hi ac i'w ffordd ddi-ffws o ymdrin yn fonheddig â gweithwyr a phlant bach a'u problemau. Ar ben y cyfan does ganddi hi byth ofn gwaith caled ymarferol.

Gweithiodd yn y capel, yn helpu'r Urdd yn y Borth, yn Llywodraethwraig yn yr Ysgol Gynradd leol ers blynyddoedd. Mae ei chymwynasau distaw i fudiadau ac unigolion yn ddi-bendraw, a'i choginio ar gyfer pob math o achlysuron yn chwedl!!

Rhaid ymadael. Diolch i chi Ceinwen am gymaint, a mwynhewch ddechrau gweddill eich bywyd. Mae gen i ryw syniad na fydd o ddim yn un segur!

Edward Morus Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý